Poet-Tree: Children’s Laureate Wales yn cyfuno barddoniaeth a chelf i ysbrydoli plant i wneud addewidion ar gyfer y dyfodol
Arweiniodd Children’s Laureate Wales, Connor Allen, dri diwrnod llawn o weithdai barddoniaeth yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe ym mis Mawrth 2023. Yn ystod yr wythnos cafodd y disgyblion Blwyddyn 6 eu hannog i feddwl yn greadigol am ddyfodol eu cymunedau, eu tref, eu Cymru, a’u byd. Cymrodd dros 90 o blant o Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Blaen-y-maes ac Ysgol Gynradd Clase ran yn y gweithdai.
“Roedd Connor yn wych gyda’r disgyblion, yn llwyddo cadw eu sylw ac yn eu hannog i wireddu a dilyn eu breuddwydion!”
– Dirprwy ac athro dros dro Ysgol Gynradd Blaen-y-maes
Un o brif amcanion y Children’s Laureate Wales presennol, Connor Allen yn ystod ei gyfnod yw helpu plant i oresgyn y rhwystrau sy’n gysylltiedig â barddoniaeth. Roedd y gweithdai yn canolbwyntio felly ar gyflwyno barddoniaeth fel ffurf llenyddol hygyrch a hwyliog sydd â’r potensial i fod yn arf bwerus o hunanfynegiant. Roedd y gweithdai hefyd yn annog y plant i archwilio eu hunaniaeth wrth iddyn gysidro’r hyn sydd o’u blaenau. Soniodd un o’r plant a gymerodd ran sut oedd cerddi Connor wedi cael effaith gadarnhaol arnynt gan ddweud bod y cerddi “wedi gwneud i mi feddwl yn ofalus am bwy alla i fod.” Roedd athrawon a fynychodd y gweithdai hefyd wedi sylwi bod y gweithdai wedi cynyddu hyder y plant ac yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn a’u teimladau am faterion byd-eang.
“Roedd y plant yn deall bod barddoniaeth yn gallu bod yn gymaint o hwyl, ennyn emosiwn ac yn gallu bod yn cŵl hefyd.’
-Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Clase
Cafodd cerddi ac addewidion y plant i gyd eu clymu at ddarn o gelf a ddyluniwyd ar ffurf coeden. Cafodd y ‘goeden’ ei chreu gan yr artist gweledol o Gasnewydd, Kate Mercer, drwy ddefnyddio pren a chardfwrdd wedi ei ailgylchu. Roedd y darn 3D yn cynnwys gludwaith gyda’r geiriau, ‘My Future’ a ‘Fy Nyfodol’ a symbolau a motiffau yn awgrymu’r byd cynyddol ddigidol yr ydym yn byw ynddo. Os hoffech rhagor o wybodaeth am y broses o greu’r gwaith celf, ewch draw i wefan Kate Mercer a darllen ei blog sydd yn sôn am y profiad.
Mae’r adborth a dderbyniwyd gan athrawon yn nodi bod y gweithdai wedi llwyddo i ysbrydoli’r plant i ddefnyddio eu creadigrwydd a pharhau i ysgrifennu barddoniaeth y tu allan i’r ystafell ddosbarth a thu hwnt i’r gweithdai gyda Connor.
“Dwi’n mynd i fynd yn syth adref ac ysgrifennu cerddi. Mi brynodd mam lyfr arbennig i mi ysgrifennu ynddo a does dim byd ynddo fo ar hyn o bryd ond fe fydd yna gerdd ynddo erbyn diwedd y noson hon.”
-Disgybl Ysgol Gynradd Clase
Yn dilyn arddangosiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin, bydd pob ysgol a gymrodd rhan yn derbyn rhan o’r goeden gyda cherddi y plant ynghlwm.
I ddarganfod rhagor am brosiect Children’s Laureate Wales, ewch i’n tudalen prosiect.