Dewislen
English
Cysylltwch

A Last Respect: The Roland Mathias Prize Anthology of Contemporary Poetry

Cyhoeddwyd Gwe 25 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
A Last Respect: The Roland Mathias Prize Anthology of Contemporary Poetry

A Last Respect: The Roland Mathias Prize Anthology of Contemporary Poetry

Mae A Last Respect yn flodeugerdd arbennig: detholiad o gerddi gan 11 enillydd Gwobr Roland Mathias, ynghyd a dwy ysgrif ddiddorol ar Mathias a barddoniaeth Gymreig.

Dathliad o wobr Roland Mathias yw A Last Respect; gwobr a ddyfarnwyd i lyfrau barddoniaeth Saesneg eu hiaith gan awduron o Gymru. Mae’r gyfrol yn cyflwyno detholiad o waith gan un ar ddeg o feirdd rhagorol: Dannie Abse, Tiffany Atkinson, Ruth Bidgood, Ailbhe Darcy, Rhian Edwards, Christine Evans, John Freeman, Philip Gross, Gwyneth Lewis, Robert Minhinnick, ac Owen Sheers. Dyma gasgliad o farddoniaeth gyfoes sy’n awgrymu bod y traddodiad barddonol yn parhau’n fywiog yn y Saesneg yn ogystal a’r Gymraeg.

Mae’r deugain a phedwar o gerddi yn cwmpasu rhychwnat eang o ran arddull a phwnc – perthnasoedd, natur, materion amgylcheddol, marwolaeth, amser, rhyfel, Cymru, barddoniaeth ei hun, hyd yn oed noswaith rieni yn Mhenybont. Mae yma gerddi dyfeisgar, arbrofol, a rhai mwy myfyriol a thraddodiadol.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys dau draethawd trawiadol. Mae Jane Aaron yn ysgrifennu am fywyd a gwaith Roland Mathias gan drafod ei waith fel bardd, a’i gyfraniad i ddiwylliant Cymru fel beirniad a golygydd. Trafodaeth dreiddgar ar farddoniaeth yng Nghymru dros y trigain mlynedd diwethaf a geir gan Daniel G. Williams. Ysgrif wedi ei hysbrydoli gan waith Mathias ac sydd yn gofyn beth yw’r dyfodol i Gymru a’i diwylliant.

Mae’r cyfuniad hwn o gerddi arobryn a beirniadaeth lenyddol yn gwneud A Last Respect yn deyrnged addas i Roland Mathais ac yn gyfrol allweddol i’ch silff lyfrau.

Sefydlodd Glyn Mathias Wobr Roland Mathias er anrhydedd i’w dad. Bu’n newyddiadurwr print a darlledu gydag ITN a BBC Wales cyn dod yn Gomisiynydd y Comisiwn Etholiadol ar gyfer Cymru (2001-09). Dyfarnwyd OBE iddo yn 2018 ac ar hyn o bryd mae’n Llywydd Cymdeithas Brecknock a Chyfeillion yr Amgueddfa. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Raising an Echo, yn 2014.

Yr Athro Daniel G. Williams yw Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Ef yw awdur Wales Unchained: Literature, Politics and Identity in the American Century (2015), Black Skin, Blue Books: African American and Wales 1845-1945 (2012), ac Ethnicity and Cultural Authority: from Arnold to Du Bois (2006). Roedd yn un o feirniaid Gwobr Roland Mathias o 2009-11.

Wales Book of the Year