Dewislen
English
Cysylltwch

Nia Morais wedi’i henwi’n Fardd Plant Cymru 2023-25

Cyhoeddwyd Iau 1 Meh 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Nia Morais wedi’i henwi’n Fardd Plant Cymru 2023-25
Nia Morais
Mae’n fraint gan Llenyddiaeth Cymru a’i bartneriaid gyhoeddi mai’r awdur a’r dramodydd Nia Morais fydd yn camu i esgidiau Bardd Plant Cymru o fis Medi eleni. Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol sydd â’r bwriad o danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth.

Datgelwyd enw’r bardd newydd ar lwyfan Yr Arddorfa ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ar ddydd Iau 1 Mehefin. Llywiwyd y seremoni gan Dafydd Lennon, un o gyflwynwyr Cyw ar S4C. Cafodd Nia gyfle i ddweud ychydig eiriau am ei gobeithion wrth ymgymryd â’r rôl, a cafwyd cyfraniad gan ein Bardd Plant Cymru presennol, Casi Wyn.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn benllanw proses recriwtio a ddechreuodd nôl ym mis Ionawr gyda galwad agored am y Bardd Plant nesaf. Wedi cyfnod o weithio drwy’r ceisiadau a chynnal cyfweliadau a gweithdai blasu, braf yw rhannu’r newyddion cyffrous.

Mi fydd enw’r Children’s Laureate Wales nesaf, chwaer-brosiect Saesneg Bardd Plant Cymru, yn cael ei gyhoeddi yfory (dydd Gwener 2 Mehefin) yng Ngŵyl y Gelli.

Y Bardd

Awdur a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais. Mae ei gwaith yn aml yn canolbwyntio ar hunan ddelwedd, iechyd meddwl, a hud a lledrith. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda Gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn 2020, rhyddhaodd ei drama sain gyntaf, Crafangau, fel rhan o brosiect Theatr y Sherman, Calon Caerdydd.  Ar hyn o bryd, mae Nia’n Awdur Preswyl gyda Theatr y Sherman ac mae ei drama lawn cyntaf, Imrie, cyd-gynhyrchiad gan Frân Wen a Theatr y Sherman, yn teithio Cymru dros haf 2023. Roedd Nia yn aelod o banel beirniadu Gwobrau Tir na n-Og yn 2021, a hefyd yn ran o raglen ddatblygu awduron Cynrychioli Cymru yr un flwyddyn gyda Llenyddiaeth Cymru. Mae’n sgwennu ar gyfer plant ac oedolion.

 

Yn ôl Nia Morais:

Rydw i mor falch i fod yn Fardd Plant Cymru a dw i methu aros i ddechrau. Rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i fyd barddoniaeth ar ôl tipyn o amser i ffwrdd, ac yn ddiolchgar iawn i allu rhannu fy amser gyda phobl ifanc Cymru.

“Ro’n i’n awyddusi gael y rôl oherwydd rydw i’n caru gweithio gyda phobl ifanc — mae’n foddhaol iawn a dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan weld be sy’n diddori nhw. Rwy’n caru sgwennu barddoniaeth ac yn gobeithio gallu creu gwaith gwych gyda phobl ifanc Cymru!”

 

Y Prosiect

Caiff prosiect Bardd Plant Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru. Sefydlwyd cynllun Bardd Plant Cymru yn 2000, ac ers hynny mae 17 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Bardd Plant Cymru wedi ymrwymo i:

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth Gymraeg, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli;
  • Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth;
  • Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth; a
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd.

Aelodau’r panel i ddethol Bardd Plant Cymru 2023-2025 oedd Ciarán Eynon, Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2022, Dafydd Lennon, bardd a cyflwynydd Cyw ar S4C, Bethan Mai Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru a dau gydlynydd creadigol o dîm Llenyddiaeth Cymru. Cynhaliwyd gweithdy fel rhan o’r broses gyda disgyblion Ysgol Ciliau Parc, Llanbedr Pont Steffan, gan sicrhau fod rhanddeiliaid mwyaf allweddol y prosiect, y plant eu hunain, yn cael rhannu eu barn hefyd.

