Llên Pawb: Ffilm newydd gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Cafodd y brosiect ei gydlynu gan Llenyddiaeth Cymru, fel rhan o’r prosiect Llên Pawb | Lit Rewch, a ariannwyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Sir Torfaen, mewn partneriaeth â Inspire. Y bardd Jodie Bond a’r gwneuthurwyr ffilmiau Tracy Pallant ac Amy Peckham oedd yn arwain.
Mae Cyfranogi yn un o dri colofn gweithgaredd a phrif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw darparu rhagor o gyfleodd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol.
Yn ôl Tracy Pallant:
Roedd gan y merched ifanc gymaint o syniadau unigryw ar sut i ddarlunio eu cerddi ac ysgrifennu’n greadigol ar gyfer ffilm, a fe lwyddodd y grŵp i greu ffilm gwych gyda’i gilydd.
Dywedodd Jodie Bond:
Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gweithio gydag Ysgol Uwchradd Cwmbrân. Ces fy ysbrydoli’n fawr gan greadigrwydd y plant. Dros tri sesiwn fe weithion ni gyda’n gilydd i gyfansoddi barddoniaeth ar y thema Cymru. Fe archwilion ni holl elfennau bywyd yma, o falchder digwyddiadau chwaraeon, i hanes, a thripiau siopa dydd i ddydd. Aethom ati i ddylunio anifail newydd ar gyfer baner Cymru a lluniodd y disgyblion ddarluniau hyfryd i gyd-fynd a’u gwaith. Yn ein sesiynau, aethom ati i lunio cerddi hapgael, i adrodd straeon, a sgwennu rhyddiaith. Mae’n deimlad arbennig i weld plant yn creu gwaith mor wych ac yn sylwi ar eu camp. Gadawais bob sesiwn yn wên i gyd.
Dywedodd Huw Watkins, Inspire:
Roedd y bobl ifanc wrth eu bodd â’r gweithdai ac fe grëwyd darnau o waith unigryw a chreadigol o safon uchel. Roedd yn bleser eu gweld yn tyfu mewn hyder wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen. Roedd y tiwtoriaid yn wych a llwyddont i gael y gorau o’r holl bobl ifanc, a rhoi’r gefnogaeth a’r sgiliau oedd ei angen arnynt i flodeuo. Dylai’r bobl ifanc fod yn falch iawn o’u hunain.
Yn ôl un o’r bobl ifanc a gymerodd ran yn y sesiynau:
Nes i fwynhau’r sesiynau. Fy hoff ran oedd creu’r cerddi Cymreig a chael y profiad o ffilmio. Rwyf yn bendant yn teimlo’n fwy cyffyrddus wrth siarad o flaen pobl. Roedd yn braf gwneud rywbeth gwahanol ac mi oedd y tiwtoriaid yn hyfryd.
Am ragor o fanylion am ein prosiect Llên Pawb | Lit Reach, ewch draw i’r dudalen prosiect.