Camu gan Iola Ynyr yw Llyfr y Flwyddyn 2025

Cyhoeddwyd y newyddion yn ein seremoni wobrwyo arbennig yn Theatr y Sherman, Caerdydd, a gafodd ei ffrydio’n fyw i’r cyhoedd gan Buffoon Media ar safle ambobdim.cymru. Gallwch wylio’r seremoni gyfan yma.
Mae Iola’n derbyn gwobr o £4,000 am ei hunangofiant “greadigol, grefftus” ynghyd â thlws eiconig wedi’i greu gan Angharad Pearce Jones. Mae’r Brif Wobr Gymraeg wedi ei noddi gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Enillydd y Brif Wobr Saesneg, a noddwyd gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yw Carys Davies gyda’i nofel Clear (Granta).
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am Llyfr y Flwyddyn
Yn nhudalen agoriadol Camu, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, dywed Iola Ynyr fod y llyfr yn “ymgais i berchnogi fy mywyd a’m hatgofion drwy greadigrwydd” yn dilyn colli cyfnodau i alcoholiaeth, trawma a salwch meddwl. Ysgrifau hunangofiannol sydd yma, sy’n ymgais i ollwng gafael ar ofn ac ymddiried ei bod hi’n ddiogel. Aiff ymlaen i wahodd y darllenydd i ddod gyda hi ar y daith: “tyrd efo fi i gymryd y cam cyntaf i fyd fy nghofio creadigol. Pwy a ŵyr, efallai y cei dithau ysfa i chwarae’n greadigol efo dy atgofion dy hun.”
Dywedodd Gwenllian Elis ar ran y panel beirniadu: “Dyma lyfr sydd wedi llwyddo i’n cynnal o’r llinell gyntaf i’r dudalen olaf. Mae hi’n gyfrol greadigol, grefftus sy’n dilyn taith yr awdur drwy ei bywyd. Mae ganddi hi feistrolaeth dros yr iaith ac mae’r dweud yn ysgytwol. Mae Iola yn dinoethi ei hun yn llwyr wrth drafod ei dibyniaeth alcohol, ond mae o’n daith at wellhad ac yn neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain. Er fod ‘na dywyllwch, er fod ‘na dristwch ma ‘na dynerwch a chariad yn bodoli rhwng y cloria’.”
Mae Iola Ynyr yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol. Mae’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y Dibyn, prosiect gan Theatr Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth, Gwledda i Llenyddiaeth Cymru yn hyrwyddo llesiant wrth wynebu heriau newid hinsawdd, ynghyd â MWY, prosiect creadigol i ferched a’r rhai sydd yn uniaethu yn fenywaidd. Llwyfannwyd ‘Ffenast Siop’ gan Theatr Bara Caws yn ddiweddar, drama y cyd-ysgrifennodd Iola gyda Carys Gwilym.
Mae Clear gan Carys Davies yn nofel fer wedi ei gosod ar ynys anghysbell yn yr Alban yn 1843. Mae stori Ivar, John Ferguson a Mary yn datblygu gyda thensiwn a thynerwch. Dyma astudiaeth grisialaidd o bobl gyffredin wedi’u bwrw gan hanes, ac archwiliad pwerus o’r pellteroedd a’r cysylltiadau rhyngom.
Clear yw trydydd nofel Carys Davies. Enillodd West (Granta, 2018) wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn, a cyrhaeddodd restr fer Gwobr Folio Rathbones, a dod yn agos i’r brig yng Ngwobr McKitterick y Society of Authors. Mae ei straeon byrion wedi ennill sawl gwobr, a’i chasgliad The Redemption of Galen Pike wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ac wedi ennill Gwobr Stori Fer Ryngwladol Frank O’Connor.
Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu awduron talentog Cymru. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Plant a Phobl Ifanc. Mae pob enillydd categori yn derbyn gwobr ariannol o £1,000. Mae un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn ac yn derbyn £3,000 yn ychwanegol.
Dyma enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2025:
Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2025 – Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
a Gwobr Ffeithiol Greadigol
Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Gwobr Farddoniaeth
Rhuo ei distawrwydd hi, Meleri Davies (Cyhoeddiadau’r Stamp)
Gwobr Ffuglen – Noddir gan HSJ Accountants
V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Cronfa Elw Park-Jones
Arwana Swtan a’r Sgodyn Od, Angie Roberts a Dyfan Roberts (Gwasg y Bwthyn)
Gwobr Barn y Bobl Golwg360
V + Fo, Gwenno Gwilym (Gwasg y Bwthyn)
Enillwyr y Wobr Saesneg:
Gwobr Ffuglen – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies;
a Phrif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2025 – Noddir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd,
Clear, Carys Davies (Granta)
Gwobr Farddoniaeth
Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Gwobr Ffeithiol Greadigol – Noddir gan Hadio
Nightshade Mother: A Disentangling, Gwyneth Lewis (Calon Books)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
A History of My Weird, Chloe Heuch (Firefly Press)
Gwobr People’s Choice nation.cymru
Girls etc, Rhian Elizabeth (Broken Sleep Books)
Eisiau darganfod mwy? Porwch y dolenni isod.
Pwy yw beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2025?
Pa lyfrau sydd wedi ennill Llyfr y Flwyddyn yn y gorffennol?