Dewislen
English
Cysylltwch

Ysgolion Cymru yn nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid drwy farddoniaeth a byd natur

Cyhoeddwyd Mer 26 Hyd 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ysgolion Cymru yn nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid drwy farddoniaeth a byd natur
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi dod ynghyd i ysbrydoli pobl ifanc Cymru i weithredu yn erbyn newid hinsawdd drwy gysylltu gyda byd natur, yr awyr agored a barddoniaeth. 

Roedd dydd Sadwrn 22 Hydref yn nodi Diwrnod Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid, mudiad ieuenctid byd-eang sy’n pryderu am newid hinsawdd ac anghyfiawnder byd-eang. I gyd-fynd â’r diwrnod, fe lansiodd y ddau sefydliad ‘Tirweddau Telynegol’ – prosiect barddoniaeth a ysbrydolwyd gan fyd natur gyda Casi Wyn, Bardd Plant Cymru a Connor Allen, Children’s Laureate Wales. 

Gwelodd y prosiect 350 o blant o 12 ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn gweithdai creadigol mewn lleoliadau yn yr awyr agored ac yn eu ystafelloedd dosbarth. 

Gwahoddwyd y plant i’w safle Ymddiriedolaeth Genedlaethol lleol er mwyn iddynt gael eu hysbrydoli gan amgylchedd naturiol yr ardal, yr hanes a’r etifeddiaeth wrth ddychmygu sut fydd ei ddyfodol yn edrych. Yn yr ystafell ddosbarth, canolbwyntiwyd ar roi geiriau ar bapur a chyfansoddi cerdd sy’n rhannu eu perthynas hwy â byd natur, ac effaith newid hinsawdd ar eu stepen drws. 

Gweithiodd Casi gyda phum ysgol yng ngogledd Cymru: Ysgol Cymerau, Y Faenol, Cemlyn, Bro Gwydyr a Phenmaenmawr. Cafodd y plant y cyfle i archwilio Cemlyn ar Ynys Môn, Glan Faenol ym Mangor a Phorthdinllaen ym Mhen Llŷn. 

Dywedodd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru; “Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu am amrywiaeth o wahanol lefydd, pob un yn amrywio o ran yr heriau sy’n eu hwynebu gyda newid hinsawdd. Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i gysylltu plant lleol i rai o’r llefydd hyn a’u galluogi i feithrin synnwyr o berchnogaeth. Credaf mai’r agosaf ydynt i’w amgylchedd lleol, y mwyaf o ofal fyddant yn ei gymryd o’r hyn sydd ar stepen eu drws.”

Yng nghanolbarth a de Cymru, gweithiodd Connor gyda Sant Woolos, Parc Tredegar, Eglwys yng Nghymru y Trallwng, Ysgolion Cynradd VA Eglwys Sant Marc yng Nghymru ac Ysgol Gymunedol Treowen. Archwiliwyd Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd, Ystad Southwood yn Sir Benfro a Chastell a Gardd Powis yn y Trallwng.

Dywedodd Connor Allen, Children’s Laureate Wales: “Mae’r plant yn ymwybodol o effeithiau newid hinsawdd, mae ganddynt lawer i’w ddweud, ac mae barddoniaeth yn rhoi’r llwybr hwnnw iddynt fynegi eu teimladau a’u syniadau am y dyfodol, gan mai hwy yw’r dyfodol.” 

Mae Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales yn swyddi llysgenhadol cenedlaethol sy’n cael eu rhedeg gan Lenyddiaeth Cymru gyda’r nod o ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ar draws Cymru drwy lenyddiaeth. Wedi paru ag ymrwymiad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i hyrwyddo a chadw llefydd o harddwch naturiol a diddordeb hanesyddol tra’n creu profiadau difyr sy’n croesawu pawb, bu i’w huchelgeisiau ddarparu sylfaen i gydweithio ac ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru. 

Dywedodd Lhosa Daly, Cyfarwyddwr Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; “Mae’n bwysicach nag erioed i ymgysylltu pobl ifanc gyda byd natur a’r awyr agored a’u cael i gymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch hinsawdd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Lenyddiaeth Cymru am y cyfle i gyd-weithio ar y prosiect ysbrydoledig hwn, ac i chwarae’n rhan yn cynnig llais i bobl ifanc. Mae Casi a Connor wedi gwneud gwaith ardderchog yn ymgysylltu meddyliau ifanc, ac mae clywed rhai o’r cerddi yn bendant yn cynnig golwg eang ar yr hyn mae newid hinsawdd yn e olygu i blant yng Nghymru.”

Ychwanegodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru; “Mae awduron wedi eu hysbrydoli gan dirwedd Cymry ar hyd yr oesau. Mae ein holl straeon, ein hiaith a’n chwedloniaeth wedi’u cydblethu â’n hamgylcheddau. Wrth weithio gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, mae ein beirdd llawryfog wedi llwyddo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o awduron gyda rhai o dirweddau naturiol harddaf Cymru. Mae’r prosiect wedi ein cynorthwyo i greu sylfaeni i berthynas fydd yn parhau rhwng dau sefydliad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.” 

I weld y brwdfrydedd, yr ymgysylltiad, y creadigrwydd ac effaith y prosiect, gwyliwch y fideo yma:

Rhyddhawyd y cerddi ar ddydd Sadwrn, 22 Hydref ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.

Plant a Phobl Ifanc