Dewislen
English
Cysylltwch

Mori gan Ffion Dafis yw Llyfr y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd Iau 21 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mori gan Ffion Dafis yw Llyfr y Flwyddyn 2022
Rydym yn hynod o falch i gael cyhoeddi mai Ffion Dafis sydd wedi cipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, gyda’i nofel Mori (Y Lolfa), a gaiff ei alw’n “gampwaith” gan feirniaid y Wobr.  

Llongyfarchiadau mawr hefyd i awduron casgliad Y Pump, sydd wedi dod i’r brig yng Ngwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, yn dilyn pleidlais agored gan ddarllenwyr Cymru. Mae’r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu’r wobr a’r clod 

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Iau 21 Gorffennaf. Yn cadw cwmni i’r cyflwynydd, Nia Roberts, roedd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru Dros Dro; Owain Schiavone, Golwg360, ac enillwyr categorïau Gwobr Llyfr y Flwyddyn.  

Stori gyfoes, bwerus yw Mori gan Ffion Dafis – nofel gyntaf yr actores a chyflwynydd yn dilyn llwyddiant ei chyfrol gyntaf Syllu ar Walia’ (Y Lolfa) yn 2017. Mae’r nofel yn dilyn Morfudd a’i hobsesiwn gyda merch drydanol sy’n anfon cais i fod yn ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae ei pherthynas â hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn er mwyn darganfod a derbyn ei hun.  

O Fangor daw Ffion Dafis yn wreiddiol, ac mae’n enw cyfarwydd ym myd y celfyddydau yng Nghymru. Mae’n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C. Bu’n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017.  

Wrth glywed y newyddion, dywedodd Ffion Dafis: “Dwi wedi llwyr wirioni. Nid cymeriad hawdd ei hoffi ydi Mori ar adegau, a dwi mor falch fod y panel wedi gweld ei phrydferthwch hi fel y dois i i’w werthfawrogi yn y diwedd, a’i bod hi wedi cyffwrdd. Dydi hi ddim nofel gonfensiynol – mi oeddwn i’n trio creu cymeriad anghonfensiynol a dwi mor ddiolchgar fod y panel wedi gwerthfawrogi beth roeddwn i wedi ei greu.”  

Mae Ffion yn derbyn cyfanswm o £4,000 mewn gwobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. 

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i nofel gael ei henwi’n Llyfr y Flwyddyn, ac mae Mori yn dilyn tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter, Babel gan Ifan Morgan Jones, a Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros yn y gadwyn o nofelau sydd wedi ennill y Wobr anrhydeddus hon. Mae’r bedair cyfrol oll wedi eu cyhoeddi gan wasg Y Lolfa.  

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam **.   Ni fu Gwion Hallam, fodd bynnag yn rhan o’r trafodaethau am y categori ffuglen na’r brif wobr oherwydd gwrthdaro buddiannau. 

Ar ran y panel, dywedodd Mirain Iwerydd: “Roedd darllen Mori fel fy mod i wedi sleifio mewn i gilfachau ymennydd y prif gymeriad, ac yn profi’r nofel trwy ei llygaid hi. Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu cymeriad megis Mori. Mae Mori yn gymeriad cymhleth, â meddwl tywyll iawn ar adegau, a’r nofel ei hun yn mentro ac yn archwilio themâu a phynciau nas trafodwyd o fewn ein llenyddiaeth yng Nghymru eisoes, neu’n ddigonol. 

Credaf fod cymeriad Mori ar ben ei hun yn gampwaith, ond wrth ychwanegu Mori fel cymeriad, at y gwead o naratif tyner, llawn hiwmor a chrefftus a luniwyd gan Ffion Dafis – wel, dyna sut ma’ ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Llwyr haeddiannol – Llongyfarchiadau Ffion.” 

Ategwyd y ganmoliaeth gan y Beirniad Melanie Owen: “Mae Mori yn ddarn arbennig. Mae gennym ni’r tair beirniad chwaeth gwahanol pan mae’n dod i lenyddiaeth, ond roedd Mori at ddant pawb. Does dim amau pa mor ddawnus ydy Ffion Dafis fel awdur – rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen beth bynnag mae hi’n ei ysgrifennu nesaf.” 

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. 

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Ffion Dafis am gipio teitl Llyfr y Flwyddyn gyda Mori, nofel sy’n dod â Blodeuwedd o wrth-arwres inni i ryfeddu ati a’i hofni yn yr un gwynt. Hyfryd gweld nofelydd newydd yn dod i’r brig gan obeithio bydd ei llwyddiant yn ysbrydoliaeth i awduron newydd ledled Cymru i gychwyn ‘sgwennu eu nofelau.  

Llongyfarchiadau i holl awduron a chyd-awduron Y Pump, prosiect arloesol sydd wedi rhoi llwyfan enfawr i awduron newydd ac i ddarpar awduron llewyrchus i adrodd eu straeon unigryw eu hunain. Mae’r gyfres yn gosod cynsail i drawsnewid y tirlun llenyddol, sy’n helpu awduron sy’n cael eu tangynrychioli i ddefnyddio eu llais, ac i wneud hynny yn y modd mwyaf egnïol un. Rydym ni’n lwcus iawn o gael awduron fel rhai Y Pump yn creu gwaith yn y Gymraeg, a does dim syndod yn y byd eu bod wedi cipio’r farn boblogaidd gyda gwobr Barn y Bobl golwg360 eleni.” 

Gallwch ddarllen rhagor am bob un o’r cyfrolau sydd wedi dod i’r brig eleni ar dudalen Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Llyfr y Flwyddyn