Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023

Cyhoeddwyd Sul 21 Mai 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023
Yn dilyn blwyddyn fyrlymus o ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau yng Nghymru, mae’n fraint gan Llenyddiaeth Cymru ddatgelu pa lyfrau sydd wedi plesio’r beirniaid a chyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – BarddoniaethFfuglenFfeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.

Heddiw, dydd Sul 21 Mai, ar raglen newydd Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru, datgelwyd enwau’r deuddeg llyfr sydd wedi eu dethol gan y beirniaid eleni, a hynny yn fyw yng nghwmni y panel o feirniaid. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd y Rhestr Fer Saesneg ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong:

“Pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023. Dyma un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol yng Nghymru, ac mae’n sicr yn un o’n uchafbwyntiau ninnau fel sefydliad. Rydym wrth ein boddau’n cael cyfle i gyd-ddathlu llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig gydag awduron, gweisg, darllenwyr, a’r holl gymuned lenyddol. Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy’n cipio’r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi – mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau’r ysgol – trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth.”

Y Rhestr Fer Gymraeg

Y Wobr Farddoniaeth

Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)

Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Sgen I’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

Cylchu Cymru, Gareth Evans-Jones (Y Lolfa)

Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)

 

Gwobr Ffuglen

Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)

Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)

Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)

Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)

Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

 

Y Beirniaid

Caiff panel o feirniaid annibynnol eu penodi i ddarllen, trafod, a dewis a dethol y rhestr fer bob blwyddyn. Eleni mae’r panel Cymraeg yn cynnwys y bardd arobryn Ceri Wyn Jones; awdur ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Ceri Wyn Jones:

“Wedi misoedd o ddarllen a phwyso a mesur, mae mor braf medru rhannu’r rhestr hon o lyfrau â’r cyhoedd, rhestr sy’n dangos unwaith eto mor fyw yw’r Gymraeg fel iaith greadigol ac mor barod yw hi, yn ei hamrywiol ffurfiau, i fentro i fannau newydd, yn ogystal ag ail-ymweld â’r mannau oesol.”

Y Rhestr Fer Saesneg

Y Wobr Farddoniaeth

As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)

The language of bees, Rae Howells (Parthian Books)

A Marginal Sea, Zoë Skoulding (Carcanet Press)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)

The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives, Jude Rogers (White Rabbit)

Original Sins, Matt Rowland-Hill (Chatto & Windus)

 

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

This Is Not Who We Are, Sophie Buchaillard (Seren Poetry Wales Press Ltd)

Fannie, Rebecca F. John (Honno Ltd.)

Drift, Caryl Lewis (Doubleday – Transworld, Penguin Random House)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

The Mab, Various Authors (Unbound)

The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children’s)

When The War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

 

Ar y panel Saesneg mae’r awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett; yr awdur a’r athro Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd Kristian Evans a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.

 

Y Camau Nesaf

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, cynhelir seremoni fyw i ddathlu campau’r awduron eleni, a hynny ar nos Iau 13 Gorffennaf yn y Tramshed yng Nghaerdydd. Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd, neu enillwyr, pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr ym mhob categori a prif enillydd, byddwn yn clywed pa lyfrau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd wrth inni ddatgelu enillwyr Barn y Bobl Golwg360 a Wales Arts Review. Ewch draw i’ch siop lyfrau neu llyfrgell leol nawr er mwyn cael gafael ar gopi o’r llyfrau ar y rhestr fer cyn mynd ati i bleidleisio dros eich ffefryn. Bydd enillwyr y gwobrau hyn hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y seremoni.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales, a’n harianwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

I ganfod mwy am y llyfrau hynny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ewch draw i dudalen Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Llyfr y Flwyddyn