Llyfr y Flwyddyn 2024 – Agor i Geisiadau
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 20 Tachwedd 2023
* Os nad oes modd cyflwyno llyfr erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â ni i drafod cyn 20 Tachwedd 2023
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Mae Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Mae’r Wobr yn rhan annatod o’n gweithgaredd, ac yn cyfrannu tuag at ein strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.
Caiff y llyfrau eu gwobrwyo ar draws pedair categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gyda’r rhestr fer ac yna’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn nhymor yr haf yn 2024. Yn 2023, cynhaliwyd seremoni wobrwyo byw ym mis Gorffennaf, a’r bwriad yw parhau gyda’r drefn hon flwyddyn nesaf.
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer 2024. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r Meini Prawf Cymhwysedd isod a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2023. Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi hyd at 31 Rhagfyr 2023 yn gymwys ar gyfer Gwobr 2024. Os nad oes modd cyflwyno’r llyfr erbyn y dyddiad cau, sicrhewch eich bod yn cysylltu gyda ni.
Er mwyn lleihau effaith amgylcheddol y wobr, rydym yn gofyn i gyhoeddwyr am un copi caled yn y lle cyntaf ynghyd â chopïau PDF neu eLyfr o bob cyfrol a gyflwynir. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am hyd at 4 copi caled ychwanegol o’r llyfr i gynorthwyo’r broses feirniadu neu i farchnata’r wobr.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y Pecyn Ymgeisio, gan gynnwys disgrifiadau categori, cymhwyster awdur a thelerau ac amodau – awgrymwn eich bod yn cael golwg manwl ar rhain cyn cyflwyno llyfr. Os ydych yn ansicr a yw llyfr yn gymwys ai peidio, cysylltwch â thîm y gwobrau ar LLYF-WBOTY@llenyddiaethcymru.org
Yn 2023, cipiodd Llŷr Titus deitl Llyfr y Flwyddyn 2023 gyda’i nofel Pridd (Gwasg y Bwthyn), a Caryl Lewis oedd y prif enillydd Saesneg, yn derbyn y teitl am ei nofel Drift (Doubleday, argaffnod o Transworld, Penguin Random House).
Cewch ragor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.
Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â chyflwyno cyfrolau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024, gan gynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais ar gael yma.