Dewislen
English
Cysylltwch

Winter Writing Workshops gydag Eloise Williams

Cyhoeddwyd Mer 4 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Winter Writing Workshops gydag Eloise Williams

Dros y mis nesaf bydd Children’s Laureate Wales, Eloise Williams, yn rhyddhau cyfres o weithdai ysgrifennu am ddim i blant a phobl ifanc 7-14 mlwydd oed er mwyn parhau i’w hysbrydoli yn ystod y cyfnod heriol parhaus hwn.

Gyda phandemig COVID-19 yn parhau i atal gweithdai ac ymweliadau wyneb yn wyneb rhag cael eu cynnal, bydd ysgolion yn gallu cynnal y gweithdai ar-lein hyn eu hunain yn eu dosbarthiadau.

Bydd y pedwar gweithdy yn cynnwys chwe fideo byr yr un. Gall athrawon eu chwarae o flaen y dosbarth, a bydd tasgau amrywiol i’r disgyblion eu cwblhau rhwng pob fideo. Gellir cwblhau gweithdy mewn cyn lleied ag awr neu ei gwblhau dros gyfnod o wythnos neu fwy yn unol ag anghenion y dosbarth. Gweithdai trwy gyfrwng y Saesneg yw’r rhain.

Bydd pecyn adnoddau ar gyfer disgyblion, yn ogystal â chanllawiau i athrawon, ar gael o flaen llaw ar dudalen Winter Writing Workshops. Bydd y gweithdai yn aros ar-lein er mwyn i ysgolion eu cynnal fel y dymunant.

 

Cyfle i ennill ymweliad gan Eloise, pecyn llyfrau, a llyfrau nodiadau Children’s Laureate Wales

Anogir ysgolion i rannu lluniau a fideos o’r gweithdai, ac o ddisgyblion yn darllen neu’n arddangos gwaith a grëwyd yn ystod y gweithdai hynny.

Bydd y llun neu’r fideo mwyaf creadigol yn derbyn ymweliad ysgol am ddim gan Eloise (pan fo hynny’n ddiogel ac yn cael ei ganiatáu), pecyn o lyfrau Eloise wedi’u llofnodi ar gyfer llyfrgell yr ysgol, a llyfr nodiadau Children’s Laureate Wales yr un ar gyfer y dosbarth cyfan – anrheg Nadolig hyfryd! Bydd lluniau a fideos a rennir rhwng 11 Tachwedd – 11 Rhagfyr yn gymwys i ennill y wobr.

 

Gallwch anfon eich lluniau a’ch fideos atom drwy’r sianeli isod:

Twitter: @Laureate_Wales / #WinterWritingWorkshops

E-bost: childrenslaureate@literaturewales.org (nodwch yn yr e-bost os ydych chi’n rhoi caniatâd i’r lluniau a/neu’r fideos gael eu rhannu ar gyfrif Twitter a gwefan Children’s Laureate Wales)

 

Dyma restr o’r gweithdai, gan gynnwys dyddiadau rhyddhau a chanllawiau oedran:

Dyddiad rhyddhau Thema Canllaw oedran
Dydd Mercher, 11 Tachwedd Gaeaf / Ynys

Wedi’i ysbrydoli gan y llyfr ‘Elen’s Island’

7-9 mlwydd oed

(Blynyddoedd ysgol 3 a 4)

Dydd Mercher, 18 Tachwedd Ysbrydion / Arswyd

Wedi’i ysbrydoli gan y llyfr ‘Seaglass’

10-14 mlwydd oed

(Blynyddoedd ysgol 6-9)

Dydd Mercher, 25 Tachwedd Gwrachod / Chwedlau

Wedi’i ysbrydoli gan y llyfr ‘Wilde’

9-11 mlwydd oed

(Blynyddoedd ysgol 5 a 6)

Dydd Mercher, 2 Rhagfyr Fictoraidd / Nadolig / Hanes lleol

Wedi’i ysbrydoli gan y llyfr ‘Gaslight’

9-13 mlwydd oed

(Blynyddoedd ysgol 5-8)

 

Mae llyfrau Eloise ar gael i’w prynu o’ch siopau llyfrau lleol, ar-lein drwy www.fireflypress.co.uk/shop neu www.gwales.com, ac i’w benthyg o lyfrgelloedd.