Dewislen
English
Cysylltwch

Casi Wyn yw Bardd Plant Cymru 2021-2023

Cyhoeddwyd Iau 7 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Casi Wyn yw Bardd Plant Cymru 2021-2023
Mae dwy flynedd o gerddi, cerddoriaeth a chreadigrwydd ar droed i blant dros Gymru gyfan wrth i’r gantores, cyfansoddwraig ac awdur o ardal Bangor, Casi Wyn, gael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru ar gyfer 2021-2023.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar 7 Hydref 2021, sef Diwrnod Barddoniaeth – dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol. Cyhoeddwyd hefyd mai’r awdur ac actor, Connor Allen sydd wedi ei benodi yn Children’s Laureate Wales 2021-2023. Mae’r ddau brosiect yn rhedeg ochr yn ochr, gyda’r beirdd yn cyfrannu at feithrin cenhedlaeth o ysgrifenwyr a darllenwyr mwy creadigol, amrywiol a iach. Byddant yn gweithio’n bennaf â phlant rhwng 5-13 oed.

Penodwyd Casi Wyn i’r rôl yn dilyn galwad agored lwyddiannus ym mis Mai 2021. Rheolir prosiect Bardd Plant Cymru gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

 

Y Bardd

Mae Casi Wyn yn wyneb cyfarwydd yng Nghymru a thu hwnt fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae ei chaneuon Aderyn, Dyffryn, ac Eryri yn cael eu chwarae’n gyson ar orsafoedd radio ledled Prydain. Mae Casi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol. Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Dangoswyd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.

Meddai Casi Wyn: “Does dim grym tebyg i lenyddiaeth a cherddoriaeth, dyma sy’n ein uno ni fel dynoliaeth. Mae rôl Bardd Plant Cymru yn un mor eang a dwi’n edrych ‘mlaen i gyfarfod amrywiaeth o blant a phobl ifanc hyd a lled y wlad.”


Y Prosiect a’r Partneriaid

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl lysgenhadol genedlaethol gaiff ei dyfarnu i fardd Cymraeg bob dwy flynedd i danio dychymyg ac ysbrydoli plant Cymru drwy farddoniaeth. Maent yn datblygu i fod yn bencampwyr sy’n eirioli dros hawliau plant a phobl ifanc, ac yn eu cefnogi i ymateb yn greadigol i faterion cymdeithasol sy’n bwysig iddynt, megis yr argyfwng hinsawdd a iechyd meddwl.

Sefydlwyd y prosiect yn y flwyddyn 2000, ac ers hynny mae 16 bardd wedi ymgymryd â’r rôl. Drwy weithdai a gweithgareddau amrywiol, mae’r Bardd Plant yn defnyddio llenyddiaeth er mwyn annog creadigrwydd a meithrin hunanhyder a sgiliau cyfathrebu ymysg plant Cymru.

Bydd Casi’n parhau gyda gwaith arbennig y Prifardd Gruffudd Owen, a lwyddodd i roi gwên ar wynebau plant ar draws Cymru, yr holl ffordd o’r Fenni, i Lanfyllin, a hyd at Langefni. Er gwaethaf heriau’r pandemig, dros ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru, gwelwyd Gruff yn ymgymryd â phrosiectau lu, gan gynnwys wythnos o ddathlu pen-blwydd y Bardd Plant Cymru yn 20; Sgwad Sgwennu Tŷ Newydd; Her Talwrn yr Ifanc; Prosiect Murluniau #AwrDdaear gyda WWF Cymru; Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020; Prosiect Dy Lais gyda Senedd Cymru; a chyfres o Sialensiau Wythnosol.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Pan mae plentyn yn cyfarfod awdur, boed hynny yn y dosbarth, mewn gŵyl, neu dros Zoom, maent yn cael eu cyflwyno i fyd o greadigrwydd, ac mae buddion y profiadau hyn yn niferus a phellgyrhaeddol. Fel dau fardd sy’n berfformwyr naturiol yn ogystal â seiri geiriau, rwy’n sicr y bydd Casi Wyn a Connor Allen yn ysbrydoli’n plant a’n pobl ifanc archwilio eu lleisiau creadigol eu hunain. Mae gan ein cenedlaethau iau bethau pwysig i’w dweud, ac rwy’n edrych ymlaen at eu clywed.”

