Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Dathlu Rhaglen 2022-2023

Cyhoeddwyd Gwe 31 Maw 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Dathlu Rhaglen 2022-2023
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o ddathlu llwyddiannau carfan 2022-2023 Cynrychioli Cymru a llwyddiant cynyddol ein rhaglen datblygu awduron.

“Mae’r rhaglen wedi trawsnewid fy ‘sgwennu, fy hyder, a fy mywyd.” 

-Ben Huxley, wedi ei fentora gan Niall Griffiths 

 

Y Rhaglen: 

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis sy’n rhoi cyfleoedd datblygu i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru ei chyflenwad cyson o unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. 

Dros y 12 mis diwethaf, mae Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio’n ddwys gydag 14 o awduron o gefndiroedd incwm isel drwy gynnig ysgoloriaeth o £3,000 i bob awdur, mentora pwrpasol gydag awdur o’u dewis, gweithdai misol yn canolbwyntio ar y diwydiant cyhoeddi, cyfleoedd rhwydweithio a dosbarthiadau meistr ysgrifennu creadigol gyda thiwtoriaid uchel eu parch. Cafodd y garfan eu dewis gan Banel asesu annibynnol, yn dilyn galwad agored yn ystod hydref 2021. 

“Os mai nod rhaglen Cynrychioli Cymru yw chwalu rhwystrau a chynyddu hunan-hyder o fewn y garfan, yna gallaf ond dweud ei fod yn gweithio.” 

-Aelod o garfan 2022-2023 

 

Y Tiwtoriaid a Siaradwyr Gwadd: 

Mynychodd y garfan dros 50 o sesiynau rhithiol yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â dau ddosbarth meistr preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd y tiwtoriaid a’r siaradwyr gwadd yn cynnwys yr awduron arobryn Kit de Waal, Lisa Blower, Pascale Petit, Cathy Rentzenbrink, Iola Ynyr, Dewi Prysor, Mari Elen a Caryl Bryn. Yn ogystal, cyfarfu’r awduron â detholiad o gyhoeddwyr Cymru, y Cyngor Llyfrau, cynrychiolwyr o The Good Literary Agency, arbenigwyr o fewn y diwydiant cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus, ac arbenigwyr brandio a marchnata. 

Y Mentora: 

Dros y 12 mis diwethaf, elwodd yr awduron ar gefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur gan eu Mentoriaid. Roedd y Mentoriaid wrth law er mwyn cynorthwyo i fireinio eu prosiectau creadigol i safon cyhoeddi, ac roeddent yn cynnig arweiniad ar ymgyfarwyddo â’r diwydiant, yn eu cyfeirio at gyfleoedd proffesiynol a chynorthwyo mynediad at rwydweithiau ehangach. 

Ymhlith y Mentoriaid, roedd rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus o ddiwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt megis, Sophie Mackintosh, Kerry Hudson, Patrice Lawrence, Jacob Ross, Cynan Jones, Niall Griffiths ac Eloise Williams.  

“Gadewais y sesiynau Mentora yn teimlo’n fwy llon ac ysgafn o lawer, wedi ailgysylltu â mi fy hun fel bardd ac yn edrych ymlaen at y dyfodol.” 

-Frankie Parris, yn cael ei fentora gan Peter Scalpello 

 

Cwrs Dysgu Cymraeg 

Ochr yn ochr â’r rhaglen graidd o sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar grefft ysgrifennu creadigol a’r diwydiant cyhoeddi, cynigiwyd cyfle i’r awduron hefyd fynychu cwrs dysgu Cymraeg yn ystod y flwyddyn. Mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a ariannodd y cwrs dysgu Cymraeg trwy Gynllun Cymraeg Gwaith, trefnodd Llenyddiaeth Cymru i’r awduron ddilyn cwrs ar-lein yn ogystal â mynychu cwrs dwys preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dywedodd 100% o’r awduron a fynychodd y cwrs y byddant yn parhau i ddysgu’r Gymraeg a’i gynnwys yn eu gwaith creadigol o hyn allan. 

 

Adborth gan yr awduron: 

Yn dilyn llwyddiant rownd gyntaf y rhaglen, mae’r adborth a dderbyniwyd gan garfan 2022-2023 wedi bod yn hynod bositif unwaith eto. Roedd 100% o’r awduron yn cytuno bod y rhaglen wedi cael effaith cadarnhaol ar eu hysgrifennu creadigol gyda 92% o’r awduron yn dewis cytuno’n gryf â’r datganiad hwn. 

“12 mis yn ôl roedd gen i 10,000 o eiriau, a nawr mae gen i 90,000. Nid yn unig hyn ond mae fy nghymeriadau i’n teimlo’n fyw – ynghyd â’r holl nofel.” 

-Aelod o garfan 2022-2023 

Roedd y garfan hefyd yn gytûn am gyfraniad y rhaglen i’w dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a’r DU gyda phob un o’r awduron yn cytuno bod eu dealltwriaeth o’r diwydiant wedi gwella diolch i’r rhaglen. 

Nododd bron i 70% o’r awduron eu bod wedi cael cynnig cyfleoedd proffesiynol a chreadigol o ganlyniad uniongyrchol i’r rhaglen hon. Mae’r cyfleoedd hyn yn amrywio o waith cyhoeddi mewn blodeugerddi a chylchgronau i dderbyn comisiynau. 

“Mae’r rhaglen yma wedi agor cymaint o ddrysau i fi… Rwy’n teimlo bod fy nyfodol yn ddisglair ac yn mynd i rywle. Mae’n ardderchog!” 

Hattie Morrison, yn cael ei mentora gan Sophie Mackintosh 

 

Cafodd y rhaglen effaith gadarnhaol hefyd ar iechyd a lles y garfan gyda’r holl awduron yn datgan bod y rhaglen yn effeithio’n bositif arnyn nhw ac roedd 77% o’r awduron yn cytuno’n gryf bod y rhaglen wedi cynyddu eu hunan hyder. 

“Dwi’n teimlo’n fodlon iawn ar lefel greadigol, fel petawn i ar y llwybr iawn. Mae gen i fwy o egni a dwi’n hapusach o lawer yn gyffredinol.” 

-Aelod o garfan 2022-2023 

 

Cynllun Ôl-Ofal Rhaglen Cynrychioli Cymru: 

Hon oedd yr ail flwyddyn i raglen Cynrychioli Cymru cael ei chynnal. Yn ystod blwyddyn agoriadol y rhaglen, cefnogodd Llenyddiaeth Cymru 12 awdur o liw. Yn dilyn pob rownd, mae Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gydweithio’n agos â’r awduron drwy gynllun ar ôl gofal tair blynedd strwythuredig a all gynnwys dosbarth meistr preswyl yn Nhŷ Newydd, sesiynau mentora pellach, a dod o hyd i gyfleoedd proffesiynol a chreadigol mewnol ac allanol addas iddynt. 

Cyhoeddir y drydedd garfan o awduron ganol mis Ebrill, 2023 a bydd y ffenestr ymgeisio ar gyfer y bedwaredd rownd yn agor yn ystod haf 2023. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar ein tudalen prosiect. 

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. 

 

Fideo i ddathlu’r flwyddyn: 

Gwyliwch y fideo llawn isod i gael gwybod rhagor am brofiadau carfan rhaglen Cynrychioli Cymru, 2022-2023.  

Cynrychioli Cymru