Cerdd Tafod Arall: Cyflwyno albwm o gerddi wedi eu hysbrydoli gan y Gynghanedd

Heriodd Hanan ei hunan a chwe bardd, Nick Makoha, Grug Muse, Hammad Rind, clare potter, Ciara Ní É a Gabrielle Bates, i ddysgu am y Gynghanedd ac yna llunio cerddi comisiwn newydd. Yn dilyn cwrs chwim a dwys arlein gan Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, cyfansoddodd y beirdd gerddi wedi’i ysbrydoli gan yr hyn wnaethon nhw ei ddysgu.
Dywedodd Hanan:
“Dydw i ddim yn yfed alcohol, felly Shloer neu ‘Nosecco’ yw’r agosaf a gaf i at flasu siampên. Dyma’r trosiad gorau sydd gen i o’r ffordd y gallaf i brofi’r gynghanedd. Disgrifiodd Gwyneth Lewis y gynghanedd fel ‘extreme sport of poetry’. Yn y Saesneg, y cyfieithiad agosaf o Cynghanedd, o bosib, yw ‘harmony’, ac mae’r ymwybyddiaeth hwn o’r gwahaniaeth rhwng ieithoedd ac ystyr geiriau mewn un iaith a’r llall, yn datgloi lefel ddyfnach o barch at y traddodiad hwn o strwythur rhigymau a seiniau cytseiniaid cymhleth. Mae’r Gymraeg yn iaith o acennau, sy’n un o hanfodion deall y gynghanedd. Dyw acenion yn y Saesneg ddim mor amlwg. Felly, os ydych chi’n siaradwr Saesneg fel fi, mae cyfarwyddo’ch hunan a dod yn gyfforddus yn adnabod acenion geiriau yn un o’r heriau cyntaf wrth hyfforddi am yr ‘extreme sport’ hwn!
Mae Mererid Hopwood yn fardd hael iawn. Mae’n Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, hi yw Archdderwydd cyfredol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac rwy’n ffodus iawn o gael ei galw yn un o fy mentoriaid. Rhai blynyddoedd yn ôl, derbyniais ei llyfr arbennig, Singing in Chains yn anrheg. Mae’r llyfr yn gyflwyniad i’r Gynghanedd yn y Saesneg, a chefais fy nghyfareddu ganddo. O’r hedyn hwn o ysbrydoliaeth, tyfodd y prosiect, Cerdd Tafod Arall. Des i a chwech bardd ynghyd, pob un yn adnabyddus am eu defnydd arbrofol o iaith, ac fe wnaethom ni gyd fynychu cwrs chwim a dwys arlein ar y gynghanedd a’r traddodiad barddol Cymraeg dan arweiniad Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol a bardd medrus iawn yn y gynghanedd. Dros y misoedd nesaf, roedd pob un ohonom i gyfansoddi darn a ysbrydolwyd o’r hyn a ddysgom drwy’r prosiect hwn.
Wrth ddiffinio’r gynghanedd, mae’r New Princeton Encyclopedia of Poetry and Poetics yn dweud: “In the detail and complexity of its patterning, cynghanedd is the most sophisticated system of poetic sound-patterning practiced [sic] in any poetry in the world”.
Felly roedd her fawr o’n blaenau!!
Ar ddydd Mawrth 4 Mawrth, rhyddhawyd podlediad Americanaidd y Poetry Foundation, Poetry Off the Shelf, a’r rhifyn gyfan wedi ei rhoi i brosiect Cerdd Tafod Arall. Dan ofal y cyflwynydd, Helena de Groot, mae’r podlediad yn cynnwys sgyrsiau â beirdd ar bynciau amrywiol gan gynnwys iaith, dyheadau, cariad, hunaniaeth, colled, a’r broses greadigol. Ar gyfer y rhifyn hon, cafwyd sgwrs estynedig gyda Hanan am ei chefndir, ei gwaith, ac am ei hysbrydoliaeth i greu Cerdd Tafod Arall, ynghyd â sgyrsiau a darlleniadau gan Nick Makoha, Hammad Rind, a Ciara Ní É.
Mae’r albwm, sy’n cynnwys darlleniadau gan bob un o’r beirdd o’u gwaith gwreiddiol, yn ogystal â chyflwyniad gan Hanan Issa, ar gael ar dudalen Cerdd Tafod Arall.
Cafodd prosiect Cerdd Tafod Arall ei redeg a’i ariannu gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
* Mae’r gynghanedd yn ddyfais farddonol sy’n unigryw i’r Gymraeg. Mae’n ymwneud a sain geiriau ac yn defnyddio cytseinedd, odlau mewnol a chyflythreniad i gyfansoddi cerddi sydd, ar eu gorau, yn gerddorol ac ystyriol ill dau. Er fod egin y gynghanedd yng nghanu’r cynfeirdd ac enghreifftiau’n dyddio nôl i’r 6ed ganrif, mae hi’n draddodiad byw ym marddoniaeth Gymreig hyd heddiw; yn iaith o fewn yr iaith Gymraeg sy’n swyno ac yn peri rhwystredigaeth i’r rheiny sy’n ei harfer.
Diddordeb darganfod mwy? Mae ein rhaglen, Pencerdd, yn cynnig cyfle i gyw-gynganeddwyr ddatblygu eu crefft dros gyfnod o flwyddyn. Rhagor o wybodaeth ar dudalen gwefan Pencerdd.