Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect traws-gelfyddyd Plethu/Weave yn cael ei ymestyn i 2021

Cyhoeddwyd Llu 11 Ion 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect traws-gelfyddyd Plethu/Weave yn cael ei ymestyn i 2021

Ffilmiau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi’u comisiynu ar gyfer Cymru yn yr Almaen 2021

 

Mae Plethu/Weave, cywaith traws-gelfyddyd digidol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru, wedi cael ei ymestyn i 2021 ac wedi cael ei gomisiynu i fod yn rhan o lansiad blwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021 Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn llwyddiant cywaith traws-gelfyddyd CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, bydd Plethu/Weave #2 yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2021, gan gynnig rhagor o gyfleoedd i ddawnswyr annibynnol wedi’u lleoli yng Nghymru gael eu paru â rhai o feirdd mwyaf talentog Cymru i greu wyth o ffilmiau digidol, byr, cyfoes a chyffrous ar-lein.

Bydd ffilm gyntaf Plethu/Weave #2, Aber Bach, a grëwyd gan Mererid Hopwood a dawnsiwr CDCCymru, Elena Sgarbi, yn cael ei rhyddhau ar 11 Ionawr, fel y cyntaf o dri chomisiwn CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru sydd yn rhan o lansiad blwyddyn Cymru yn yr Almaen Llywodraeth Cymru.

Yn 2020, parodd Plethu/Weave bedwar dawnsiwr o CDCCymru a phedwar artist dawns annibynnol gydag wyth o feirdd gyda’r nod o greu wyth ffilm fer ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein. Creodd y parau hyn weithiau traws-gelfyddyd sydd wedi’u hysbrydoli gan straeon, lleoliad, treftadaeth a chysylltiad yr artistiaid eu hunain â Chymru.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gael mewn partneriaeth â CDCCymru unwaith yn rhagor ar rownd arall o’r prosiect arloesol hwn, ac i gael dathlu ein diwylliant llenyddol ac artistig gyda’r byd fel rhan o raglen Cymru yn yr Almaen.”

Caiff Aber Bach ei enw ar ôl bae yng ngorllewin Cymru, lle gellir clywed synau melin wlân a’r môr. Ceir ‘Aber’ a ‘Bach yn y Gymraeg a’r Almaeneg, ond gydag ystyron gwahanol. O’r syniad hwn y daw’r ffilm – a gafodd ei ffilmio ym Melin Wlân Melin Tregwynt yn Sir Benfro, a’i chreu ar y cyd â Rufus Mufasa, Hanan Issa a Tim Volleman – ac mae’nn archwilio sut y gallwn blethu geiriau i greu patrymau newydd o berthyn.

Meddai dawnsiwr CDCCymru, Elena Sgarbi, “Mae gweithio ar yr ail gynhyrchiad o’r prosiect ffilm Plethu/Weave gyda Mererid Hopwood a Tim Volleman wedi bod yn gyfle gwych i ennill dealltwriaeth well o Gymru a’i diwylliant. Trwy frwdfrydedd Mererid i rannu ei diwylliant a’r prosiect hwn, ces gyfle i ddod i adnabod cornel brydferth o ogledd Sir Benfro drosof fy hun, a’i thraddodiad gwehyddu gwlân pwysig.”

Mae gan CDCCymru hanes o deithio i’r Almaen ers 2017, gan berfformio i gynulleidfaoedd yn bennaf yng Ngogledd Rhein-Westphalia, Bafaria a Baden-Württemberg.

Meddai y Prif Weithredwr, Paul Kaynes, “Rydym yn falch iawn y bydd CDCCymru yn cyflwyno dawns fel rhan o lansiad Cymru yn yr Almaen Llywodraeth Cymru. Rydym wedi bod yn datblygu ein henw da a chynulleidfaoedd yn Ewrop, yn enwedig yn yr Almaen a gwledydd cyfagos dros y tair blynedd diwethaf, gan berfformio i leoliadau dan eu sang gyda chryn gymeradwyaeth. Mae’n deimlad cyffrous iawn i ni ein bod wedi cael ein comisiynu i greu y ffilmiau Plethu/Weave hyn, fel bod rhagor o gynulleidfaoedd gartref a thramor yn gallu gweld dau gwmni celfyddydol cenedlaethol o Gymru yn cydweithio.”

Bydd y ddau gomisiwn Plethu/Weave #2 arall sydd yn rhan o raglen Cymru yn yr Almaen yn cael eu darlledu ym mis Mawrth ac ym mis Hydref, gan arddangos gwaith y bardd Alex Wharton a’r artistiaid dawns Krystal S. Lowe ac Osian Meilir.

Meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip: “Mae blwyddyn Cymru yn yr Almaen yn ymwneud â chryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl ac adeiladu rhai newydd, ac mae gan y sector celfyddydol ran bwysig i’w chwarae. Mae ein celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yn rhoi i Gymru ei phersonoliaeth unigryw ac mae’n gryfder mawr yn nhermau hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd.

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio â CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru ar y prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at arddangos gwaith rhai o’n beirdd a dawnswyr mwyaf talentog i gynulleidfaoedd yr Almaen yn y flwyddyn i ddod.”

Bydd Aber Bach, y comisiwn Plethu/Weave #2 cyntaf ar gyfer Cymru yn yr Almaen yn cael ei ddarlledu fel rhan o’r lansiad digidol ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 11 Ionawr. Bydd Aber Bach ar gael ar wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru o 12 Ionawr ymlaen.

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Plethu/Weave ar gael yma.

Uncategorized @cy