Dewislen
English
Cysylltwch

Llyfrau i Bawb: Creu Cymeriadau o Liw i Blant

Cyhoeddwyd Llu 13 Rhag 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llyfrau i Bawb: Creu Cymeriadau o Liw i Blant

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd awduron o liw, sy’n byw yng Nghymru, i ymgeisio am gyfle i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dan arweiniad yr awduron profiadol Patience Agbabi a Jasbinder Bilan, bydd y cwrs yn cynnig gweithdai, sgyrsiau a thrafodaethau i’ch helpu i ddatblygu eich crefft ysgrifennu creadigol ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn croesawu ceisiadau gan egin awduron ac awduron newydd sbon, yn ogystal ag awduron sydd â pheth profiad ac yn gobeithio datblygu eu crefft. Bydd 12 lle ar gael.

 

Y Tiwtoriaid

Mae Patience Agbabi FRSL yn fardd ac yn nofelydd plant poblogaidd. Mae hi’n Gymrawd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Oxford Brookes ac wedi dysgu mewn ystod eang o leoliadau o ysgolion cynradd i garchardai. Darllenodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol, y Celfyddydau ac Addysg o Brifysgol Sussex. Ei llyfr diweddaraf yw The Time-Thief (Canongate, 2021), ail nofel The Leap Cycle, cyfres antur teithio amser i bawb rhwng 8 a ∞. The Infinite (Canongate, 2020), nofel gyntaf y gyfres oedd Llyfr y Mis CBBC ym mis Gorffennaf 2020 ac roedd ar restr fer sawl gwobr fawreddog gan gynnwys Gwobr Arthur C. Clarke am Lyfr Ffuglen Wyddoniaeth y Flwyddyn 2021. Fe enillodd Categori Plant a Phobl Ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021.

Jasbinder Bilan yw awdur Asha and the Spirit Bird (2019), Tamarind and the Star of Ishta (2020) ac Aarti and the Blue Gods (2021), sydd i gyd wedi’u cyhoeddi gan Chicken House. Mae ei llyfrau wedi’u henwebu ar gyfer Medal Carnegie, ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Blue Peter, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Waterstone’s ac wedi ennill Gwobr The Indie Book. Yn ei hysgrifennu mae hi wrth ei bodd yn creu bydoedd hudolus a ysbrydolwyd gan ei chariad at fyd natur a lleoedd gwyllt. Mae llyfrau Jasbinder yn ffenestr ac yn ddrych – mae hi’n ysgrifennu cymeriadau y byddai hi wrth eu bodd yn eu gweld yn y llyfrau roedd hi’n eu darllen fel merch ifanc. Mae gan Jasbinder MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Gofynnwyd iddi siarad mewn llawer o wyliau llenyddol megis Y Gelli, Caeredin, Caerfaddon a Cheltenham ymhlith eraill. Mae hi’n athrawes ac wrth ei bodd yn siarad â phlant am ei hysgrifennu ac mae’n gobeithio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o awduron.

 

Beth yw bwriad y cwrs?

Dylai plant a phobl ifanc Cymru allu uniaethu â’r llyfrau maen nhw’n eu darllen, gweld teuluoedd a sefyllfaoedd sy’n debyg i’w bywydau eu hunain, a dod o hyd i fodelau rôl yn eu hoff gymeriadau. Dim ond 9% o’r llyfrau plant a gyhoeddwyd yn y DU dros y pedair blynedd diwethaf sy’n cynnwys cymeriadau o liw*. Ynghyd â phartneriaid strategol, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb a’r tangynrychiolaeth hon o fewn diwylliant llenyddol Cymru trwy gynnig cyrsiau hyfforddi a mentora, llwyfannu cyfleoedd, cyngor gyrfa, a chyfeirio gwybodaeth neu gyfleoedd at awduron sy’n cael eu tangynrychioli.

*CLPE’s Reflecting Realities Reports: https://clpe.org.uk/

 

Beth fydd yn digwydd ar y cwrs?

Gan gychwyn ar y prynhawn dydd Llun, bydd y criw o awduron a’r tiwtor yn cychwyn y cwrs drwy drafod eu hoff lyfrau amrywiol i blant a phobl ifanc. Gan archwilio’r elfennau gorau o’r llyfrau dan sylw, byddwn yn gosod seiliau ar gyfer datblygu gwaith gwych ein hunain yn ystod yr wythnos.

Drwy weithdai grŵp, sgyrsiau un-i-un, darlleniadau a sgyrsiau gan awduron gwadd ac unigolion o’r diwydiannau creadigol, bydd y cwrs yn rhoi arweiniad ar sut i adeiladu ar eich crefft ysgrifennu creadigol er mwyn creu straeon i blant a phobl ifanc. Bydd yna hefyd amser rhydd i fwynhau mynd am dro, i ganolbwyntio ar eich ‘sgwennu eich hun neu i ddarllen yn llyfrgell enwog Tŷ Newydd.

Gan ganolbwyntio yn benodol ar lyfrau wedi eu hanelu at blant hŷn (8-12 mlwydd oed) a phobl ifanc (12-15), byddwn yn annog yr awduron i gyrraedd gyda syniad am gymeriad yn barod – ac erbyn i chi adael ar y dydd Gwener, bydd gan bawb y tudalenau cyntaf o stori newydd, ac egni ac awch i barhau i ysgrifennu gartref.

Ar ôl y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru yn annog y rhwydwaith newydd o awduron i gadw mewn cysylltiad drwy gyfarfodydd digidol i drafod syniadau, heriau ac i rannu gwaith ar y gweill. Bydd cyfleoedd pellach i ddatblygu yn cael eu rhannu yn gyson er mwyn sicrhau fod yr awduron yn parhau i ysgrifennu yn yr hir dymor, a hyd yn oed mynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith.

 

Dyddiadau Pwysig:

Bydd y cwrs yn rhedeg rhwng dydd Llun 21 – dydd Gwener 25 Mawrth 2022.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5.00 pm, dydd Gwener 28 Ionawr 2022.

 

Sut ydw i’n gwneud cais?

I ymgeisio, darllenwch ein dogfen Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin isod, ac yna llenwch y Ffurflen Gais yma.

Caiff ymgeiswyr eu hysbysbu o ganlyniad y broses ymgeisio o fewn pythefnos i’r dyddiad cau, a chwe wythnos cyn cychwyn y cwrs.

32261

Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin (Dogfen PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 83KB
Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 58KB
Cymhwysedd a Chwestiynau Cyffredin (Print Bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 26KB