 

Dywedodd Jeremy Miles AS Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Llongyfarchiadau mawr i Casi ar ei apwyntiad yn Fardd Plant Cymru am y ddwy flynedd nesaf. Gyda’n gilydd gallwn weithio tuag at ein nôd o Filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 gan gynyddu defnydd iaith anffurfiol ein plant a pobl ifanc.”

 

Yr hyn sydd ar y gweill

Mae Casi yn edrych ymlaen yn fawr at danio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru drwy eiriau ac alawon. Mae dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yn flaenoriaeth ganddi, ac mae hi hefyd yn awyddus i wau’r thema byd natur drwy’r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl.

“Mae’r byd yn newid ar gyfradd na welson ni erioed mo’i debyg – bod yn agored i syniadau a ffyrdd newydd o brosesu profiadau ydi’r nod. Mi gaiff y plant fy arwain i yn hynny o beth. Rwy’n barod iawn i ddechrau arni!” – Casi Wyn, Bardd Plant Cymru

Yn ogystal ag ymweliadau ysgolion, bydd rhaglen weithgaredd Casi yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, chyfrannu at Siarter Iaith Llywodraeth Cymru, a bydd yn cyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd o ddiddordeb i blant a phobl ifanc. Bydd modd i ysgolion gysylltu gyda Llenyddiaeth Cymru er mwyn trefnu ymweliadau gyda’r bardd yn llawrydd. Mae heriau’r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi golygu ein bod oll wedi ymgyfarwyddo â manteision cynnal gweithdai dros y we, a gobeithia Casi gyfuno gweithdai rhithiol ac ymweliadau ysgolion er mwyn rhoi’r cyfle i gynifer o blant ag sy’n bosib i gymryd rhan mewn gweithdai barddoni.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Mae’r Urdd yn edrych ymlaen i gydweithio gyda Casi yn ystod cyfnod cyffrous ein canmlwyddiant. Mae Bardd Plant Cymru wedi ysbrydoli plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru ers blynyddoedd, a nifer o’r plant hynny wedi mynd ymlaen i ennill prif wobrau Eisteddfod yr Urdd. Gyda Casi, gallwn barhau i gynnig cyfleoedd celfyddydol i genhedlaeth newydd, a chaniatáu i straeon ein hieuenctid gael eu clywed.”

 

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae cynnau sbarc o greadigrwydd yn nychymyg darllenwyr ifanc Cymru yn greiddiol i waith y Bardd Plant, ac o edrych yn ôl ar y rhai sydd wedi gwneud y swydd hon yn y gorffennol, mae Casi yn sicr yn hawlio ei lle ymysg criw arbennig iawn. Bydd rhoi cyfle i blant ddefnyddio llais a rhannu profiadau mewn ffordd greadigol yn bendant yn rhywbeth y bydd pawb yn ei groesawu’n fawr. Llongyfarchiadau calonnog i Casi.”

 

Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C: “Dwi wrth fy modd mai Casi Wyn fydd Bardd Plant nesaf Cymru ac y bydd yn gallu cyfuno ei dawn eiriol a cherddorol er mwyn ysbrydoli creadigrwydd mewn plant ar draws y wlad. Mae o’n waith sydd mor bwysig a dwi’n dymuno pob lwc iddi.”

Bydd modd cadw llygad ar weithgareddau amrywiol Casi fel Bardd Plant Cymru draw ar Twitter @BarddPlant ac ar wefan llenyddiaethcymru.org

Mae croeso i unrhyw ysgol neu sefydliad sydd yn dymuno trefnu ymweliad gyda’r Bardd Plant gysylltu yn uniongyrchol drwy’r dudalen gysylltu yma.

Os am holi mwy am y prosiect, neu am gyfleoedd i gyd-weithio, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar barddplant@llenyddiaethcymru.org.