Dewislen
English
Cysylltwch

Mae’r artist a’r hwylusydd Siôn Tomos Owen yn gweithio â’r grŵp sy’n mynychu sesiynau Therapi Coedwigol Croeso i’r Goedwig. Yn ystod y chwe mis cyntaf mae Siôn wedi creu dyddiadur gair-a-llun sy’n archwilio effaith gadarnhaol yr amgylchedd ar iechyd meddwl. Mae’n cefnogi’r grwp wrth geisio lleisio eu syniadau a’u meddyliau a fyddai wedi cael eu hanwybyddu yn y gorffennol. Mae’r grwp yn mwynhau dysgu am faterion natur a’r hinsawdd, o’u grŵp cerdded social snails, i’w hymweliadau â Crop Cycle i ddysgu am ffermio fertigol, i ddysgu gan Glandŵr Cymru ynglŷn ag ail-gyflwyno dyfrgwn ac eogiaid.

Yn ystod rhan cyntaf y prosiect, syweddolodd Siôn ar fuddion lu byd natur, fel mae’n archwilio yn y blog Ffrwyth ein Tân.

Rhybudd: Mae’r dyddiadur hwn yn cynnwys themau o iechyd meddwl a hunan-niweidio.

Mae Siôn nawr yn gweithio â thri grŵp yn Nhreherbert: Grwp Therapi Coedwigol, Y Grwp Ieuenctid, a sesiynau agored yn y neuadd cymunedol. Bydd atgofion, gobeithion, a breuddwydion, y grwpiau gwahanol yn cael eu cyfuno i greu un map digidol, a fydd yn cyd-fynd â ffordd gerdded newydd fydd yn cael ei greu yn y goedwig.

Caiff Ffrwyth ein Tân ei gefnogi’n lleol gan Croeso i’r Goedwig, ac yn genedlaethol gan Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru.