Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Salt, nofel gyntaf Catrin Kean, sydd yn cipio coron driphlyg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Cyhoeddwyd Gwe 30 Gor 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Salt, nofel gyntaf Catrin Kean, sydd yn cipio coron driphlyg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021
Heno fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r awdur Catrin Kean yw enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 gyda’i nofel gyntaf, Salt (Gwasg Gomer).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Wales mewn rhifyn arbennig o’r Arts Show gyda Nicola Heywood Thomas am 7.00 pm, nos Wener 30 Gorffennaf. Cafodd Nicola gwmni beirniaid y wobr, Tishani Doshi, Scott Evans, Tanni Grey-Thompson a Charlotte Williams, yn ogystal â Phrif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

Fe gyhoeddwyd bod nofel Catrin Kean wedi ennill Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn gyntaf, cyn cyhoeddi mai hi hefyd oedd yn cipio teitl Llyfr y Flwyddyn 2021. Mae Catrin yn derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae Salt, nofel gyntaf Catrin, yn adrodd stori gariad ei hen nain a thaid. Lle brwnt a diflas yw Caerdydd yn 1878 i Ellen sy’n breuddwydio am ddianc o’i bywyd yn gwasanaethu. Mae’n syrthio mewn cariad gyda Samuel ac yn llwyddo i wireddu ei breuddwyd trwy redeg i ffwrdd gydag ef. Ond mae bywyd ar y môr yn beryglus a chreulon, a phan mae’n dychwelyd adref mae’n darganfod bod caledi bywyd y dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.

Dyfarnwyd lle i Catrin Kean ar gynllun Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ar gyfer egin awduron yn 2016-2018. Mae ei straeon byrion wedi eu cyhoeddi yn y Riptide Journal, Antholegau Bridge House a hefyd yn The Ghastling. Derbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2020 ar gyfer datblygu ei chyfrol o straeon byrion, Fogtime. Salt yw ei nofel gyntaf. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a’u cŵn.

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr ysgogol a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac ymgyrchydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Ar ran y panel beirniadu, meddai Scott Evans:

“Roedd cael bod yn rhan o banel beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn bleser ac yn fraint. Mae ansawdd hynod drawiadol y rhestr fer ar draws y categorïau ffuglen, ffeithiol greadigol, barddoniaeth ac, yn arbennig, llyfrau plant yn crynhoi talent amrywiol ac anhygoel yr awduron sydd gennym i’w gynnig i ddarllenwyr mewn cartrefi, ysgolion, llyfrgelloedd a chymunedau yng Nghymru, ac ar draws y byd. Maent yn arddangos gwir ehangder a dyfnder ein tirwedd, etifeddiaeth a llenyddiaeth hirsefydlog; ac, o’r herwydd, yn fy ngwneud i’n hynod falch o fod yn Gymro.”

Mae categori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn wedi ei noddi gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies unwaith yn rhagor eleni. Cyhoeddwyd y buddsoddiad nôl ym mis Chwefror 2020, yn rhan o gyfres o fuddsoddiadau creadigol gyda’r nod o ddatblygu a dathlu’r traddodiad cryf yng Nghymru o gyrhaeddiad llenyddol trwy’r Saesneg.

Enillwyr y Categorïau

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dros y dyddiau nesaf, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi deuddeg enillydd ac yn dosbarthu cyfanswm o £14,000 i’r awduron llwyddiannus, a hynny mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Gan ddathlu llyfrau o bob ffurf mewn pedwar categori gwahanol – barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol greadigol a phlant a phobl ifanc – ynghyd â gwobr People’s Choice Award Wales Arts Review, heno fe ddyfarnodd Llenyddiaeth Cymru gyfanswm o chwe gwobr.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth Saesneg yw Fiona Sampson gyda’i chyfrol Come Down (Corsair Poetry), sy’n codi cwestiynau am ddynoliaeth ymysg safbwyntiau eraill. Trwy gydol y gyfrol, symuda’r cerddi rhwng y safbwynt dynol a’r hyn sydd y tu hwnt. Dawnsia’r iaith dros ddeunydd y corff dynol a’r tirwedd. Er gwaethaf y newid eithafol mewn safbwyntiau, cadwa’r bardd lygad cyson ar y profiad dynol: y weithred o greu; a’r ffordd mae atgof plentyn a chwedlau teulu yn gwrthdaro â’r gorffennol.

