Dewislen
English
Cysylltwch

10 awdur wedi eu dewis ar gyfer Cwrs Egin Awduron Rhys Davies

Cyhoeddwyd Llu 7 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
10 awdur wedi eu dewis ar gyfer Cwrs Egin Awduron Rhys Davies

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi enwau’r awduron sydd yn cymryd rhan yng Nghwrs Egin Awduron 2021, a gaiff ei ariannu eleni gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

Yr awduron yw Lisa De Benedictis, Jade E. Bradford, Emily Drew, Lily Dyu, Taylor Edmonds, Malachy Edwards, Chandrika Joshi, Chembo Liandisha, Aneka Rao a Sashawne Smith.

Yn griw amrywiol eu hoedrannau a’u cefndiroedd, maent oll yn awduron rhyddiaith ar gychwyn eu gyrfaoedd ysgrifennu. Wedi eu lleoli dros Gymru gyfan o Sir Fôn, Wrecsam, Y Gelli i lawr i’r Bari a thu hwnt – bydd y criw yn cymryd rhan yn y cwrs eleni yn rhithiol. Caiff y cwrs ei arwain gan y nofelwyr Désirée Reynolds a Jacob Ross, ac mae’r cynnwys wedi ei ysbrydoli gan gyrsiau preswyl tebyg a gaiff eu cynnal yng nghanolfan ysgrifennu Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd. Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, cyfarfodydd un-i-un, darlleniadau, a sgyrsiau gan arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol.

Bydd pob un o’r 10 awdur hefyd yn derbyn sesiynau mentora unigol yn dilyn y cwrs, yn ogystal â sesiynau gydag aelodau staff Llenyddiaeth Cymru i annog datblygiad ac i ddilyn cynnydd eu gwaith creadigol.

Mae’r prosiect hwn yn rhan o strategaeth Llenyddiaeth Cymru i gefnogi a denu sylw i leisiau amrywiol o fewn Diwylliant Llenyddol Cymru, gan weithio i sicrhau fod y sectorau llenyddiaeth a chyhoeddi yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Mae Cynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2029-22 yn amlinellu Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb fel un o’i brif flaenoriaethau. Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu y dylai pawb, beth bynnag eu cefndir, deimlo fel eu bod yn rhan o’r byd llenyddol yng Nghymru, ac fod ganddynt y rhyddid i gyfrannu at, a llywio eu dyfodol.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Rhys Davies am gefnogi’r cwrs fydd yn datblygu lleisiau newydd ym myd llenyddiaeth Cymru.

Gallwch ddarllen gwybodaeth bellach am y 10 awdur ar y dudalen brosiect yma, neu am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn neu unrhyw gyfleoedd datblygu awduron pellach, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.

 

Lisa De Benedictis

Mae Lisa De Benedictis wedi ei hyfforddi fel cyfreithwraig, ac mae nawr yn gweithio fel Ymgynghorydd PR & Cyfathrebu. Mae hi’n falch o fod o gefndir dosbarth gweithiol, ac o fod yn fewnfudwr, ac mae hi wastad wedi bod â diddordeb mewn straeon am gymdeithas ac am anghyfiawnder, ac mewn straeon sy’n cael eu adrodd gan lais y person cyffredin. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, llwyddodd i ailddarganfod ei chariad tuag at ysgrifennu creadigol, ac fe gychwynnodd ysgrifennu unwaith eto. Mae’n cael cysur o’r gair ysgrifenedig er ei bod yn byw â dyslecsia difrifol.

