Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad am geisiadau: Cyfle gyda thâl i awduron

Cyhoeddwyd Maw 4 Mai 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad am geisiadau: Cyfle gyda thâl i awduron

Galwad am geisiadau: Cyfle gyda thâl i awduron

Prosiect Llenyddiaeth Cymru gyda disgyblion blwyddyn 6 yn Rhondda Cynon Taf, wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies a’i gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae cyfranogi yn un o dri colofn gweithgaredd a phrif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw darparu rhagor o gyfleodd i bobl Cymru gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu creadigol ac ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi tair Blaenoriaeth Dactegol a fydd yn berthnasol i bob un o’n Colofnau Gweithgaredd, sef Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb, Iechyd a Llesiant, a Phlant a Phobl Ifanc. Nid mathau o weithgaredd yw’r rhain, ond yn hytrach themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth y byddwn yn eu cyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi derbyn cyllid gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies i gynnal prosiect ysgrifennu creadigol gydag ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal yn ystod ail hanner tymor yr haf 2021, rhwng 7 Mehefin – 16 Gorffennaf. Nod Ymddiriedolaeth Rhys Davies yw meithrin ysgrifennu o Gymru yn Saesneg, yn enwedig yng nghymoedd de Cymru, felly bydd y prosiect penodol hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg.

 

Pa gyfleoedd sydd ar gael? 

Mae dau gyfle gyda thâl ar gael ar gyfer y prosiect hwn

 

Prif ymarferydd creadigol / Awdur (neu dîm o ddau i rannu’r gwaith)

Rydym yn chwilio am Brif ymarferydd creadigol / Awdur i ddyfeisio, datblygu a chynnal prosiect llenyddiaeth gyda disgyblion blwyddyn 6 ar draws Rhondda Cynon Taf.

Y ffi fydd £2,500 am gyflawni’r prosiect yn llawn. Mae hyn gyfwerth â 10 diwrnod o waith ar £250 y dydd.

 

Mae’r ffi yn cynnwys:

  • dyfeisio a datblygu fformat addas, a chynnwys sy’n apelio, ar gyfer gweithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. Gall y Prif ymarferydd creadigol / Awdur benderfynu ar thema addas;
  • cynnal 8 diwrnod byr o weithdai ar gyfer grwpiau o ddisgyblion blwyddyn 6 o nifer o ysgolion cynradd yn Rhondda Cynon Taf. Neu gellir rhannu hyn yn 16 gweithdy hanner diwrnod *;
  • 1 diwrnod ar gyfer cyfarfodydd a chynllunio cyn cynnal y gweithdai; ac
  • 1 diwrnod ar gyfer golygu gwaith creadigol a gaiff ei greu gan y plant i’w arddangos (er enghraifft mewn pamffled neu ffilm).

*Gellir cynnal y gweithdai oll yn fyw drwy blatfform ar-lein, neu eu cyflwyno fel adnodd fideo ac yna sesiynau dilynol byw.

Mae’r ffi yn cynnwys pob cost gan gynnwys TAW.

 

Bydd y Prif ymarferydd creadigol / Awdur:

  • yn gallu cyflawni’r prosiect o fewn y gyllideb a drafodwyd ac y cytunwyd arni gyda Llenyddiaeth Cymru;
  • yn gallu gweithio gyda phlant 10 – 11 oed (blwyddyn 6);
  • yn gallu cyflawni’r prosiect rhwng 7 Mehefin – 16 Gorffennaf 2021;
  • â phrofiad mewn cynnal gweithdai llenyddiaeth gyda phlant a phobl ifanc;
  • yn gallu cydweithio’n agos gydag awdur cysgodol i gyflawni’r prosiect;
  • â gwiriad DBS lefel uwch cyfredol (gall Llenyddiaeth Cymru gynghori); ac
  • yn gallu defnyddio platfform ar-lein fel Zoom neu Microsoft Teams (gall Llenyddiaeth Cymru gynghori).

 

Awdur cysgodol

Rydym hefyd yn gwahodd ceisiadau gan egin awduron fyddai’n elwa o hyfforddiant a phrofiad pellach yn y math hyn o waith, i gysgodi awdur mwy profiadol yn ystod y prosiect. Y ffi ar gyfer y cyfle hwn yw £500.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • cysgodi ymarferydd creadigol profiadol wrth ddatblygu a chyflawni’r prosiect;
  • cyfrannu at syniadau a gweithgareddau creadigol y gweithdai mewn cyfarfodydd cynllunio ac yn ystod y gweithdai; a
  • chwblhau gwerthusiad byr ar ddiwedd y prosiect.

 

Bydd yr Awdur cysgodol:

  • yn gallu ymrwymo i fynychu’r holl gyfarfodydd cynllunio ac o leiaf hanner y gweithdai a gynlluniwyd;
  • yn awyddus i ddysgu gan ymarferydd profiadol;
  • â diddordeb mewn cynnal gweithdai llenyddiaeth;
  • â gwiriad DBS lefel uwch cyfredol (gall Llenyddiaeth Cymru gynghori); ac
  • yn gallu defnyddio platfform ar-lein fel Zoom neu Microsoft Teams (gall Llenyddiaeth Cymru gynghori).

 

Mae’r ffi yn cynnwys pob cost gan gynnwys TAW.

 

Sut i wneud cais?

Cliciwch yma i wneud cais am un o’r cyfleoedd hyn. Bydd gennych yr opsiwn i wneud cais am un o’r ddau gyfle.

 

Bydd gofyn i chi:

  1. Lenwi ffurflen gais fer a ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

 

Bydd y ffurflen gais yn gofyn wrthych chi:

– pam rydych chi’n meddwl eich bod yn addas ar gyfer y cyfle;

– am drosolwg o’r prosiect yr hoffech ei ddatblygu gyda’r plant (gan gynnwys unrhyw syniadau arddangos, a themâu yr hoffech eu harchwilio) – ar gyfer y Prif Ymarferydd yn unig; neu

– sut fyddech chi’n elwa o’r cyfle a sut y byddai’n eich helpu chi yn y dyfodol – ar gyfer y cyfle cysgodi yn unig.

 

  1. Uwchlwytho CV syml yn nodi profiadau perthnasol a/neu botensial.

 

Cymhwysedd

Mae pob awdur ac artist sy’n byw yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am y cyfleoedd hyn.

Rhoddir blaenoriaeth i’r canlynol:

  • Unigolion sy’n uniaethu ag o leiaf un o Nodweddion y Cleientiaid a Dargedir (unigolion ar incwm isel, unigolion o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, unigolion ag anableddau neu afiechydon tymor hir, meddyliol neu gorfforol);
  • Unigolion nad ydynt eisoes yn derbyn unrhyw arian rheolaidd gan Llenyddiaeth Cymru, na gwaith â thâl yn ystod y 12 mis diwethaf;
  • Awduron llawrydd sydd wedi colli gwaith oherwydd pandemig COVID-19; ac
  • Awduron sy’n byw yn Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf, neu’r rheini sydd â chysylltiad personol agos â’r ardal.

 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau:

12.00 canol dydd, dydd Llun 24 Mai 2021

Dogfennau pellach

Pe dymunwch dderbyn y dogfennau isod mewn ffurf gwahanol, cysylltwch â ni ar bob cyfrif: post@llenyddiaethcymru.org

Gwybodaeth bellach (PDF)
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 121KB
Gwybodaeth bellach (Dogfen Word)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 60KB
Gwybodaeth bellach (Print bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 60KB
Ffurflen gais
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 200KB
Ffurflen gais (print bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 200KB