Dewislen
English
Cysylltwch

Gwylio a Gwrando

Plethu/Weave

Prosiect yn ystod y cyfnod clo oedd Plethu/Weave yn wreiddiol, gyda dawnswyr a beirdd yn plethu eu crefftau gwahanol gyda’i gilydd er mwyn creu ffilmiau byrion gwreiddiol - maent wir werth eu gweld.

Bàrd / File / Bardd

Dyma gyfle i fwynhau fideos o gywaith barddoniaeth digidol ble mae beirdd o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon wedi dod ynghyd i rannu ac archwilio cysylltiadau a dynameg ieithoedd Gaeleg yr Alban, Cymraeg a Gwyddeleg.

Lle-CHI

Arweiniodd Bardd Cenedlaethol Cymru wythnos o ddigwyddiadau cymunedol i ddathlu treftadaeth ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru, ac mae modd mwynhau bob un ar ffurf fideo.

Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref

Ymunodd Llenyddiaeth Cymru, Parthian Books, a’r Wales Arts Review â Bee Books yn Kolkata, India yn 2017 ar gyfer prosiect llenyddiaeth newydd ar y cyd rhwng awduron o Gymru ac India, o dan y teitl Y Cwm, Y Ddinas, Y Pentref - mwynhewch y fideos yma.

Cerddi Comisiwn Children's Laureate Wales

Mae’r Children’s Laureate Wales yn ysgrifennu cerddi comisiwn yn ystod eu cyfnod yn y rôl i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys cenedlaethol, ac o bwys i, neu’n effeithio ar, blant a phobl ifanc.

Ymatebion Creadigol

Barddoniaeth, caneuon a ffilmiau gan Alex Wharton, wedi’u comisiynu ar gyfer prosiect gan Cadw yr ydym yn ei gefnogi, sy’n ceisio cywiro’r prinder o gelf gyhoeddus sy’n dathlu pobl Dduon.

PenRhydd

Cyfres o saith podlediad lle mae awduron iaith Gymraeg yn darllen ac yn trafod eu gwaith ar y gweill, dan arweiniad yr awduron Grug Muse a Iestyn Tyne (gyda nodd gan Llenyddiaeth Cymru).