Dewislen
English
Cysylltu

Cyhoeddi Enillwyr Categori Barddoniaeth a Chategori Ffeithiol Greadigol Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020

Cyhoeddwyd Iau 30 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru

Heddiw fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Caryl Bryn sy’n cipio’r categori Barddoniaeth eleni, gyda Hwn ydy’r llais, tybad? (Cyhoeddiadau’r Stamp) ac mai Alan Llwyd sy’n cipio’r categori Ffeithiol Greadigol eleni, gyda Byd Gwynn Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw. Cyflwynwyd y darllediad arbennig gan Nia Roberts am 7.30 pm nos Iau 30 Gorffennaf, yng nghwmni Emyr Lewis a Betsan Powys, ar ran y panel beirniadu, a’r enillwyr eu hunain.

Mae’r ddau yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yr un a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Mae’r ddau hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl Golwg360 a Phrif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2020, a gaiff eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng 12.30 – 1.00 pm ddydd Sadwrn, 1 Awst.

Dyma gyfrol gyntaf Caryl Bryn. Mae’n gasgliad sydd yn chwilio’n barhaus – yn swigod y noson gynt ac yn lludw’r bore wedyn; trwy ffenestri Bangor Uchaf, ar blatfformau trên yn Lerpwl ac ar draethau gorllewin Cymru. Mae’n gyfrol sydd yn ymdrin yn grefftus â galar, serch ac ieuenctid. Maent yn ddarnau o lenyddiaeth fydd yn aros yn hir yn y cof, ac yn gwneud i ninnau holi, ‘tybad?’

Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch ym Môn, ond y mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Cyhoeddwyd Hwn ydy’r llais, tybad? dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp. Bu iddi ymgymryd â Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2018 a derbyn Ysgoloriaeth Gerallt yn 2019. Yn yr un flwyddyn, daeth yn drydydd am Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a’r Fro. Mae’n gyfrannydd cyson i gylchgronau Y Stamp, Barddas a Barn, ac yn mwynhau cymdeithasu a threulio amser gyda’i chath, Grês Elin.

Roedd 2019 yn nodi 70 o flynyddoedd ers marwolaeth y bardd, y llenor a’r ysgolhaig T. Gwynn Jones. Dyma gyfrol sy’n gofiant cynhwysfawr i’r Prifardd hwnnw wrth i’r awdur fynd o dan groen y gŵr hynod a chymhleth hwn. Trafodir ei fagwraeth a’i deulu, ei weithiau creadigol o bob math, ei addysg a’r holl ddylanwadau arno. Rhoddir cryn sylw i’w nofelau rhyddiaith sy’n esgor ar nifer o syniadau newydd oedd gan T. Gwynn Jones am gymdeithas a gwleidyddiaeth y cyfnod. Ceir hefyd drafodaeth estynedig ar ei farddoniaeth wrth i’r awdur olrhain datblygiad manwl iawn o T. Gwynn Jones fel bardd. At hynny, gan fod y cofiant hwn yn cael ei ysgrifennu gan fardd am fardd, edrychir ar waith T. Gwynn Jones am y tro cyntaf â llygad, profiad ac arbenigedd bardd a thanlinellir pwysigrwydd hynny o gofio bod T. Gwynn Jones ei hun yn gymaint o arbrofwr â’r gynghanedd ac â’r mesurau traddodiadol. Dyma gyflwyno mewn cyfrol ddeniadol a thrwyadol, felly, bortread newydd a chyflwyniad o’r newydd o T. Gwynn Jones i’r genedl.

Mae Alan Llwyd yn gofiannydd profiadol ac ymysg ei lyfrau diweddar mae wedi ysgrifennu cofiannau dadlennol i rai o’n beirdd a’n llenorion pwysicaf: Kate: Cofiant Kate Roberts 1891–1985 (Y Lolfa, 2011), Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884–1956 (Gwasg Gomer, 2013), Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904–1971 (Y Lolfa, 2014), Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones 1899–1968 (Y Lolfa, 2016). Enwebwyd Gwenallt, Kate a Bob ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn, gyda Bob yn ennill y categori ffeithiol-greadigol. Maent oll yn gofiannau hynod safonol a darllenadwy sy’n olrhain hanes bywyd y llenorion hyn yn fanwl a thrwyadl. Esgorodd ei ymchwil hefyd ar ffeithiau newydd am rai ohonynt a hynny’n ennyn chwilfrydedd y darllenwyr i wybod mwy am hanes bywydau rhai o Gymry amlycaf yr ugeinfed ganrif. Mae gan yr awdur Gadair Athro bersonol yn Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe ers 2013.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r newyddiadurwraig a chyn-olygydd BBC Radio Cymru a Cymru Fyw Betsan Powys; y cartwnydd, awdur a chyflwynydd Siôn Tomos Owen; y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Emyr Lewis; a’r gantores-gyfansoddwraig, Casi Wyn.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. Rydym yn falch iawn i ddathlu llwyddiannau llenyddol ein hawduron hynod dalentog, ac mae’r Wobr hon yn fodd o wneud hyn yn  flynyddol. Braf yw gweld bardd sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf, ac awdur sydd eisoes wedi cyrraedd rhestrau byrion ac wedi ennill gwobrau’r gorffennol, yn ennill y categoriau hyn eleni. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt!”

Caiff enillwyr y categori Plant a Phobl Ifanc a’r categori Ffuglen eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru yfory (dydd Gwener 31 Gorffennaf) rhwng 12.30 – 1.00 pm, gydag Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a’r Prif Enillydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst rhwng 12.30 – 1.00 pm. Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar BBC Radio Wales nos yfory (nos Wener 31 Gorffennaf) rhwng 6.00 – 7.00 pm.

Am ragor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn, ewch i: www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn