Dewislen
English
Cysylltwch

Pencerdd: Mae ein cynllun datblygu i gynganeddwyr nawr ar agor

Cyhoeddwyd Gwe 13 Rhag 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Pencerdd: Mae ein cynllun datblygu i gynganeddwyr nawr ar agor
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ail flwyddyn cynllun Pencerdd, i feirdd Cymraeg sydd am ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr. Mae Pencerdd yn gynllun ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Chymdeithas Barddas, ac rydym yn gwahodd beirdd eiddgar i anfon eu ceisiadau nawr.
Dyddiad Cau: 12.00pm hanner dydd, Dydd Llun 20 Ionawr 2025

Nod cynllun Pencerdd yw rhoi hwb i feirdd lled-newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.

Rhaglen rhad ac am ddim blwyddyn o hyd yw Pencerdd, sy’n rhoi cyfle i bum bardd sy’n gynganeddwyr lled-newydd i ganolbwyntio ar y grefft o ddifri. Byddant yn mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mis Ebrill 2025 dan arweiniad Mererid Hopwood a Ceri Wyn Jones, cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol dros flwyddyn y cynllun, yn ogystal â gofodau sgwennu i gwrdd â beirdd a rhannu eu taith i gynganeddu a chreu rhwydwaith gefnogol.

Dywedodd Non Lewis, un o Ddisgyblion rownd gyntaf Pencerdd: “Dyma brofiad amhrisiadwy yng ngwir ystyr y gair; o’r cwrs yn Nhŷ Newydd, y dosbarthiadau meistr ar lein a’r sesiynau mentora!  Does dim dwywaith bod y profiad wedi bod yn hwb aruthrol i mi ar y daith i feistroli’r gynghanedd.  Heb os, mae cael fy mentora gan un o gewri’r gynghanedd heddiw wedi bod yn gwbl ysbrydoledig.  Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith caled, ond blwyddyn i’w thrysori.”

Yn gyfnewid am fod ar y cynllun, byddwn yn gofyn i’r beirdd bennu ffordd i eirioli dros y gynghanedd a’r grefft o gynganeddu o fewn eu cymuned eu hunain ar ddiwedd y cyfnod, boed yn gymuned ddaearyddol mewn pentref neu dref neu’n gymuned rithiol o eneidiau hoff gytûn. Mae rhwydd hynt i’r beirdd gynnig eu syniadau eu hunain, neu gall Barddas a Llenyddiaeth Cymru roi rhai syniadau iddynt. Enghreifftiau posib fyddai cynnal gweithdy yn eu clwb ffermwyr ifanc lleol, neu stondin benillion mewn gŵyl Pride, trefnu talwrn neu gyhoeddi erthygl neu flog i ysbrydoli beirdd eraill.

Mae gan unrhyw gyw-gynganeddwyr tan 20 Ionawr 2025 i wneud cais am le ar y cynllun. Mae’n agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n lled-newydd i’r grefft o gynganeddu. Gallwch ddysgu mwy am y cynllun ar dudalen Pencerdd ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o bartneru gyda Chymdeithas Barddas ar y cynllun cyffrous hwn.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Mae’n fraint cael cydweithio â Barddas eto ar raglen i hybu’r gynghanedd, ac i ddod o hyd i leisiau newydd ac amrywiol i’w meithrin o fewn y traddodiad barddol unigryw hwn. Mae’r llwybr i feistroli crefft y gynghanedd yn un hir a difyr, a braint fydd cael bod yn gwmni i’r criw o bump wrth iddynt gychwyn ar eu taith.”

Dywedodd Aneirin Karadog, Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Barddas: “Mae Pencerdd yn gynllun sy’n gweddu’n naturiol i’n traddodiad barddol lle mae canrifoedd o berthynas rhwng pencerdd a disgybl barddol wedi ei feithrin i gynnal y grefft unigryw o gynganeddu.

“Mae’n fraint i ni yn Barddas felly i gael cyd-weithio gyda Llenyddiaeth Cymru i roi cyfleon i feirdd a chyw-gynganeddwyr brwd gael sylw unigol ac arbenigol gan feistri cerdd dafod.  Tra bod y gwaith y mae ysgolion barddol yn ei wneud gydol y flwyddyn o dymor i dymor yn amhrisiadwy o ran cynnal ac ehangu’r grefft o gynganeddu, mae’r cyfle i gyd-weithio’n agos gyda beirdd sy’n rhugl eu cerdd dafod ac wedi ymroi i’r grefft ers degawdau yn gyfle na fydd pawb yn ddigon ffodus i’w gael. Manteisied ar fyrder ar yr alwad agored i gael bod yn un o feirdd cynllun Pencerdd gan y bydd yn brofiad trawsnewidiol!”

Rhaglen flynyddol a chyfleodd ledled Cymru

Wyt ti ar dân eisiau dysgu cynganeddu, ond heb ddechrau arni eto? Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnig y cyfle hwn yn flynyddol, felly dechreua nawr gan wybod y bydd modd ymgeisio unwaith eto y flwyddyn nesaf.

Gallet ti ymuno â gwersi lleol, neu ar-lein, a chofia bod cyfres o wyth o wersi cynganeddu rhad ac am ddim i ddechreuwyr gan Aneirin Karadog i’w cael ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel man cychwyn i’th ysbrydoli!

I weld pa gyfleoedd datblygu eraill y mae Llenyddiaeth Cymru yn eu cynnig, ewch i dudalen Rwy’n Awdur ar ein gwefan.