Ganed Hammad Rind ym Mhwnjab, Pacistan, ac ar hyn o bryd mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae ei straeon, erthyglau ac adolygiadau o lyfrau wedi ymddangos mewn nifer o gylchgronau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n arwain gweithdai yn rheolaidd ar ysgrifennu creadigol, adrodd straeon a llenyddiaeth y Dwyrain.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Four Dervishes, gan Seren yn 2021. Dywedodd Jon Gower ei fod “Heb os, yn un o’r nofelau fwyaf nodedig i ddod o Gymru ers sawl troad lleuad.” Mae’n gweithio ar ei ail nofel ar hyn o bryd.
Mae’n gallu siarad naw iaith, gan gynnwys Wrdw, Pwnjabeg, Hindi, Perseg, Twrceg, Eidaleg a Ffrangeg, ac mae’n ychwanegu dilysrwydd ac unigolrwydd i’w waith drwy ymgorffori elfennau o’r ieithoedd a’r diwylliannau gwahanol hyn yn ei waith ysgrifenedig.
Cefndir

Dros y blynyddoedd, mae Hammad wedi cymryd rhan mewn nifer o’n rhaglenni datblygu awduron.
Yn ôl yn 2019, mynychodd Hammad daith i Ŵyl y Gelli a drefnwyd gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â’r ŵyl ar gyfer aelodau o’r grŵp meic agored ‘Where I’m Coming From’. Roedd y daith yn gyfle euraidd i gwrdd ag awduron eraill o Gymru ac fe lwyddodd roi hwb i hyder Hammad a chynyddu ei fuddsoddiad yn ei waith.
Yn fuan wedi hynny, enillodd ei le ar raglen beilot Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli. Defnyddiodd y nawdd a dderbyniodd i gynnal cyfres o weithdai ysgrifennu a darlunio i blant o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn Grangetown gyda’r nod o ddathlu amrywiaeth amlddiwylliannol yr ardal.
Yn 2021 Cafodd ei gomisiynu gennym i redeg prosiect o’r enw Morfil Trelluest, oedd yn defnyddio’r celfyddydau – ysgrifennu creadigol a phaentio – er budd trigolion yn Grangetown sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu deimladau o berthyn fel aelodau o gymunedau diasporig.
Dysgu Cymraeg & Cynrychioli Cymru
Yn 2023, cafodd Hammad ei ddewis i fod yn un o garfan Cynrychioli Cymru, rhaglen sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi.
Yn fwyaf diweddar, roedd Hammad yn un o garfan Awduron wrth eu Gwaith Gwyl y Gelli, rhaglen sy’n rhoi cyfle i awduron fynychu gweithdai gyda chyhoeddwyr, asiantiaid ac, yn hollbwysig, gyda rhai o’r artistiaid rhyngwladol sefydledig sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl.
“Mae Llenyddiaeth Cymru yn sefydliad cefnogol sydd wedi mynd tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig wrth rannu cyfleoedd ac adnoddau ac wrth fy annog ar fy nhaith.” – Hammad
Mae rhaglen ddatblygu awduron ‘Cynrychioli Cymru’ yn carlamu tuag at ei phumed rownd bellach, gyda’r garfan ddiweddaraf o awduron sydd am dderbyn blwyddyn o ddatblygu dwys yn cael ei chyhoeddi yng ngwanwyn 2025. Mae’r rhaglen yn un ddwyieithog, ar agor i awduron sy’n ’sgwennu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Un elfen hyfryd o gymysgu awduron sy’n gweithio yn y ddwy iaith yw’r ffaith fod sylw yn cael ei roi i’r iaith Gymraeg, â’r budd o ymarfer a chyfansoddi yn yr iaith yn cael ei amlygu i’r garfan o awduron sy’n ysgrifennu yn y Saesneg. Mae’r rhaglen wedi gwneud gwaith da o ran pontio’r cymunedau o awduron yn Nghymru sy’n ysgrifennu yn y naill iaith neu’r llall.
Un elfen naturiol o’r cymhathu hwn rhwng y grwpiau iaith oedd fod awduron di-Gymraeg yn awyddus i ddysgu mwy am y Gymraeg, a dysgu mwy o Gymraeg. A dyna lle y cychwynnodd y berthynas arbennig rhwng Llenyddiaeth Cymru a’r Ganolfan Ddysgu Gymraeg Genedlaethol.
Mae’r Ganolfan yn rhannu gweledigaeth Llenyddiaeth Cymru o fod eisiau rhoi mwy o gyfleoedd i unigolion sy’n cael eu tangynrychioli – felly mae cydweithio ar raglen Cynrychioli Cymru yn gyfle euraidd i ddatblygu siaradwyr Cymraeg newydd o gefndiroedd amrywiol.
Mae Cynrychioli Cymru yn raglen sy’n cynnig hyfforddiant llenyddol dros gyfnod o flwyddyn, yn cynnwys mentor personol ac ysgoloriaeth o £3K. Ond yn ychwanegol i’r pecyn datblygu crefft a gwybodaeth lenyddol, rydym hefyd yn cynnig i’r awduron ymuno â dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim.
Mae’r dosbarthiadau yn digwydd ar-lein, gyda chwrs preswyl yn Nhŷ Newydd yn ychwanegiad i’r dysgu digidol ar ddiwedd y cyfnod. Eleni, mae’r cwrs yn canolbwyntio ar lefel Mynediad – sef siaradwyr Cymraeg newydd sbon.
Holi Hammad
Fe aethom ati i holi Hammad am ei daith i ddysgu’r iaith:
- Beth wnaeth eich ysgogi chi i fod eisiau dysgu Cymraeg?
- Oes na gwrs/prosiect/rhaglen gan Llenyddiaeth Cymru wedi eich helpu chi ar y daith i ddysgu’r iaith?
- Beth sydd nesaf i chi o ran defnyddio’r Gymraeg yn eich bywyd/gwaith fel awdur?
Dyma ei atebion i’r cwestiynau:
Ar y gweill gan Hammad
Yn dilyn ei lwyddiant yn dysgu’r Gymraeg ac yntau bellach yn rhugl, dyma rai o’r cyfleoedd sydd wedi codi i Hammad yn ddiweddar…
- Cafodd Hammad ei ddewis i ysgrifennu stori fer i blant sy’n cael ei gynnwys ar Stori Tic Toc (Cyw, S4C) o’r enw ‘Robin Be’ Bynnag’.
- Mae Hammad hefyd yn un o leisiau newydd cylchgrawn Barn, wedi iddo ysgrifennu erthygl ddiddorol am hanes Cilmeri a barddoniad y Shia.
Mae taith Hammad i ddysgu’r Gymraeg mewn cyn lleied o amser yn un ysbrydoledig iawn.
Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn ei daith i ddysgu’r iaith ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei yrfa ysgrifennu fel awdur, yn ogystal â rhoi’r cyfle iddo ymarfer ei Gymraeg ar lafar yn Nhŷ Newydd mewn modd anffurfiol a naturiol sydd wedi bod yn brofiad euraidd iddo.