Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â Mind Casnewydd ar brosiect sy’n derbyn nawdd gan Comic Relief

Cyhoeddwyd Mer 27 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cydweithio â Mind Casnewydd ar brosiect sy’n derbyn nawdd gan Comic Relief
Mae Mind Casnewydd yn un o ddim ond 9 sefydliad ledled y Deyrnas Unedig sy’n derbyn nawdd gan Comic Relief i gyflawni prosiect pedair blynedd o hyd sy’n cefnogi teuluoedd a phobl ifanc gydag anawsterau iechyd meddwl yng Nghasnewydd.

Mae Bridging the Gaps yn brosiect ar y cyd rhwng y partneriaid Mind Casnewydd, Llenyddiaeth Cymru a Community House, Maindee Youth Project. Bydd y prosiect yn cefnogi pobl ifanc gydag anawsterau iechyd meddwl ac yn canolbwyntio ar:

  • Unigolion o gefndiroedd incwm isel
  • Unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME)
  • Unigolion hoyw, lesbiaid, deurywiol, trawsrywiol, a cwiar (LGBTQ)

Y nod yw mynd i’r afael ag unrhyw drawma y maent wedi ei brofi a lleihau sgil-effaith iechyd meddwl bregus trwy weithgareddau creadigol megis barddoniaeth lafar, astudiaethau achos, straeon digidol, ac ysgrifennu creadigol.

Dywedodd David Bland, Prif Weithredwr Mind Casnewydd: “Rydym yn teimlo’n freintiedig iawn ac yn llawn cyffro mai ni yw’r unig sefydliad yng Nghymru i dderbyn y nawdd sylweddol hwn gan Comic Relief. Ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a Community House, Maindee Youth Project, rydym yn ymrwymo i wneud cymaint o wahaniaeth positif a phosib i iechyd a llesiant meddyliol plant, pobl ifanc a theuluoedd o gymunedau lleiaf breintiedig a mwyaf alltud Casnewydd.”

Trwy gydweithio, bydd y partneriaid a’r prosiect yn:

  • Gwella iechyd meddwl pobl ifanc
  • Cynyddu’r opsiynau ar gyfer ymyrraeth gynnar a chefnogaeth hirdymor i bobl ifanc a’u teuluoedd
  • Lleihau amseroedd aros i deuluoedd sy’n ceisio caffael cefnogaeth
  • Gwneud newid positif i agweddau o fewn y gymuned, lleihau stigma a chynyddu ailgyfeiriadau o grwpiau sy’n cael eu cau allan
  • Dylanwadu newid i ddeddfwriaethau a pholisïau i wella gwasanaethau.

Dywedodd Ffion, 16 oed: “Bydd y prosiect yma yn galluogi pobl ifanc a’u teuluoedd i beidio gorfeddwl am y profiadau anodd yn eu gorffennol. Bydd yn lleihau’r tensiynau o fewn y teulu o amgylch digwyddiadau emosiynol, gan gael gwared o’r ‘eliffant yn yr ystafell’ ac annog cyfathrebu agored. Bydd gweithio gyda phobl ifanc ynghyd â’u teuluoedd yn y dull hwn yn eu helpu i deimlo fod y bobl o’u cwmpas yn eu deall ac yn eu cefnogi.

“Mae gonestrwydd a chyfathrebu yn allweddol o fewn teuluoedd, yn enwedig ar ôl digwyddiadau trawmatig, a bydd y prosiect yn cynorthwyo â hyn. Mae’n golygu na fydd pobl ifanc yn cuddio cymaint o’u teimladau rhag eu teuluoedd, ac felly ddim yn gadael i’r emosiynau bentyrru. Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod fod ffordd ymlaen, ac mae dysgu sut i wneud hynny trwy’r prosiect hwn yn bwysig ar gyfer y dyfodol a chynyddu gwytnwch.”

Derbyniodd Comic Relief gyfanswm o 396 cais o bedwar ban byd ar gyfer y cynllun nawdd hwn, ac mae ‘Bridging the Gap’ yn un o ddim ond 9 prosiect sydd wedi derbyn nawdd yn y DU. Y sefydliadau eraill yw: Gendered Intelligence, YCSA, The Rock Trust, The Resurgam Community Development Trust Ltd., Tuntum Housing Association, Audtioactive, Interlink Foundation a Mind in Harrow.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Rydym wrth ein boddau yn cael gweithio gyda Mind Casnewydd a Community House, Maindee Youth Project ar y fenter hollbwysig hon.  Rydym yn credu fod gan lenyddiaeth y grym i wella a thrawsnewid bywydau. Bydd ‘Bridging the Gap’ yn darparu platfform i bobl ifanc a’u teuluoedd fynegi eu hunain a chael lleisio’u barn, yn ogystal â newid dyfodol ein cymunedau er gwell trwy greadigrwydd.”

Ychwanegodd Ingrid Wilson, Cadeirydd Cyfarwyddwyr Community House ar gyfer y Maindee Youth Project: “Rydym yn eithriadol o falch o gydweithio â Mind Casnewydd a Llenyddiaeth Cymru i wireddu’r prosiect trawiadol hwn ‘Bridging the Gap’. Mae gan Community House draddodiad hir a balch o weithio â phobl sydd yn benodol fregus oherwydd eu sefyllfa bresennol, felly rydym yn croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at adeiladu cymuned gref, gofalgar a gwydn gyda’n gilydd.”

Fel gyhoeddir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn yma ar wefan Llenyddiaeth Cymru maes o law.

Plant a Phobl Ifanc