 

Jade E. Bradford

Mae Jade E. Bradford yn byw yn Y Bari, ac yn Reolwr Cyfathrebu ar gyfer cymdeithas dai. Fel rhan o’i swydd mae hi yn gyfarwydd ag ysgrifennu datganiadau i’r wasg a straeon ar gyfer gwefannau, ond mae hi nawr yn awyddus i ddychwelyd at ffurf mwy creadigol ac ehangu ar ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae hi’n ysgrifennu straeon byrion llenyddol, ac mae ei gwaith yn trafod cyfrwystra trallod dynol – gan osgoi elfennau dramatig a thrasig wrth ganolbwyntio yn hytrach ar yr enydau o dristwch dyddiol rydym ni i gyd yn eu profi. Mae hi’n gobeithio ailddarganfod a datblygu ei sgiliau ysgrifennu, ac ennill hyder yn ei gwaith creadigol. Ei nod yw cwblhau casgliad o straeon byrion.

 

Emily Drew

Mae Emily Drew yn byw yn Y Bala, ac yn gwirfoddoli ar gyfer elusen. Mae ganddi radd mewn ysgrifennu sgriptiau ffilm a phrofiad eang o weithio gyda animeiddiadau. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi addasu cyfres o lyfrau plant i sgriptiau, ac yn ddiweddar ysgrifennodd sgript gafodd ei berfformio gan asiantaeth actio. Roedd hi yn arfer bod yn ddarllenwr sgript ar gyfer cwmni cynhyrchu bychan ac mae hi hefyd wedi gweithio fel comedïwraig. Ei gobaith nawr yw troi ei llaw at ysgrifennu llenyddiaeth dirgelwch. Mae hi’n gobeithio dysgu sut i ysgrifennu gyda bwriad pendant a gwell cyfeiriad, a thrwy hynny datblygu a chwblhau ei phrosiectau cyfredol.

 

Lily Dyu

Mae Lily Dyu yn byw ym Mhowys ac yn awdur llawrydd. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant – Earth Heroes (Nosy Crow, 2019) a gafodd ei enwebu ar gyfer rhestr fer Gwobr ALCS Awduron Addysgol 2020 a Fantastic Female Adventurers (Shrine Bell, 2019) a gafodd ei enwebu ar gyfer rhestr fer Gwobr Rubery 2020. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu dau lyfr cerdded – Fastpacking: Multi day running adventures (Cicerone Press, 2018) a Brecon Beacons Trail Running (Vertebrate Publishing, 2018). Byddai’n hoffi ysgrifennu mwy o lyfrau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ar ddechrau eu harddegau, ac mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn ysgrifennu llyfrau ffeithiol-greadigol, cofiannau, a barddoniaeth. Mae natur yn thema ganolog yn ei gwaith i gyd. Yn ystod y cwrs, mae hi’n awyddus i ffurfio rhwydwaith o awduron a mentoriaid sy’n rhannu yr un profiadau ac agweddau â hi i’w helpu ar ei thaith greadigol.

 

Taylor Edmonds

Mae Taylor Edmonds yn awdur ac yn fardd, yn ogystal â bod yn aelod o dîm Where I’m Coming From, sefydliad gyda ffocws cymunedol sy’n cynnig llwyfan i awduron gaiff eu tangynrychioli. Mae ganddi BA ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac ar hyn o bryd hi yw Bardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ei barddoniaeth wedi ei gyhoeddi mewn cylchgronau a chylchgronau megis Poetry Wales, Butcher’s Dog, Broken Sleep Books a Parthian. Yn 2020, roedd hi’n un o’r beirdd a enillodd Gwobr Rising Stars Cymru Llenyddiaeth Cymru. Mae ei gwaith yn trafod themâu megis benywdod, hunaniaeth, cyswllt, a natur. A hithau hyd yma wedi canolbwyntio’n bennaf ar farddoniaeth, mae hi nawr yn awyddus i gychwyn ysgrifennu rhyddiaith.

 

Malachy Edwards

Mae Malachy Edwards yn byw ym Mrynsiencyn, Ynys Môn ac yn swyddog undeb llafur. Mae ei brofiad o ysgrifennu yn cynnwys gweithiau academaidd, dyddiaduron, ac amryw o brosiectau ffuglen creadigol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar brosiect ffuglen bywgraffiadol, sef ei hoff genre. Mae ei waith yn trafod y thema o hunaniaeth – gan grybwyll pynciau megis dosbarthiadau cymdeithasol, hil, cenedligrwydd, iaith, a theulu – yn ogystal â chwestiynu’r berthynas rhwng cymdeithas a’r unigolyn. Mae’n gobeithio datblygu ei grefft a’i ddealltwriaeth o’r broses gyhoeddi.

