Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Rydym yn elusen gofrestredig, ac rydym yn gweithio i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwyieithog ledled Cymru. Lleolir ein swyddfeydd yn Llanystumdwy ac yng Nghaerdydd.
Rydym yn hwyluso, noddi ac yn cyflawni rhaglen llenyddol ledled Cymru. Mae ein holl weithgareddau wedi eu strwythuro o dan dair colofn gweithgaredd. Bydd rhoi pwyslais ar y meysydd hyn yn sicrhau fod cyswllt clir rhwng ein gwaith a’n cenhadaeth, gan ein galluogi i ddefnyddio’n hadnoddau yn fwy effeithiol:
Cyfranogi – ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.
Datblygu Awduron – datblygu potensial creadigol a phroffesiynol egin awduron.
Diwylliant Llenyddol Cymru – dathlu ein hawduron cyfoes a threftadaeth lenyddol Cymru.
Mae’r tair colofn yn gorgyffwrdd, a rhan helaeth o’n gwaith yn llifo o un i’r llall. Ni chaiff prosiectau eu datblygu heb edrych ar y darlun cyfan. Byddant yn ategu ei gilydd, a bydd i’n holl weithgarwch dros y tair blynedd ddilyniant a datblygiad clir.
Ein Blaenoriaethau
Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi tair Blaenoriaeth Dactegol a fydd yn berthnasol i bob un o’n Colofnau Gweithgaredd. Nid mathau o weithgaredd yw’r rhain, ond yn hytrach themâu a gaiff eu cynnwys ym mhopeth y byddwn yn eu cyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso:
Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb – trwy sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws ein gweithgareddau a’n strwythurau mewnol, byddwn yn darparu llwyfannau ac anogaeth i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a thrwy hynny’n meithrin diwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes.
Iechyd a Llesiant – trwy gefnogi a hyrwyddo’r gwahanol ffyrdd y gall llenyddiaeth gyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a llesiant y genedl, byddwn yn gwella bywydau pobl yng Nghymru.
Plant a Phobl Ifanc – trwy gynyddu’r cyfleoedd i fwynhau ac ymwneud ag ysgrifennu creadigol a darllen er pleser, byddwn yn cyfrannu’n sylweddol at wella bywydau a llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2019-2022 ar gael i’w ddarllen yma.
Mae Adroddiad Canol Tymor Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2019-2022 ar gael i’w ddarllen yma.
I weld Cofrestr Buddion Llenyddiaeth Cymru am y cyfnod 2017–2022, cliciwch yma.
Porwch yn ein gwefan, neu cysylltwch â ni er mwyn darganfod rhagor ynglŷn â Llenyddiaeth Cymru a’n gwaith.