 

Yn ôl Bethan Mai Jones:

“Roedd hi’n bleser pur gweld Nia’n annog ac ysbrydoli’r plant mor llwyddiannus tra’n arwain y gweithdy. O’r cychwyn cyntaf, cafwyd syniadau ffres a bachog, creodd gryn dipyn o argraff, gan sbarduno’r plant a’u hannog i fentro a chwarae gyda’r iaith Gymraeg.  Mae ganddi weledigaeth gref ac mae eu hangerdd at hunaniaeth ac annog eraill i barchu eu hunan-ddelwedd yn heintus. O ganlyniad, gwelwyd ymateb brwd wrth i’r plant arbrofi a chyfansoddi pytiau bach ysgrifenedig, gan awchu i’w rhannu gyda gweddill y dosbarth. Rydym yn dymuno’r gorau iddi ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol agos. “

 

Dywedodd Ciarán Eynon:

“Llongyfarchiadau mawr i Nia ar gael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru 2023-2025. Dyma benodiad cyffrous ac fe’m hargyhoeddwyd yn ystod y broses benodi gan ei gweledigaeth i roi pwys aruthrol ar hunanddelwedd, hunanhyder a mynegiant plant a phobl ifanc (fel y mae’i gwaith creadigol hefyd yn tystio) yn dilyn cyfnod mor anwadal ac ansicr. Ond yn fwy na hynny, does dim dwywaith fod gan Nia’r gallu cynhenid hwnnw i ddal sylw dosbarth o bobl ifanc yng nghledr ei llaw. Fel rhan o weithdy’r broses gyfweld, gwnaeth Nia ysgrifennu a geiriau’n brofiad heintus i bobl ifanc a dim ond dymuno pob hwyl iddi wrth iddi lunio trywydd ei chyfnod yn stiwardio’r rôl bwysig hon.“

Yn ôl Dafydd Lennon:

“I’r rôl fel Bardd Plant Cymru 2023-25, mae Nia Morais yn dod a llond trol o brofiad sgwenni farddoniaeth, straeon a dramâu i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru. Gyda chynllun cadarn, daeth Nia at ran gweithdy y cais gyda llawer o hyder. Erbyn diwedd y sesiwn llawn lawen i’r plant, roedd yn amlwg nid yn unig bod Nia wedi rhoi digon o hyder iddynt i chwarae gyda geiriau newydd, ond hefyd i fynegi eu syniadau’n rhydd am yr hyn yr oedd geiriau’n ei olygu iddyn nhw. Roedd y gweithdy wedi gwir atgyfnerthu amcanion Nia yn y rôl i fagu annibyniaeth a hunaniaethau unigryw plant bach.

Mae Nia yn teimlo’n gryf am drafod am bynciau y sonnir llai amdanynt, ond sydd ar feddyliau llawer o blant yng Nghymru. Trwy ei gwaith yn y rôl, dwi’n bendant y bydd Nia yn dod allan â leisiau personol a chreadigol plant, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn at bopeth fydd Nia yn creu gydag ac i blant Cymru.”

Ei Gweledigaeth

Prif amcan Nia yw sicrhau fod rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc drafod ac ysgrifennu am bynciau sydd yn hollbwysig iddyn nhw fel cenhedlaeth, a sy’n brin mewn llenyddiaeth Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’n awyddus i wrando a chanfod pa themâu sydd yn tanio’r plant a pobl ifanc Cymru ar hyn o bryd. Yn benodol, mae hi’n angerddol dros:

  • Brofi bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, gan ddefnyddio ymarferion mewn gweithdai sydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion fod yn greadigol gyda iaith ac arbrofi â geiriau;
  • Sicrhau bod materion LHDTC+ yn cael eu trafod yn agored mewn gweithdai ysgrifennu creadigol er mwyn dangos sut all straeon a sgwennu gynorthwyo plant a phobl ifanc i ddeall ac ymdopi gyda eu profiadau a lleihau teimladau o ddieithrwch ac unigrwydd;
  • Herio dylanwad negyddol y caiff cyfryngau cymdeithasol ar y delfryd o ddelwedd corff gan gynnal gweithdai a llunio gwaith creadigol yn seiliedig ar themâu hunaniaeth a hunan-hyder;
  • Annog plant i fagu eu hannibyniaeth a’u hunaniaeth unigryw, gan sicrhau bod bob plentyn yn datblygu eu llais personol a phwerus ei hun;
  • Gweithio law yn llaw â’r genhedlaeth nesaf i weithredu newid a datblygu byd fwy hygyrch, teg, a gwyrdd; a
  • Cynrychioli plant a phobl ifanc Cymru ar lwyfan cenedlaethol, gan eirioli dros eu lleisiau.

Os am holi mwy am y prosiectau Bardd Plant Cymru neu’r Children’s Laureate Wales, neu am gyfleoedd i gyd-weithio, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar barddplant@llenyddiaethcymru.org.