Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen Cymraeg @PrifysgolBangor a chategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd Maw 19 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Ffuglen Cymraeg @PrifysgolBangor a chategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Ffion Dafis sy’n cipio’r categori Ffuglen Cymraeg @PrifysgolBangor eleni gyda’i nofel Mori (Y Lolfa), ac mai Grug Muse sy’n cipio’r categori Barddoniaeth, gyda merch y llyn (Cyhoeddiadau’r Stamp).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Fawrth 19 Gorffennaf.

Stori gyfoes, bwerus yw Mori gan Ffion Dafis – nofel gyntaf yr actores a chyflwynydd yn dilyn llwyddiant ei chyfrol gyntaf ‘Syllu ar Walia’ (Y Lolfa) yn 2017. Mae’r nofel yn dilyn Morfudd a’i hobsesiwn gyda merch drydanol sy’n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ei pherthynas â hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn er mwyn darganfod a derbyn ei hun.

O Fangor daw Ffion Dafis yn wreiddiol, ac mae’n enw cyfarwydd ym myd y celfyddydau yng Nghymru. Mae’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C. Bu’n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.

Ail gyfrol o gerddi Grug Muse yw merch y llyn. Yn y ‘bargeinio rhwng meddalwch a chadernid’ y mae’r cerddi hyn yn digwydd; yn y cyrff o ddŵr sy’n ddihangfa ac yn fygythiad yn yr un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau’r hunan, mewn gwaith sy’n dangos bod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a’r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2013, a chyhoeddodd ei chasgliad cyntaf, Ar Ddisberod (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2017. Mae ei gwaith wedi ei gyfieithu i’r Almaeneg, Groeg a Latgaleg (a siaredir yn nwyrain Latfia).

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam *.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Mae’r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un, a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru:

“Llongyfarchiadau mawr i Ffion a Grug ar ennill eu categorïau, gyda dwy gyfrol sydd ill dwy yn tynnu adlais arwresau a gwrth-arwresau ein chwedlau o’r dyfnderoedd (yn llythrennol yn achos merch y llyn) ac yn eu gosod yn yr unfed ganrif ar hugain i ddod i aflonyddu ein meddyliau… Dyma gyfrolau sydd am aros yn y cof am amser maith.”

Caiff enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a’r categori Ffeithiol Greadigol eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru nos yfory (nos Fercher 20 Gorffennaf) rhwng 6.30 pm – 7.00 pm, gydag Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi nos Iau 21 Gorffennaf rhwng 6.30 pm – 7.00 pm. Caiff holl enillwyr y wobr Saesneg eu cyhoeddi ar nos Wener 29 Gorffennaf ar The Arts Show BBC Radio Wales.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: Gwobr Llyfr y Flwyddyn – Literature Wales.

Llyfr y Flwyddyn