Dewislen
English
Cysylltwch

The Fortune Men gan Nadifa Mohamed yw Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2022

Cyhoeddwyd Gwe 29 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
The Fortune Men gan Nadifa Mohamed yw Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2022
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Nadifa Mohamed yw enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022 gyda’i nofel The Fortune Men (Viking, Penguin Random House).

Datgelwyd enillydd eleni yn ystod darllediad arbennig o raglen The Arts Show BBC Radio Wales. Yn ymuno â’r cyflwynydd Nicola Heywood Thomas oedd beirniaid y wobr, ynghyd â Leusa Llewelyn o Llenyddiaeth Cymru, a Gary Raymond o Wales Arts Review, a chafwyd cyfraniadau gan y 12 awdur sydd ar y Rhestr Fer.

Datganwyd yn gyntaf bod The Fortune Men yn fuddugol yn derbyn Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies, cyn cipio Gwobr People’s Choice Wales Arts Review, a mynd ymlaen i ennill y brif wobr a derbyn y teitl Llyfr y Flwyddyn 2022. Mae ennill y wobr driphlyg yn golygu bod Nadifa yn derbyn cyfanswm o £4,000 fel gwobr, a thlws unigryw wedi ei ddylunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

The Fortune Men yw trydedd nofel Nadifa Mohamed. Mae’n gofnod ffuglennol o stori Mahmood Mattan, dyn a gaiff ei gyhuddo ar gam o lofruddiaeth yng Nghaerdydd yn yr 1950au. Mae’n dad, yn fentrwr, ac yn fân droseddwr. Mae’n nifer o bethau, ond nid yw’n llofrudd. Pan gaiff siopwr ei ladd yn gïaidd, nid yw Mahmood yn poeni yn ormodol. Dim ond yn y cyfnod cyn yr achos llys, wrth i’w obaith bylu, y mae’n gwawrio ar Mahmood fod angen iddo frwydro am ei fywyd – yn erbyn cynllwyn, rhagfarn a chreulondeb – ac efallai nad yw’r gwir yn ddigon i’w achub.

Ganed Nadifa Mohamed yn Hargeisa, Somalia ym 1981 a symudodd i Brydain yn bedair oed. Enillodd ei nofel gyntaf, Black Mamba Boy, y Betty Trask Award; ac ymddangosodd ar restr fer y Guardian First Book Award, y John Llewellyn Rhys Prize, y Dylan Thomas Prize a’r PEN Open Book Award. Enillodd ei hail nofel, Orchard of Lost Souls, y Somerset Maugham Award a’r Prix Albert Bernard. Cafodd Nadifa Mohamed ei dewis ar gyfer y Granta Best of Young British Novelists yn 2013, ac mae’n Gymrawd y Royal Society of Literature. Cyrhaeddodd The Fortune Men y rhestr fer ar gyfer y Booker Prize 2021. Mae Nadifa Mohamed yn byw yn Llundain.

Caiff y gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol yn flynyddol. Ar y panel eleni mae’r bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a’r darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020, Taylor Edmonds.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Krystal Lowe: “Hoffem ddiolch i bob un o’r awduron a gyflwynodd eu llyfrau i’r wobr. Roedd yn bleser ac yn fraint i ddarllen pob un ohonynt. Roedd yn anhygoel gweld rhychwant y talent a’r creadigrwydd yma yng Nghymru, ac rwy’n edrych ymlaen i ddilyn gyrfaoedd ffrwythlon ein hawduron. Rydym yn eithriadol o falch o fod wedi dewis llyfr arbennig Nadifa Mohamad, The Fortune Men, fel ein prif enillydd eleni, a gobeithio wir y bydd pobl yn mynd ati i ddarllen y nofel bwerus hon.”

 

Enillwyr Categorïau

Yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori – barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol greadigol, a plant a phobl ifanc – yn ogystal â Gwobr People’s Choice Wales Arts Review, gwobrwyodd Llenyddiaeth Cymru chwech o enillwyr yn ystod y darllediad heno.

Enillydd Gwobr Farddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor yw A Voice Coming from Then gan Jeremy Dixon (Arachne Press). Mae ail gasgliad barddoniaeth Jeremy Dixon A Voice Coming From Then yn cychwyn o’i ymgais i gyflawni hunanladdiad yn ei arddegau ac yn ehangu i gwmpasu themâu fel bwlio, queerphobia, derbyniad, a chefnogaeth.

Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol yw The Journey is Home: Notes from a Life on the Edge gan John Sam Jones (Parthian). Dyma hunangofiant clir a gafaelgar John Sam Jones am fyw bywyd ar y ffin, rhwng gwirionedd a chelwydd, rhwng gwrthodiad a derbyniad.

Enillydd y Wobr Plant a Phobl Ifanc yw The Shark Caller gan Zillah Bethell (Usborne). Wedi ei leoli ar lannau Papua Guinea Newydd, mae’r nofel hon yn antur hudolus o gyfeillgarwch, maddeuant, a dewrder.

Mae rhagor o wybodaeth am yr enillwyr yn fan hyn: llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn

 

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i bob un o’r enillwyr. Mae pob un ohonom yn Llenyddiaeth Cymru wedi mwynhau darllen a thrafod y llyfrau ar y rhestr fer ers wythnosau. Llongyfarchiadau gwresog iawn i Nadifa am ennill y wobr driphlyg gyda The Fortune Men. Nid yw’n syndod ei bod wedi dal sylw’r beirniaid a’r cyhoedd gyda’r nofel bwerus hon am anghyfiawnder a gorthrwm. Mae wedi llwyddo i ddod ag ardal ddociau amlddiwylliannol ein prifddinas yn y 1950au yn fyw – gyda’i holl sŵn a’i sawr. Rhwng cloriau’r nofel, mae Caerdydd yn gymeriad diddorol ynddo’i hun.”