Timeline – prosiect ysgrifennu creadigol gyda disgyblion cynradd yn Rhondda Cynon Taf

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o rannu wyth cylchgrawn digidol o waith creadigol disgyblion cynradd Rhondda Cynon Taf.
Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru gyllid gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies i gynnal prosiect ysgrifennu creadigol gydag ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ym mis Mehefin 2021, ac yn dilyn galwad agored llwyddiannus yn ôl ym mis Mai, cynhaliwyd gweithdai a ddatblygwyd ac arweiniwyd gan Lucy Mohan gyda chefnogaeth Nerida Bradley.
Bu wyth ysgol gynradd o’r sir yn rhan o’r prosiect, a dros ddau weithdy’r un ym mis Mehefin 2021, aeth disgyblion blwyddyn 6 ati i archwilio gwahanol fathau o ysgrifennu, o straeon byrion i farddoniaeth, cyn creu eu darnau unigol eu hunain yn seiliedig ar thema teithio mewn amser. Roedd cyfanswm o 202 o ddisgyblion ran yn y prosiect.
Cafodd y prosiect hwn ei gydlynu gan Llenyddiaeth Cymru, ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Arddangosir y gwaith mewn wyth o gylchgronau, a ddyluniwyd gan Lucy Mohan, ac mae modd eu lawrlwytho isod.
Mae cyfranogi yn un o dri colofn gweithgaredd a phrif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw darparu rhagor o gyfleodd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol.
Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi tair Blaenoriaeth Dactegol a fydd yn berthnasol i bob un o’n Colofnau Gweithgaredd, sef Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb, Iechyd a Llesiant, a Phlant a Phobl Ifanc. Nid mathau o weithgaredd yw’r rhain, ond yn hytrach themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth y byddwn yn eu cyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.
“Pleser pur oedd cydweithio gyda disgyblion yr wyth ysgol gynradd. Roedd eu dychymyg byw a’u brwdfrydedd yn anhygoel. Diolch yn fawr iawn i’r athrawon, a helpodd i gefnogi ac annog y disgyblion trwy gydol y prosiect.
Diolch i Llenyddiaeth Cymru am y cyfle hwn, ac i Nerida am gefnogi’r gweithdai. Rwyf wedi mwynhau gymaint. Cynhyrchwyd ystod eang iawn o ysgrifennu gan y disgyblion – o ddinosoriaid a meddygon pla, i robotiaid ac apocalypsau zombie – a phob un yn werth ei ddarllen.”
Gellir lawrlwytho’r wyth cylchgrawn isod: