Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Plant a Phobl Ifanc a chategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Cyhoeddwyd Maw 3 Awst 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi enillwyr categori Plant a Phobl Ifanc a chategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021
Heno fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Rebecca Roberts sy’n cipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni, gyda #helynt (Gwasg Carreg Gwalch) ac mai Hazel Walford Davies sy’n cipio’r categori Ffeithiol Greadigol, gydag O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Fawrth 3 Awst. Yn cadw cwmni i’r gyflwynwraig Nia Roberts roedd dau o feirniaid y wobr, Anni Llŷn a Tomos Owen, a’r enillwyr eu hunain.

Mae’r ddwy yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae’r ddwy hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 9.00 – 9.30 pm ar nos Fercher, 4 Awst.

Nofel am sut y gall colli bws i’r ysgol newid bywyd rywun yw #helynt. Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu. Ond mae Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo…

Magwyd Rebecca Roberts ger y môr ym Mhrestatyn, ac yna mae hi’n byw o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mudferwi (Gwasg Carreg Gwalch) oedd ei nofel gyntaf, ac mae ei hail nofel, #helynt yn rhan o gyfres i bobl ifanc. Mae ysgrifennu yn cymryd dipyn go lew o’i hamser, ond mae hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a mynd i gerdded.

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards yw’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i’w yrfa ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O.M. drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau. Mae’r cofiant pwysig hwn yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddo wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl. Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards yn 2020.

Magwyd Hazel Walford Davies yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.  Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.  Bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, yn gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth y Cyngor, ac yn gadeirydd Bwrdd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg y Sector Addysg Uwch yng Nghymru sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Hi oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y DU o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru.  Bu’n aelod o Fwrdd yr Academi Gymreig, o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.  Etholwyd hi yn Gymrawd yr Academi Gymreig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, meddai Anni Llŷn:

“Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron. Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen. Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchîo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

Roedd y categori Plant a Phobl Ifanc yn newydd y llynedd, gyda’r nod o annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol; i godi proffil Cymru a’i hawduron talentog; ac i atgyfnerthu’r neges fod llenyddiaeth ar gyfer plant o’r un safon â bri ag unrhyw lenyddiaeth ar gyfer oedolion hefyd.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Dyma ddwy gyfrol haeddiannol iawn. Mae #helynt eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth wrth ennill Gwobr Tir na n-Og 2021 yn gynharach eleni, a dyma gadarnhad pellach o werth y nofel hon wrth iddi gipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni. Dyma hefyd gydnabyddiaeth haeddiannol i gofiant arbennig O.M. – gŵr yr oedd y rhan helaeth ohonom yn adnabod ei enw, ond bellach, diolch i’r cofiant arbennig hwn, gŵr yr ydym yn gwybodcymaint yn fwy amdano.

Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch Rebecca a Hazel, a diolch i’r ddwy ohonynt am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron telentog o Gymru.”

Neithiwr, cyheoddodd Llenyddiaeth Cymru mai Megan Angharad Hunter oedd yn cipio’r categori Ffuglen eleni gyda tu ôl i’r awyr (Y Lolfa), ac mai Marged Tudur oedd yn cipio’r wobr Farddoniaeth eleni gyda Mynd (Gwasg Carreg Gwalch). Caiff enillwydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd eu cyhoeddi ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru nos yfory (nos Fercher 4 Awst) rhwng 9.00 – 9.30 pm.

 

Enillwyr y Gwobrau Saesneg

Cyhoeddwyd enillwyr y Gwobrau Saesneg nos Wener ddiwethaf, 30 Gorffennaf, ar raglen The Arts Show BBC Radio Wales.

Catrin Kean enillodd y brif wobr, gyda’i nofel gyntaf Salt (Gwasg Gomer). Hi hefyd enillodd Wobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Fiona Sampson oedd enillydd y Wobr Farddoniaeth eleni gyda’i chasgliad Come Down (Corsair Poetry). Victoria Owens enillodd y Wobr Ffeithiol Greadigol gyda Lady Charlotte Guest: The Exeptional Life of a Female Industrialist (Pen & Sword). Patience Agbabi oedd enillydd y Wobr Plant a Phobl Ifanc gyda The Infinite (Canongate Books).

Enillydd y Wales Arts Review People’s Choice Award yw Salt gan Catrin Kean (Gwasg Gomer). Bydd Catrin yn derbyn dysgl addurniadol wedi ei chreu gan y gof Alan Perry, yn rhodd gan noddwyr y wobr, y Wales Arts Review.

Meddai Dawn Bowden AoS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dod yn gyfle blynyddol pwysig i arddangos awduron Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae’r detholiad o lenyddiaeth a gynigir ymhlith rhestr fer 2021, ac yn enwedig ymhlith yr enillwyr, yn rhagorol, ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth diwylliant llenyddol Cymru ar ei orau.  Gobeithiaf y bydd darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fwynhau’r gweithiau eithriadol hyn, a dymunaf longyfarch yr holl awduron buddugol, ynghyd a’u cyhoeddwyr.”

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni oedd y bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr ysgogol a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac ymgyrchydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Llongyfarchiadau gwresog i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Rydym oll yn ymwybodol o’r effaith anferthol y mae’r pandemig wedi ei gael ar fywydau pobl ifanc a rwy’n falch tu hwnt o weld cymaint o awduron ifanc ar y rhestrau byrion – yn ogystal â’r modd y mae profiadau pobl ifanc yn ymddangos mewn ffuglen a barddoniaeth gan awduron a beirdd o bob oedran a phob cyfnod yn eu gyrfaoedd. Ac unwaith eto, mewn gweithiau ffuglen a ffeithiol-greadigol, rydym yn cael ein herio gan safbwyntiau newydd ar hanes cyfnod cythryblus a chyffrous y 19eg ganrif yng Nghymru. Ynghyd â chyfresi teledu, llyfrau sydd wedi ein cynnal a rhoi sylfaen i’n bywydau yn ystod y cyfnod dryslyd diweddar, wedi ein cadw wedi ein gwreiddio, ac yn effro i bosibiliadau newydd yn ystod cyfnod mor ansefydlog. Da chi, ewch ati i brynu rhai o’r gweithiau rhyfeddol hyn.”