Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd Medi 2020

Cyhoeddwyd Mer 2 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd Medi 2020

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Cronfa Argyfwng i Awduron – Parhaus

Mae modd i bob awdur proffesiynol sydd yn byw yn y DU neu sydd yn Ddinesydd Prydeinig ymgeisio – gan gynnwys bob math o awdur, ddarlunydd, gyfieithydd llenyddol, sgriptiwr, beirdd, newyddiadurwyr ac eraill – os yw’r weithgaredd hon yn gyfrifol am ganran helaeth o’u hincwm blynyddol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.societyofauthors.org/Grants/contingency-funds#:~:text=The%20Authors’%20Emergency%20Fund,-Emergency%20funding%20for&text=Many%20writers%2C%20illustrators%2C%20journalists%2C,talks%2C%20performances%20and%20school%20visits.

 

Grant White Pube i Awduron – Misol

Rhoddir y Grant White Pube o £500 yn fisol i awdur dosbarth gweithiol yn y DU. Sefydlwyd y grant hwn er mwyn cefnogi awduron o bob oed yn gynnar y neu gyrfa a hoffai fanteisio ar gymorth ariannol heb gytundeb I’w cynorthwyo ym mha bynnag ffordd yr hoffent – gall fod i ryddhau amser I ysgrifennu, I brynnu llyfrau, printio, tanysgrifiadau, ymchwil, datblygu, teithio, neu i dalu costau cyffredinol byw neu rent.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.thewhitepube.co.uk/writersgrant#:~:text=This%20grant%20has%20been%20set,development%2C%20travel%2C%20or%20even%20just

 

Geiriau ar Gynfas – partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru – 3 Medi

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gydweithio gyda Celfyddydau Anabledd Cymru i wahodd mynegiannau o ddiddordeb gan awduron ac artistiaid/darlunwyr B/byddar neu anabl i ddatblygu a darparu prosiect cyfranogi llenyddol gydag unigolion B/byddar neu unigolion anabl yng Nghymru, o fis Medi 2020 ymlaen.

Rydym yn chwilio am Ymarferydd Creadigol i greu a rhedeg prosiect gydag unigolion B/byddar neu unigolion anabl o fis Medi 2020 ymlaen. Mae ffi o £150 ar gyfer pob gweithdy, hyd at uchafswm o £1,350. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/galwad-agored-cyfle-gyda-thal-i-awduron-ac-artistiaid-darlunwyr-anabl/

 

Galwad am gyfranwyr – 14 Medi

Bydd Amgueddfa Cymru yn lansio cylchgrawn celf rhyngweithiol, ar-lein yn Hydref 2020. Y nod yw rhoi llwyfan i leisiau amrywiol siarad am y casgliad celf cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru, ac annog trafodaeth gyfoethog am ddiwylliant gweledol yng Nghymru. Bydd yn llwyfan i drafodaeth a sgwrs fydd yn llywio datblygiad profiad ar-lein Amgueddfa Cymru, yn ogystal â’r rhaglen arddangosfeydd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/galwad-am-gyfranwyr

 

Literature Works: Chwilio am Ymddiriedolwyr – 25 Medi

Mae Literature Works yn cefnogi ysgrifennu creadigol a datblygiad darllenwyr o bob oed, o bob rhan o Dde-Orllewin Lloegr. Maent yn edrych am dri unigolyn medrus, profiadol a brwdfrydig i ymuno â’r Bwrdd i dywys a chefnogi’r sefydliad drwy ei gyfnod nesaf cyffrous o ddatblygiad. Yn benodol, maent yn edrych am ymddiriedolwyr a all gyfrannu at y Bwrdd presennol mewn tri maes: Cyllid: Trysorydd, Arbenigwr Cyfreithiol, Busnes neu brofiad masnachol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://literatureworks.org.uk/opportunities/we-are-seeking-three-trustees-to-join-our-board/

 

Gwobr Wales Poetry Award 2020 – 27 Medi

Wedi 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes, a hynny mewn 212 rhifyn (hyd yn hyn) o’u cylchgrawn, mae Poetry Wales yn cynnal y Wales Poetry Award am yr ail flwyddyn yn olynol. Cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y goreuon o blith barddoniaeth gyfoes ryngwladol. Mae’r Wales Poetry Award yn derbyn cerddi unigol gan feirdd profiadol a beirdd newydd o Gymru a thu hwnt. Mae 3 gwobr, a 10 gwobr gamoliaeth uchel ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/

 

Cynulliad Gwarchodedig i Artistiaid  – 25 Medi, 30 Hydref

Mae Artes Mundi yn gwahodd  bob artist du a chroenliw sydd heb fod yn ddu sy’n byw yng Nghymru i fynychu’r Cynulliad, cysylltu ac ychwanegu at sgyrsiau am ddyfodol sector y celfyddydau.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma : http://artesmundi.org/cy/news/held-space-artists-assembly

Llenyddiaeth Cymru