Dewislen
Eng
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: 2027-2028 Ffenestr Ymgeisio Rhaglen Datblygu Awduron Ar Agor

Cyhoeddwyd Iau 15 Hyd 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: 2027-2028 Ffenestr Ymgeisio Rhaglen Datblygu Awduron Ar Agor
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch i ailagor ceisiadau ar gyfer Cynrychioli Cymru, ein rhaglen nodedig ar gyfer datblygu awduron, sydd yn cefnogi awduron sydd heb gynrychiolaeth deg i ddatblygu a mireinio eu crefft a datblygu eu sgiliau.

Gan ddechrau fis Ebrill 2027, bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 10 o awduron drwy gynnig y canlynol:

  • Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
  • Mentor personol
  • Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
  • Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr,
  • Dosbarth Meistr preswyl dros benwythnos yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
  • Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Dyddiad Cau: 5.00 pm, Dydd Iau 26 Tachwedd 2026

Bydd yr awduron llwyddiannus yn cael eu hasesu a’u dethol gan banel annibynnol o arbenigwyr. Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg.

Mae rhaglen 2027-28 yn croesawu’r rhai sy’n ymarfer mewn amrywiaeth o genres creadigol gan gynnwys ffuglen, ffeithiol greadigol, barddoniaeth a pherfformio barddoniaeth.

Ariennir rhaglen Cynrychioli Cymru 2027-28 gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe’i datblygwyd i wella cynrychiolaeth o fewn y sector llenyddiaeth yng Nghymru ac i ddatblygu talent a photensial awduron Cymru.

 

Effaith Cynrychioli Cymru

Mae pob rownd yn adeiladu ar lwyddiannau ac adborth blynyddoedd blaenorol, a gwaith ymgynghori gydag unigolion a sefydliadau yn y sector. Ers 2020, mae 80 o awduron wedi derbyn cefnogaeth drwy’r rhaglen, ac fe ellir gweld eu heffaith gwirioneddol ar dirwedd llenyddol Cymru. P’un ai rydym yn dathlu cyhoeddi casgliad o gerddi Nia Morais, Yn Y Freuddwyd (Cyhoeddiadau Barddas, 2026) neu ail nofel Gwenno Gwilym LOL (Gwasg y Bwthyn, 2026), neu gyhoeddi cyfrol ddwyieithog Beyond/Tu Hwnt: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl (Lucent Dreaming, 2025), a gyd-olygwyd gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, tri awdur fu’n gyfranogwyr ar raglen Cynrychioli Cymru, mae pob awdur yn darparu byd olwg arwyddocaol sydd yn cyfoethogi’r llenyddiaeth rydym yn ei darllen.

Fis Tachwedd, rydym yn dathlu pum mlynedd o Gynrychioli Cymru gyda chyhoeddi ‘Treigl’, rhifyn arbennig o gylchgrawn Folding Rock. Cynhelir lansiadau am ddim ym Mangor a Chaerdydd, gan gynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr gwrdd ag awduron sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen, a chyfle i glywed ganddynt yn uniongyrchol am eu profiadau a’r effaith ar eu gyrfaoedd fel awduron. Cadwch olwg ar dudalen Digwyddiadau ar wefan Llenyddiaeth Cymru, ac ar gyfryngau cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru a Folding Rock am ragor o fanylion.

Gallwch ddarganfod rhagor am effaith rhaglen Cynrychioli Cymru drwy fynd i’r adran Cynrychioli Cymru: Gair o Brofiad ar ein gwefan.

Dywedodd Claire Furlong Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Bydd blwyddyn nesaf yn nodi seithfed blwyddyn Cynrychioli Cymru. Gallwn weld effaith y rhaglen eisoes, gyda lleisiau cyffrous o’r rhaglen i’w gweld mewn cylchgronnau llenyddol, gwyliau, o fewn cymunedau, ac ar ein silffoedd llyfrau. Eleni, bydd cyfnod ein galwad agored yn cynnig cyfleoedd i glywed gan rai o’r awduron sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Gobeithiwn y bydd eu straeon yn dangos nad yw Cynrychioli Cymru yn chwilio am un math penodol o awdur. Yn hytrach, mae’n ofod lle gall ystod eang o leisiau ddatblygu, tyfu, a chael eu clywed. Ni allwn aros i weld pwy fydd yn ymuno â ni yn 2027.”

Cyn gwneud cais, gweler adran Cwestiynau Cyffredin a ddylai gynnig ateb i bopeth sydd angen i chi ei wybod am y rhaglen.

 

Ymgeisiwch Nawr

Mae gwahoddiad i unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol a’u gyrfaoedd fel awduron i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru ar adeg ymgeisio a thrwy gydol y rhaglen 12 mis o hyd, heblaw am awduron sydd yn ymgeisio i ddatblygu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr llawn-amser na myfyrwyr rhan amser, gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i arianwyr, yn cynnwys ymddiriedolwyr cyfredol neu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, nac unigolion llywodraethol, na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru o’r blaen.

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i awduron gyflwyno sampl o’u gwaith creadigol. Caiff cyflwyniadau fideo o waith creadigol eu derbyn hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, Cwestiynau Cyffredin a sut i wneud cais ewch draw i dudalen brosiect Cynrychioli Cymru, neu cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org

 

Cefnogaeth i Ymgeiswyr

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch a chroesawgar. Os hoffech chi sgwrsio gydag aelod o staff cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru at post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn hapus i drafod y rhaglen, a’r broses ymgeisio gyda chi, ac i drafod ai Cynrychioli Cymru yw’r rhaglen gywir i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa.

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn ddigidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Mercher 11 Tachwedd a dydd Iau 19 Tachwedd 2026. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org, gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel testun y neges.

Cynrychioli Cymru