Seminar Llenyddiaeth British Council 2021

Eleni mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â’u partneriaid, yn dathlu blwyddyn Cymru yn yr Almaen. Rhwng 4 – 6 Mawrth 2021, fel rhan o’r dathliadau, cynhelir seminar gan y British Council, ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Literaturhaus Stuttgart, gan ganolbwyntio ar y testun “Ni yw Cymru: cyfoeth o leisiau, tirweddau a straeon.”
Cynhelir y seminar ar-lein eleni, dan gadeiryddiaeth Niall Griffiths, enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a Francesca Rhydderch, Athro Cysylltiol Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r seminar yn cynnwys cyfraniadau gan yr awduron Zoë Brigley, Charlotte Williams, Manon Steffan Ros a Richard Gwyn. Yn ogystal, bydd yr awduron Joao Morais, Richard Owain Roberts, Hanan Issa, Eluned Gramich, Alex Wharton ac Ifan Morgan Jones yn ymddangos mewn ffilmiau arbennig sydd wedi eu comisiynu ar gyfer y Seminar. Mae rhagflas o’r seminar i’w weld isod:
Mae’r arlwy yn cynnwys darlleniadau, trafodaethau a gweithdai. Dyma gyfle i academyddion, myfyrwyr, cyhoeddwyr, cyfieithwyr a newyddiadurwyr o bob cwr o Ewrop gael dysgu rhagor am ddiwylliant llenyddol Cymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r Seminar eleni, yn ogystal â chyfrannu tuag at raglen ehangach Blwyddyn Cymru yn yr Almaen gyda’n prosiect trawsgelfyddyd Plethu/Weave, mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Rhyddhawyd Aber Bach, ffilm fer gan Y Prifardd Mererid Hopwood a’r ddawnswraig Elena Sgabri, yn ystod lansiad Blwyddyn Cymru yn yr Almaen ym mis Ionawr. Caiff ffilm arall ei rhyddhau ar 1 Mawrth, yr ail yn y gyfres o dri comisiwn arbennig i nodi’r flwyddyn, gyda’r trydydd i’w rhyddhau yn yr Hydref.
Cynhelir y Seminar ar-lein, dros Zoom, rhwng 5.30 pm nos Iau 4 Mawrth a 6.15 pm nos Sadwrn 6 Mawrth.
I gofrestru, ewch i: https://www.britishcouncil.de/en/programmes/arts/literature-seminar