Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 2023-2024

Nod y rhaglen 12 mis yw datblygu ffrwd newydd o awduron a hwyluswyr amrywiol sy’n gweithio yng Nghymru a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy waith ysgrifenedig, llafar a darluniadol.

Bydd y rhaglen yn rhedeg rhwng 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024. Yn ystod y flwyddyn bydd yr awduron yn derbyn dyfarniad ariannol o hyd at £3,300, sesiynau mentora un-i-un gydag awdur o’u dewis, 8 gweithdy ar-lein ar y proffesiwn ysgrifennu a diwydiant cyhoeddi, a dosbarthiadau meistr ysgrifennu creadigol pwrpasol, gyda dau ohonynt yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Bydd cyfleoedd pellach hefyd yn cael eu cynnig trwy rwydweithio a mynediad i wyliau a digwyddiadau llenyddol amrywiol. Dewiswyd yr 14 awdur gan Banel asesu annibynnol, yn dilyn galwad agored yn ystod hydref 2022. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio mewn ymgynghoriad â chymunedau ac awduron o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru ac mae wedi’i seilio ar lwyddiannau a phwyntiau dysgu’r ddwy rownd flaenorol.

Darllenwch fwy am awduron a Phanel Asesu 2023/2024 isod.