Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Achos dros Rym Llenyddiaeth – Adroddiad Canol Tymor 2019-22 Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Maw 23 Chw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr Achos dros Rym Llenyddiaeth – Adroddiad Canol Tymor 2019-22 Llenyddiaeth Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth. Mae ein prosiectau’n gwneud gwir wahaniaeth, a thrwy eiriau rydyn ni’n helpu i lywio cymdeithas, economi a diwylliant Cymru.

Pleser yw rhannu ein Hadroddiad Canol Tymor, sydd yn adrodd ar ein cynnydd a’n heffaith ers cyhoeddi ein Cynllun Strategol 2019-22.

Ar ôl blwyddyn heriol, llawn newid, rydym yn hynod falch o gyflwyno’r Adroddiad Canol Tymor hwn. Bwriad yr adroddiad yw arddangos sut yr ydym ni’n parhau i fynd ati i gyrraedd ein targedau a chyflawni’r nodau a osodwyd yn ein Cynllun Strategol uchelgeisiol, a lansiwyd ym mis Mai 2019.

Canolbwyntia’r adroddiad ar ein cynnydd a’n gwaith parhaus ar ein tri prif colofn gweithgaredd:

  • Cyfranogi – ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.
  • Datblygu Awduron – datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.
  • Diwylliant Llenyddol Cymru – dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.

Yn ogystal, mae’r adroddiad hwn yn amlinellu ein huchelgeisiau a’n haddewid wrth edrych tua’r dyfodol.

Mae 2021 yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Llenyddiaeth Cymru, ac edrychwn ymlaen at barhau i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru gyda’n partneriaid a’r sector ehangach, gan eirioli yr achos dros rym llenyddiaeth.

Llenyddiaeth Cymru