 

Chandrika Joshi

Mae Chandrika Joshi yn byw yng Nghaerdydd ac yn storïwraig ac yn Offeiriad Hindŵaidd. Mae rhai o’i cherddi eisoes wedi eu cyhoeddi ac mae wedi cychwyn ysgrifennu llyfr o’r enw Dolly God yn seiliedig ar ei phrofiadau yn Uganda. Mae hi’n ystyried ei hun ar gychwyn ei thaith lenyddol, ac mae hi’n edrych ymlaen at ennill hyder yn ei gwaith ffuglen a ffeithiol. Mae ei gwaith yn cynnwys elfennau bywgraffiadol ac wedi ei ddylanwadu gan chwedlau a mytholeg. Mae hi’n gobeithio dysgu mwy am y grefft, yn enwedig y broses o drosi profiadau bywyd mewn i ffuglen, yn ogystal â datblygu ei dealltwriaeth o’r diwydiant cyhoeddi.

 

Chembo Liandisha

Mae Chembo Liandisha o Wrecsam yn gerddor, storïwraig, ac yn artist aml-gyfrwng. Mae ei gwaith ysgrifennu yn aml yn cydblethu â cherddoriaeth, ac mae hi hefyd wedi cyhoeddi peth o’i hysgrifennu taith. Mae hi’n awyddus i ennill hyder yn ei gwaith creadigol, a datblygu ei chrefft, gan ganolbwyntio yn bennaf ar ysgrifennu sgriptiau ffilm a llenyddiaeth i blant. Bydd yn datblygu ac yn cwblhau amryw o brosiectau gyda’r nod o’u cyflwyno i weisg. Bydd datblygu rhwydwaith o storïwyr a mentoriaid o Gymru ac o’r DU yn ehangach, a chael dysgu o’u profiadau hwy yn elfen allweddol o’r cwrs iddi hi.

 

Aneka Rao

Daw Aneko Rao o Ganada ond erbyn hyn mae’n un o drigolion Caerdydd, ac yn gweithio i dîm cyfathrebu mewn sefydliad elusennol. Mae ei hysgrifennu creadigol yn pontio sawl genre gwahanol yn cynnwys barddoniaeth, newyddiaduriaeth a llenyddiaeth i blant, ac mae wedi ei wreiddio yn ei phrofiadau proffesiynol o weithio i weisg Canadaidd ac i gyfryngau newyddion cymunedol. A hithau wedi cymryd seibiant o ysgrifennu ers sawl blwyddyn, mae hi nawr yn gobeithio ailddarganfod y grefft a gweithio ar brosiectau y bydd yn falch ohonynt. Yn ystod y cwrs, mae hi yn gobeithio creu ei rhwydwaith ei hun o fewn cymuned lenyddol Cymru.

 

Sashawne Smith

Mae Sashawne Smith yn byw yng Nghaerdydd ac ar hyn o bryd mae hi’n fyfyrwraig llawn amser. Yn ddiweddar cychwynnodd ysgrifennu yn greadigol, ac mae wedi llwyddo ysgrifennu’n rheolaidd ochr yn ochr gyda’i hastudiaethau. Mae ganddi ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o genres, yn enwedig ffantasi, ffuglen wyddonol, a ffuglen lenyddol. Mae’r themâu o ofn a’r diwylliant prynu yn nodweddiadol o’i gwaith. Mae hi’n gobeithio ennill hyder yn ei hysgrifennu, gan ddysgu sut i gael sgwrs agored am ei gwaith a sut i hunan-olygu mewn modd adeiladol.