Dewislen
English
Cysylltwch

Llyfr y Flwyddyn 2024: Ymgeisiwch am Nawdd Digwyddiadau

Cyhoeddwyd Llu 17 Meh 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llyfr y Flwyddyn 2024: Ymgeisiwch am Nawdd Digwyddiadau
Ymgeisiwch nawr am nawdd i gynnal digwyddiadau gyda awduron sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024!

O ganlyniad i nawdd gan Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, rydym eleni’n cynnig £4,000 o nawdd er mwyn cefnogi 75% o ffioedd a threuliau awduron sydd ar Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ar gyfer digwyddiadau.

Bwriad y nawdd yw cynorthwyo awduron i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd trwy Gymru ben baladr, hyrwyddo eu llyfrau a Gwobr Llyfr Y Flwyddyn.

Rydym yn eich hannog i gysylltu â awduron/cyhoeddwyr er mwyn trefnu digwyddiad rhwng 12 Mai a 30 Tachwedd 2024. Wedyn, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais fer i ymgeisio am hyd at 75% o ffioedd a threuliau awduron.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 27 Mehefin. Gan bod y cyfnod ymgeisio yn fyr, caiff y nawdd ei ddosbarthu yn ôl trefn y cyntaf i’r felin, yn dilyn cyfarfodydd panel ar 20 Mai, 10 Mehefin a 1 Gorffennaf. Fe’ch hysbysir o’r canlyniad o fewn 2 niwrnod i’r cyfarfod panel perthnasol.


Gwybodaeth a dyddiadau allweddol:
  • Ymgeisiwch am hyd at 75% o ffioedd a threuliau awduron ar gyfer digwyddiadau
  • Rhaid i’r awduron sy’n cymryd rhan fod ar Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau gan sefydliadau (h.y., cyhoeddwr, llyfrwerthwr, cymdeithas lenyddol) ac nid gan yr awduron.
  • Rhaid cynnal y digwyddiad rhwng 12 Mai a 30 Tachwedd 2024.
  • Nid yw digwyddiadau a noddir trwy’r cynllun hwn yn gymwys ar gyfer nawdd ychwanegol trwy Gynllun Ymestyn Cyngor Llyfrau Cymru na Chronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.
  • Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 5.00 pm, Dydd Iau 27 Mehefin.
  • Telir y nawdd i’r trefnydd ar ôl y digwyddiad, ar ôl i ni dderbyn ffurflen adborth gan y trefnydd.
  • Ni ellir talu’r nawdd hwn i awduron yn uniongyrchol; rhaid i’r taliad fynd at drefnydd y digwyddiad. Mae trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am dalu’r awdur yn llawn.

 

Bydd angen i chi sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol gennych wrth law cyn dechrau eich cais: dyddiadau, amseroedd, lleoliad, manylion yr awdur, ffi a threuliau’r awdur. Os nad ydy’r digwyddiad mewn siop lyfrau, hoffem sicrhau bod darpariaeth i siop lyfrau lleol werthu’r cyfrolau sydd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 yn y digwyddiad, felly bydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw gyda llyfrwerthwr lleol cyn gwneud cais am nawdd.

Os hoffech drafod eich cynlluniau ar gyfer digwyddiad, a wnewch chi gysylltu â arwel.jones@llyfrau.cymru neu claire@llenyddiaethcymru.org

Os ydych am ymgeisio am nawdd ar gyfer digwyddiad llenyddol gwahanol, a wnewch chi ystyried Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.

Llyfr y Flwyddyn