Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Rhaglen 2023-2024 ar agor ar gyfer ceisiadau

Cyhoeddwyd Maw 30 Awst 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Rhaglen 2023-2024 ar agor ar gyfer ceisiadau
Mae ein rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer awduron yn ôl, y tro hwn bydd yn canolbwyntio’n benodol ar lenyddiaeth plant a phobl ifanc.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2023-24 bellach wedi mynd heibio [5.00 pm 25 Hydref 2022]. Cliciwch yma i weld pa gyfleoedd eraill gall Llenyddiaeth Cymru gynnig i awduron.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod trydedd rownd Cynrychioli Cymru, ein rhaglen datblygiad proffesiynol ar gyfer awduron, bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Yn ei thrydedd flwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy’n ysgrifennu neu’n ymddiddori mewn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc. Darllenwch ragor am y rhesymau  bydd y rhaglen eleni yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yma. 

Byddwn yn cefnogi carfan o 13 o awduron o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy gynnig y canlynol:  

  • gwobr ariannol hyd at £3,300 i helpu awduron gymryd seibiant i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i gynorthwyo gyda chostau teithio   
  • Cyfres o sesiynau mentora un-i-un yn ystod y flwyddyn 
  • gweithdai a sgyrsiau misol  
  • cyfleoedd i rwydweithio, creu cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill   
  • cyfleoedd i gyfarfod arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt  
  • encilion ysgrifennu am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd   

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Mawrth 2023 ac yn rhedeg tan ddiwedd mis Chwefror 2024. 

Caiff yr awduron eu dewis gan banel annibynnol o bedwar arbenigwr ym myd llenyddiaeth: Dr. Ann Alston (Cadeirydd), Lily Dyu, Elgan Rhys, ac Alex Wharton. Ceir rhagor o wybodaeth am y Panel yma.  

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n byw yng Nghymru ac yn ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd newydd ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg, yn ogystal â llenorion sy’n mwynhau  arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe ddarperir cyfieithu ar y pryd  lle bo angen. 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis a gaiff ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Datblygwyd y rhaglen er mwyn gwella cynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol yng Nghymru. 

Nododd Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru 

“Rydym yn dechrau gweld canlyniadau gwych yn deillio o ddwy rownd gyntaf Cynrychioli Cymru, gyda’r awduron yn cael sylw haeddiannol mewn comisiynau a hyd yn oed cyfleoedd cyhoeddi ar ôl gweithio’n galed ar eu hysgrifennu ac yn dilyn llwybrau a gafodd eu hamlygu gan eu mentoriaid ac mewn gweithdai a digwyddiadau yn ystod y rhaglen. Rydym yn hynod falch felly o lansio ein trydedd rownd yr haf hwn, a fydd yn cyfrannu at ddatblygu cyflenwad o dalent newydd yng Nghymru ac yn helpu i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a’r tangynrychioli o fewn llenyddiaeth plant a phobl ifanc. Bydd agor y rhaglen i awduron sy’n dod o amrywiaeth eang o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn sicrhau amrywiaeth o leisiau newydd o fewn ysgrifennu plant yng Nghymru, gyda’r nod o sefydlu straeon newydd fydd yn cynrychioli mwy o blant, a mwy o awduron i weithredu fel arwyr i ddarllenwyr ifanc. Mae Llenyddiaeth Cymru’n edrych ymlaen at gefnogi’r awduron a chaiff eu dethol am flynyddoedd i ddod.”    

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i awduron gyflwyno pennod o’u llyfr ffuglen neu ffeithiol greadigol, detholiad o’u barddoniaeth, neu sampl o’u nofel graffig. Cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin i ddysgu mwy am y genres cymwys. 

Byddwn hefyd yn cynnal tri gweithdy ysgrifennu creadigol arlein yn ystod y cyfnod cyn y dyddiad cau er mwyn cynnig cefnogaeth greadigol i ymgeiswyr a blas ar sut beth fyddai cymryd rhan yn y rhaglen. Mae manylion y sesiynau, a fydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, fel a ganlyn: 

-Ysgrifennu Barddoniaeth i Blant / Writing Poetry for Children (sesiwn Saesneg) gydag Alex Wharton, Dydd Iau 8 Medi 2022. 7.30-9.00 pm 

-Ysgrifennu ffuglen i bobl ifanc / Writing fiction for young people (sesiwn Saesneg) gydag Emma Smith-Barton, Dydd Mawrth 13 Medi 2022. 7.30-9.00 pm 

-Ysgrifennu ffuglen i blant gydag Angharad Tomos, Dydd Iau 15 Medi 2022., 7.30-9.00 pm.  

Am fwy o wybodaeth am y sesiynau hyn ac i gofrestru, cliciwch yma.

Bydd aelodau o dîm Llenyddiaeth Cymru wrth law ar ddiwedd pob sesiwn i gynnig arweiniad ar y broses ymgeisio ac i ateb unrhyw gwestiwn gan ddarpar ymgeiswyr. 

Bob blwyddyn, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio mewn ymgynghoriad gofalus â chymunedau, awduron, ac ymgynghorwyr o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n bodoli eisoes o fewn y sector. 

Cafodd rhifyn cyntaf rhaglen Cynrychioli Cymru, ei lansio yn 2020 ar gyfer awduron o liw ac mae’r rownd bresennol yn cefnogi awduron o gefndiroedd incwm isel. 

Cyflwyno eich cais 

Gwahoddir unigolion sydd o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu i blant a phobl ifanc i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru. 

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am sut i gyflwyno cais, cliciwch yma, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org. 

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, dydd Mawrth 25 Hydref 2022.  

 

 

Cynrychioli Cymru