Dewislen
English
Cysylltwch

Alex Wharton yw Children’s Laureate Wales 2023-2025

Cyhoeddwyd Gwe 2 Meh 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Alex Wharton yw Children’s Laureate Wales 2023-2025
Alex Wharton
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r bardd a’r perfformiwr Alex Wharton sydd wedi ei benodi fel y Children’s Laureate Wales nesaf ar gyfer 2023-25.

Cyhoeddwyd y newyddion ar ddydd Gwener 2 Mehefin, yn ystod digwyddiad arbennig ar lwyfan The Hive yng Ngŵyl y Gelli, yng nghwmni’r Children’s Laureate Wales presennol, Connor Allen. Cyhoeddwyd mai’r bardd a dramodydd Nia Morais fydd y Bardd Plant Cymru nesaf ar gyfer 2023-25 ddoe yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri. Bydd y ddau fardd yn dechrau yn eu rolau o fis Medi am gyfnod o ddwy flynedd.

Yn dilyn galwad agored ym mis Ionawr, roedd Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o dderbyn nifer rhyfeddol o geisiadau o safon uchel ar gyfer y rôl eleni, gan arwain at broses hynod gystadleuol a oedd yn cynnwys gweithdai prawf a chyfweliadau.

Y Bardd

Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth ar gyfer plant ac oedolion.  Cyrhaeddodd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf ar gyfer plant Daydreams and Jellybeans Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, yn ogystal â Gwobrau Llyfrau Athrawon Gogledd Gwlad yr Haf, Gwobrau Llyfrau Laught Out Loud, a cafodd ei enwi fel un o argymhellion Diwrnod Barddoniaeth. Enillodd Wobr Rising Stars Cymru a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Gwasg Firefly Press yn 2020. Mae wedi cydweithio â nifer o sefydliadau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, British Council of Literature a Llyfrgelloedd Cymru ac wedi ymddangos mewn sawl gŵyl fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Bydd ail a thrydydd casgliad Alex o farddoniaeth Poems for Brilliant Brains a Red Sky at Night: A Poet’s Delight yn cael eu cyhoeddi gyda Firefly Press yn 2023 a 2024.

Dywedodd Alex Wharton:

“Rydw i yma i rannu grym dwfn a rhyfeddol barddoniaeth gyda phlant a phobl ifanc Cymru. Mae’n iaith arbennig, y grefft o eiriau. Mae yno i ni ei ddefnyddio, i gyfoethogi ein bywydau a’r ffordd rydyn ni’n archwilio ein hemosiynau, ein profiadau, ein cysylltiadau daearol ac ysbrydol a’n dychymyg. Mae’r rôl yn draddodiad hynod arbennig ac mae ei dderbyn yn hynod anrhydeddus.

“I arddel y teitl hwn, ceisiaf herio a dyrchafu fy ngwaith ysgrifennu fy hun dros y ddwy flynedd, a dathlu’r detholiad cyfoethog o awduron yma yng Nghymru sy’n crafu straeon, caneuon, barddoniaeth a dramâu – i’n cofleidio mewn rhyw ffordd, gan ganiatáu inni deithio a theimlo ein bod yn cael ein gweld.”

Y Prosiect

Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl llysgenhadol genedlaethol sy’n anelu at ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ledled Cymru trwy lenyddiaeth. Wedi’i sefydlu yn 2019, fe’i dyfernir bob dwy flynedd i awdur dawnus a gweledigaethol o Gymru sy’n frwd dros sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod y llawenydd a’r buddion lles o ymgysylltu â llenyddiaeth.

Mae pob Children’s Laureate Wales yn ymrwymo i:

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn enwedig plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a heb gynrychiolaeth ddigonol;
  • Gwella iechyd a lles corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc trwy lenyddiaeth;
  • Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth; a
  • Grymuso plant a phobl ifanc trwy greadigrwydd.

Roedd y panel cyfweld yn cynnwys y cyn-Children’s Laureate Wales, Eloise Williams a’r awdur, athro ac ymchwilydd, Darren Chetty, ochr yn ochr â dau aelod o staff Llenyddiaeth Cymru. Fel rhan o’r broses, cynhaliodd y beirdd ar y rhestr fer hefyd weithdy prawf gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gymunedol Tonyrefail, a bu’r plant eu hunain yn rhannu eu barn eu hunain am y gweithdy a’r bardd.

Yn ôl Eloise Williams:

‘Roedd yn fraint enfawr bod y cyntaf i ymgymryd â rôl Children’s Laureate Wales a rwyf wrth fy modd bod Alex Wharton nawr camu mewn i’r rôl yn dilyn gwaith arbennig Connor Allen. Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu cael eu cydnabod a’u dathlu, a rwy’n ffyddiog y bydd Alex yn codi eu lleisiau a’u galluogi I fod yn rhan annatod o lenyddiaeth Cymru.’

Ei Weledigaeth

Dros y misoedd nesaf, bydd Alex yn gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar raglen o weithgareddau ar gyfer blwyddyn gyntaf ei gyfnod.

Mae ei nodau allweddol yn cynnwys:

  • Gwahodd plant a phobl ifanc i archwilio hud a hwyl yr iaith farddonol, gan ddysgu sut y gall y mynegiant artistig a chreadigol hwn wella’r ffordd yr ydym yn byw, yn teimlo, yn dychmygu, yn creu, ac yn cyfathrebu, gan wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu deall a’u hysbrydoli gan lawenydd a rhyddid ysgrifennu;
  • Arddangos sut y gall Llenyddiaeth wella bywydau, hyd yn oed achub bywydau;
  • Dylunio a chydweithio ar brosiectau cymunedol sy’n dathlu pobl, amrywiaeth, lle, hanes, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol;
  • Siarad ar ran natur a tynnu sylw at rhyfeddodau ein byd naturiol, ein cysylltiad arbennig ag ef a’n dyletswydd i’w warchod a’i wella;
  • Cyfuno barddoniaeth ag amrywiaeth o ddisgyblaethau artistig: dawns, ffilm, perfformio, celf weledol ac arddangosfeydd cyhoeddus.

I ddysgu mwy am y prosiectau Children’s Laureate Wales a Bardd Plant Cymru, ac i drafod cydweithio, ewch i wefan Llenyddiaeth Cymru.

Plant a Phobl Ifanc