Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect llenyddiaeth er lles yn arwain at gyhoeddi dau lyfr newydd

Cyhoeddwyd Llu 27 Chw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect llenyddiaeth er lles yn arwain at gyhoeddi dau lyfr newydd
The Frontline Collection a Ruffling Feathers, casgliad o gerddi gan Louise Bretland-Treharne

Roedd O Mam Fach yn un o gyfres o Waith Comisiwn i Awduron a ddyfeisiwyd ac a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru. Arweiniwyd a dyfeisiwyd y prosiect gan yr artist cyfranogol arloesol, yr ymgyrchydd llenyddol a’r bardd Rufus Mufasa, ac fe’i cyflwynwyd mewn partneriaeth â People Speak Up a Plant Dewi. 

Roedd y prosiect yn ddull arloesol o ddarparu mannau diogel i famau brosesu’r pandemig, i ysgrifennu er lles a chreu barddoniaeth fydd yn rhoi newidiadau ar waith. Defnyddiodd bŵer llenyddiaeth a geiriau i gychwyn protest heddychlon sy’n herio rheng flaen bod yn fam. Cafodd sefydliadau, artistiaid, unigolion a chymunedau gyfleoedd i ddysgu ochr yn ochr â’i gilydd. Roedd datblygiad personol a phroffesiynol i bawb wrth galon y cydweithio hwn, ynghyd ag etifeddiaeth a chariad.  

Mae’r prosiect wedi arwain at gynhyrchu dau lyfr printiedig; The Frontline Collection, blodeugerdd o waith gan fwy na 35 o bobl sy’n myfyrio ar y profiad o fod yn fenywaidd, a Ruffling Feathers, casgliad o gerddi gan Louise Bretland-Treharne. 

 

“Fe ddysgais gymaint amdanaf fy hun ar y daith greadigol hon gyda Llenyddiaeth Cymru a People Speak Up. Dyma’r unig dro i fy mhrofiad fel menyw a rhiant, yn enwedig trwy’r pandemig, gael ei rannu’n agored erioed, heb sôn am rywun yn holi amdano. Mae adrodd y straeon hyn, eu prosesu fel barddoniaeth a rhyddiaith, eu trafod a gweithio arnyn nhw gyda Rufus wedi ffurfio rhan enfawr o fy iachâd personol o nid yn unig trawma cyfunol y pandemig, ond hefyd trawma bod yn fam.” Cyfranogwr 1 

“Roeddwn i wrth fy modd â sut y gallem fod yn onest am fod yn fam, yn lle smalio ei fod yn iawn i gyd. Mae’r byd yn llawn o bobl feirniadol, a daeth Rufus atom ni yn gofyn am gyngor!” Cyfranogwr 2 

 

Daeth y digwyddiad lansio ym mis Ionawr 2023 â gweithwyr proffesiynol, athrawon a sefydliadau at ei gilydd yn bersonol ac ar-lein i ddathlu sut y gallwn ni i gydweithio heb fygythiad a rhannu’r arferion gorau sydd eu hangen ar ein cymunedau.