Dewislen
English
Cysylltwch

Gwaith Comisiwn i Awduron #2

Mae swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru ar gau am y tro, a rhan helaeth o’n gweithgareddau wedi eu gohirio. Serch hynny, mae ein hymrwymiad i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru mor gadarn ac erioed.

Pwrpas y galwadau agored hyn oedd galluogi awduron llawrydd i barhau i dderbyn gwaith â thâl yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Yn ogystal, bydd y gwaith a gomisiynwyd yn diddanu, ysbrydoli ac yn addysgu cynulleidfaoedd creadigol, egin awduron, plant a chyfranogwyr ledled Cymru.

Fe dderbyniodd y 10 awdur canlynol gomisiwn gwerth £500 yr un i greu deunydd digidol. Gallwch ddarllen rhagor am bob awdur, a’u prosiect, trwy glicio ar y dolenni isod.