‘Mae’r dorf yn ymgynnull’ – Cerdd i Ŵyl Cymru Festival
Mae Gŵyl Cymru Festival yn ddigwyddiad celfyddydol 10 diwrnod o hyd fydd yn cael ei chynnal wrth i’r genedl gefnogi Cymru yn ystod eu hymgyrch Cwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
Mi fydd yr ŵyl yn dechrau ar 19 Tachwedd, a bydd bron pob digwyddiad yn rhad ac am ddim. Nod Gŵyl Cymru yw uno ac amlygu’r cyfoeth o gelf, cerddoriaeth a digwyddiadau sy’n cael eu creu ar gyfer ymgyrch hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd a chyflwyno cynulleidfaoedd newydd i’r celfyddydau, iaith a diwylliant Cymreig – ac felly i sicrhau gwaddol diwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022, gan y wlad leiaf i ennill ei lle.
O Bragdy’r Beirdd, i sioe ddawns, o gigs byw i weithdai gwneud crysau-t i blant, mae rhywbeth i bawb yn arlwy’r Ŵyl. Bydd uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Footballroom; sioe ddawns/theatr yn archwilio pêl-droed a hawliau LHDTC+, wedi’i chynhyrchu gan August 012
- Gigs comedi byw ar draws Cymru a Llundain, gyda digrifwyr o wledydd eraill yng Nghwpan y Byd yn ogystal â rhai o Gymru yn cynnwys Kiri Pritchard-McLean a Mike Bubbins
- Bragdy’r Beirdd; noson o farddoniaeth byw yn Nhŷ Siamas, Dolgellau, gyda set gan y cerddor a’r diddanwr Hywel Pitts i ddilyn.
- Theatr Genedlaethol Cymru yn cydweithio â thafarn Cwrw yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwaith gan eu Clybiau Drama wedi’u hysbrydoli gan Gwpan y Byd
- Cerddoriaeth byw gan Sage Todz a Juice Menace (yng Nghaerdydd), Band Pres Llareggub a Celt (ym Methesda), Lemfreck a Kizzy Crawford (yn Efrog Newydd) a’r band pres 11-offeryn The Barry Horns (yn Dubai)
- Digwyddiadau llenyddol a sgyrsiau panel, yn cynnwys Wal yr Enfys, y bardd Rhys Iorwerth a bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa
- Digwyddiad wedi’i gynnal gan Gymdeithas Gymraeg Syria i nodi a dathlu cefnogaeth ffoaduriaid o Gymru
- Gwledd o weithgareddau i blant, yn cynnwys gweithdai gwneud crysau-t a chyfnewidiadau sticeri
Mae’r gerdd, ‘The Crowd Gathers’ wedi ei chyfieithu gan Grug Muse dan y teitl ‘Mae’r dorf yn ymgynnull’. Mae Hanan a Grug ill dwy yn ymddangos yn fideo swyddogol yr ŵyl, lle maent yn perfformio llinellau o’r gerdd yn y Gymraeg, Saesneg ac Arabeg i gyfeiliant cerddoriaeth gan Sage Todz. Mae’r gerdd fideo wedi ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gellir gwylio fideo ‘The Crowd Gathers’ a phori trwy raglen lawn yr ŵyl yma: gwyl.cymru/cy.