Dewislen
English
Cysylltwch

Awduron Cymru yn Ysbrydoli Cymunedau: Llenyddiaeth Cymru yn lansio cyfeiriadur ar-lein a chynllun nawdd newydd

Cyhoeddwyd Gwe 5 Tach 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Awduron Cymru yn Ysbrydoli Cymunedau: Llenyddiaeth Cymru yn lansio cyfeiriadur ar-lein a chynllun nawdd newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi lansio Rhestr Awduron Cymru, sef cyfeiriadur ar-lein o awduron Cymru, a hynny i gyd-fynd gydag agor cynllun nawdd ar gyfer digwyddiadau.

Nod Llenyddiaeth Cymru yw ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron, a dathlu diwylliant llenyddol Cymru. Mae Rhestr Awduron Cymru yn cyflawni’r holl amcanion hyn trwy gynnig gwasanaeth newydd i awduron yn ogystal â chynulleidfaoedd a darllenwyr creadigol o Gymru a thu hwnt. Yn yr un modd, bydd Cronfa Ysbrydoli Cymunedau yn cyfrannu tuag at ein gweledigaeth o greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth, a hynny rwy gynnig nawdd tuag at ffioedd awduron er mwyn cynnal sesiynau llenyddol i danio dychymyg cynulleidfaoedd ar draws Cymru.

Meddai Dr Cathryn Charnell-White, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru: “Mae llenyddiaeth yn ein cysylltu ni â’n gilydd ar adeg o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang. Mae’r straeon y byddwn ni’n eu darllen, yn eu clywed, ac yn eu dweud wrth ein gilydd yn ein helpu i ddehongli cymhlethdodau ein bywydau ac i wneud pen a chynffon o’n byd. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen grym llenyddiaeth arnon ni yn ein bywydau a’r cyfle i gwrdd â’n gilydd i gyd-fwynhau talentau ein hawduron.”

 

Rhestr Awduron Cymru

Mae Rhestr Awduron Cymru yn gatalog ar-lein o ystod eang o awduron Cymru. Bydd yn rhan ganolog o rwydweithiau digidol Llenyddiaeth Cymru, gyda’r nod o arddangos talent llenyddol o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’r Rhestr yn esblygiad o gyfeiriadur blaenorol, ac yn wasanaeth rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ac awduron.

Mae modd i unrhyw awdur lwytho eu proffil ar y Rhestr, boed yn egin awduron neu’n awduron profiadol, yn ogystal â hwyluswyr ac ymarferwyr creadigol. Cliciwch yma i ychwanegu eich proffil.

Yn drefnwyr digwyddiadau, cyhoeddwyr, darllenwyr a chynulleidfaoedd creadigol, ewch draw i Rhestr Awduron Cymru i brofi rhychwant talentau llenyddol Cymru.

 

Nawdd ar gyfer Digwyddiadau

Mae Cronfa Ysbrydoli Cymunedau (sy’n ddatblygiad o gronfa Awduron ar Daith) yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol megis sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal unrhyw le yng Nghymru, mewn neuaddau pentref, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion, clybiau ieuenctid – neu hyd yn oed ar lwyfannau digidol ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd ar-lein. Caiff y cynllun ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Llenyddiaeth Cymru am i ragor o bobl yng Nghymru brofi gwefr llenyddiaeth. Rydym ni yn credu fod gan lenyddiaeth, yn ei holl amrywiaeth, y grym i gysylltu cymunedau â’i gilydd a rhoi cysur, ysbrydoliaeth a gobaith i’r rheiny sydd ei angen fwyaf.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Braf iawn yw cael rhannu Rhestr Awduron Cymru gyda’n cynulleidfaoedd, ac agor cynllun nawdd sy’n hanfodol bwysig i nifer o gymdeithasau a threfnwyr digwyddiadau ar lawr gwlad. Mae ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru tuag at ddatblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru yn gryfach nac erioed, ac mae’r ddwy fenter yma’n darparu cyfle euraidd i roi llwyfan i awduron o bob rhan o Gymru, a chyd-fwynhau a chyd-ymfalchïo yn eu gwaith.”

Gallwch bori drwy Rhestr Awduron Cymru yma, ac mae modd creu’ch proffil eich hun, yma. Mae gwybodaeth bellach am gynllun nawdd Cronfa Ysbrydoli Cymunedau ar gael yma.