Enillydd y wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg yw Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist gan Victoria Owens (Pen & Sword). Pan briododd y Fonesig Charlotte Bertie y meistr haearn cyfoethog John Guest o Ddowlais yn 1833, roedd ei theulu wedi’u brawychu. Serch hynny, er y gwahaniaeth mawr yn eu cefndir a’u hoedrannau, mwynhaodd y gŵr a’r wraig dros bedair mlynedd ar bymtheg hapus o briodas ynghyd â sawl antur.

Nofel The Infinite (Canongate Books) gan Patience Agbabi ddaeth i’r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc. Dyma hanes antur fawr Elle a’i ffrindiau, a’u gallu i gamu yn ôl ac ymlaen mewn amser. Ond buan y tro’r antur hwn yn fwy na ras trwy amser. Mae’n ras yn erbyn amser, a rhaid iddi hi a’i ffrindiau frwydro i achub y byd sydd yn gyfarwydd i ni oll – cyn iddo beidio â bodoli o gwbl.

Roedd y categori Plant a Phobl Ifanc yn newydd y llynedd, gyda’r nod o annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol; i godi proffil Cymru a’i hawduron talentog; ac i atgyfnerthu’r neges bod llenyddiaeth ar gyfer plant o’r un safon â bri ag unrhyw lenyddiaeth ar gyfer oedolion hefyd.

Cyhoeddwyd hefyd mai Salt gan Catrin Kean (Gwasg Gomer) oedd enillydd y Wales Arts Review People’s Choice Award, gan gadarnhau felly fod hon yn nofel sydd wedi plesio’r darllenwyr yn ogystal â’r beirniaid, ac mai hi sydd yn ennill coron driphlyg Llyfr y Flwyddyn eleni. Bydd Catrin yn derbyn dysgl addurniadol wedi ei chreu gan y gof Alan Perry, yn rhodd gan noddwyr y wobr, y Wales Arts Review.

Meddai Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dod yn gyfle blynyddol pwysig i arddangos awduron Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae’r detholiad o lenyddiaeth a gynigir ymhlith rhestr fer 2021, ac yn enwedig ymhlith yr enillwyr, yn rhagorol, ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth diwylliant llenyddol Cymru ar ei orau.  Gobeithiaf y bydd darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fwynhau’r gweithiau eithriadol hyn, a dymunaf longyfarch yr holl awduron buddugol, ynghyd a’u cyhoeddwyr.”

Yr Enillwyr Cymraeg

Caiff yr enillwyr Cymraeg eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru rhwng 2 – 4 Awst. Cyhoeddir enillwyr y wobr Ffuglen a’r wobr Farddoniaeth o 9.00 pm ymlaen nos Lun 2 Awst; yna’r wobr Plant a Phobl Ifanc a’r wobr Ffeithiol Greadigol o 9.00 pm ymlaen nos Fawrth 3 Awst; gyda Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi o 9.00 pm ymlaen ar nos Fercher 4 Awst.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Fardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron amlycaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Dyma gasgliad gwych o gyfrolau sy’n ein tywys ar daith o strydoedd bywiog Caerdydd 1800, i ganolbwynt diwydiannol pwysig Dowlais; ac o fyfyrdodau am ddynoliaeth i deithiau trwy amser i fydoedd newydd a chyffrous. Mae yma leisiau newydd, sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf, a lleisiau poblogaidd yn cyhoeddi mewn ffurfiau newydd.

Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Llongyfarchiadau gwresog i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Rydym oll yn ymwybodol o’r effaith anferthol y mae’r pandemig wedi ei gael ar fywydau pobl ifanc a rwy’n falch tu hwnt o weld cymaint o awduron ifanc ar y rhestrau byrion – yn ogystal â’r modd y mae profiadau pobl ifanc yn ymddangos mewn ffuglen a barddoniaeth gan awduron a beirdd o bob oedran a phob cyfnod yn eu gyrfaoedd. Ac unwaith eto, mewn gweithiau ffuglen a ffeithiol-greadigol, rydym yn cael ein herio gan safbwyntiau newydd ar hanes cyfnod cythryblus a chyffrous y 19eg ganrif yng Nghymru. Ynghyd â chyfresi teledu, llyfrau sydd wedi ein cynnal a rhoi sylfaen i’n bywydau yn ystod y cyfnod dryslyd diweddar, wedi ein cadw wedi ein gwreiddio, ac yn effro i bosibiliadau newydd yn ystod cyfnod mor ansefydlog. Da chi, ewch ati i brynu rhai o’r gweithiau rhyfeddol hyn.”