Cyhoeddi Panel Penodi Bardd Cenedlaethol Cymru 2022 – 2025
Ar y panel bydd Natalie Jerome, yr asiant llenyddol a Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru; cyn Fardd Plant Cymru a’r awdur Casia Wiliam; Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru, Andrew Ogun; ac Ashok Ahir, y cyfarwyddwr cyfathrebu a Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Meddai Casia, “Dwi’n ei weld yn fraint cael fy ngwahodd i fod ar y panel, ac wir yn edrych ymlaen i gael trin a thrafod gyda phawb pan welwn ni pa enwau sydd wedi dod i law. Mae swydd y Bardd Cenedlaethol yn bwysig ac yn bell-gyrrhaeddol, felly mae’n bwysig ffeindio’r union berson ar gyfer y gwaith!”
Os nad ydych wedi enwebu bardd eto, mae dal amser i chi anfon eich cynigion. Mae dwy ffordd o enwebu. Gallwch fynegi diddordeb eich hunain ar gyfer y rôl, neu gallwch enwebu rhywun arall. Gallwch enwebu bardd fel unigolyn, neu ar ran mudiad, elusen neu gwmni arall rydych yn ei gynrychioli. Defnyddiwch y ffurflen hon os gwelwch chi’n dda. Mae Llenyddiaeth Cymru yn derbyn enwebiadau tan 5.00 pm 14 Mawrth 2022. Darllenwch ragor yma.
Ashok Ahir
Etholwyd Ashok Ahir yn Lywydd y Llys ac yn Gadeirydd Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019. Ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, digwyddiad sydd wedi ei ganmol am ei natur gynhwysol ac agored. Ef yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cymwysterau Cymru. Daw â chyfoeth o brofiad busnes a rheoli i’r rôl, fel sylfaenydd asiantaeth gyfathrebu Mela, ac fel cyn bennaeth Uned Wleidyddol BBC Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Cymru’r Cyngor Prydeinig. Daw Ashok yn wreiddiol o Wolverhampton a chafodd ei fagu ar aelwyd cyfrwng Punjabi, ond mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ers hynny gan gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2012.
Natalie Jerome
Mae Natalie Jerome wedi gweithio fel Cyhoeddwr a Golygydd i rai o gyhoeddwyr amlycaf y DU gan gynnwys Penguin Random House, Pan Macmillan, Bonnier Books a HarperCollins, lle bu’n gomisiynydd am ddeng mlynedd cyn symud i weithio fel asiant llenyddol i Aevitas Creative Management, un o’r prif asiantaethau llenyddol annibynnol. Cafodd Natalie ei chynnwys yng nghylchgrawn The Bookseller’s Industry top 100 ble’i disgrifiwyd fel ‘dewin cyhoeddi brand’ ar ôl caffael a chyhoeddi llyfrau sydd wedi gwerthu dros 6 miliwn o gopïau a chynhyrchu dros £30m o refeniw yn ystod ei gyrfa. Mae Natalie yn arbenigwr mewn llenyddiaeth ffeithiol gyda ffocws penodol ar adloniant a ffordd o fyw.
Fel un o’r ychydig gyhoeddwyr du yn y Deyrnas Gyfunol, mae Natalie wedi gweithio i wella amrywiaeth yn y diwydiant cyhoeddi. Mae hi’n un o sefydlwyr, ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Creative Access, cynllun mentora a hyfforddiant i raddedigion o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig sy’n chwilio am brofiad gwaith â thâl ar draws y diwydiannau creadigol a’r cyfryngau. Yn ystod ei 12 mis cyntaf fel asiant, cyrhaeddodd restr fer Asiant Llenyddol y Flwyddyn 2021 gan y British Book Awards, ac yn 2016 canmolwyd ei gwaith gyda’r National Business yn y Community Race Equality Awards. Natalie yw Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru.
Andrew Ogun
Mae Andrew Ogun yn gerddor, awdur, cyfarwyddwr creadigol ac yn drefnydd cymunedol 24 oed o Gasnewydd, sy’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd. Ef yw prif drefnydd y mudiad Bywydau Pobl Du o Bwys (Black Lives Matter) yng Ngwent ac ef yw Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru.
Casia Wiliam
Mae Casia Wiliam yn fardd, yn awdur ac yn swyddog cyfathrebu. Cyhoeddodd Eiliad ac Einioes, ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth i oedolion yn ystod haf y pandemig, 2020. Enillodd Wobr Tir Na Nog yn 2021 am ei nofel i blant, Sw Sara Mai, ac mae’r dilyniant, Sara Mai a Lleidr y Neidr ar Restr Fer Gwobr Tir Na Nog 2022. Yn ogystal â chyhoeddi gwaith gwreddiol mae Casia wedi addasu nifer o nofelau adnabyddus o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac yn ei gwaith o ddydd i ddydd mae’n Swyddog Cyfathrebu Cymunedol ar gyfer mudiad gweithredu ar newid hinsawdd o’r enw GwyrddNi. Casia oedd Bardd Plant Cymru 2017-2019 a bu’n aelod o dîm y Ffoaduriaid ar gyfer Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru am ddegawd cyn symud o Gaerdydd.Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr Tom, a’u meibion Caio a Deri.