Antholeg newydd o waith awduron Cynrychioli Cymru wedi’i gyhoeddi gan Lucent Dreaming
Ceir darnau o waith newydd gan Kittie Belltree, Anthony Shapland, Rosy Adams, Frankie Parris, Jon Doyle, Ciaran Keys, Amy Kitcher, Simone Greenwood, Bridget Keehan, Alix Edwards, Ben Huxley, ac Anastacia Ackers.
Yn eu rhagarweiniad noda Rosy Adams ac Alix Edwards:
“Yr hyn sy’n gyffredin i ni fel awduron, waeth beth mae bywyd wedi ei daflu atom, na lle rydym heddiw, yw’r ffaith i ni gyd gael ein magu tan yn ein harddegau mewn cartrefi difreintiedig….rydym yn troedio’r llwybr cyffredin o “heb gael”. Ond mae ein bywydau yn wahanol iawn, ac mae pob un o’n lleisiau yn gweu stori wahanol…..Darllenwch ragor a byddwch yn darganfod bydoedd anghyffredin.”
Cyhoeddir yr antholeg gan Lucent Dreaming, gwasg annibynnol o Gymru sy’n cyhoeddi gwaith gan egin awduron o bedwar ban y byd. Dyma’r ail gyfrol o waith awduron rhaglen Cynrychioli Cymru i Lucent Dreaming gyhoeddi, gyda’r gyfrol gyntaf Maps & Rooms wedi ei chyhoeddi yn 2022. Gellir ddarllen rhagor am Lucent Dreaming a phrynu’r gyfrol newydd yma.
Ceir rhagor o wybodaeth am Rhaglen Cynrychioli Cymru ar wefan Llenyddiaeth Cymru. Bydd ceisiadau ar gyfer Rhaglen Cynrychioli Cymru 2025-26 yn agor yn ystod mis Awst. Cadwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y cyhoeddiad.