Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Cyhoeddi enwau’r 14 awdur blaenllaw bydd yn mentora awduron carfan 2022-23

Cyhoeddwyd Mer 13 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Cyhoeddi enwau’r 14 awdur blaenllaw bydd yn mentora awduron carfan 2022-23
Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi enwau’r 14 awdur sydd wedi eu cadarnhau yn Fentorwyr ar gyfer rhaglen Cynrychioli Cymru 2022-23.

Ymhlith y Mentoriaid, mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt: Tom Bullough, Rhian Edwards, Niall Griffiths, Philip Gross, Kerry Hudson, Cynan Jones, Patrice Lawrence, Sophie Mackintosh, Rufus Mufasa, Jacob Ross, Peter Scalpello, Katherine Stansfield, Rachel Trezise ac Eloise Williams. 

Mae Cynrychioli Cymru yn un o brif raglenni Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.  

Mae Cynrychioli Cymru yn gam pwysig yn ymdrechion Llenyddiaeth Cymru i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad. Y nod yw creu diwylliant sy’n gwbl gynrychioladol o gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau bod gan Gymru wastad ei chyflenwad o unigolion talentog, amrywiol a fydd yn cael eu cydnabod ledled y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Ceir rhagor o wybodaeth am y rhaglen yma  

Dyma ail rifyn y rhaglen a’r tro hwn mae’r pwyslais ar gefnogi awduron o gefndiroedd incwm isel. Gellir darllen rhagor ynglŷn â’n penderfyniad i ganolbwyntio ar awduron o gefndiroedd incwm isel yma. 

Gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen y llynedd, pan fuom yn gweithio’n agos gyda 12 awdur o liw, ac yn ogystal â’n degawd o brofiad yn datblygu talent llenyddol yng Nghymru, rydym yn gwybod bod mentora yn gallu cynnig cyfle unigryw a gwerthfawr yn natblygiad creadigol a phroffesiynol awduron.  Gwrandewch ar yr awduron eu hunain yn sôn am y profiad o fod yn ran o’r rhaglen:

 

Detholwyd y Mentoriaid wedi ymgynghori â’r awduron ar y rhaglen, ac mae’r Mentoriaid yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys y Jhalak Prize for Children and Young People, y Prix Femina Étranger, Waterstones’ Prize for Older Children’s Fiction, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr T.S. Eliot Prize a Llyfr y Flwyddyn. Bydd eu profiadau, eu llwyddiant a’u creadigrwydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad yr awduron yn y garfan, ac hefyd maes o law, ar y sector llenyddol ehangach.  

Dywedodd Jacob Ross, un o Fentorwyr y rhaglen:

“Rwy’n edmygu’n fawr ymrwymiad Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu talentau llenyddol awduron o Gymru sydd wedi eu tan-gynrychioli. Rwy’n croesawu’r cyfle i weithio fel mentor ar raglen Cynrychioli Cymru 2022. Rwy’n edrych ymlaen at brofiad fydd yn foddhaus i’r ddau ohonom,  yn fentor ac awdur.” 

Yn ystod y rhaglen bydd yr awduron yn elwa ar gefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau unigol. Bydd y Mentoriaid wrth law er mwyn eu cynorthwyo i fireinio eu prosiectau creadigol i safon cyhoeddi, a byddant yn cynnig arweiniad ar ymgyfarwyddo â’r diwydiant, yn eu cyfeirio at gyfleoedd proffesiynol a chynorthwyo mynediad at rwydweithiau ehangach.  

Gellir darllen rhagor am garfan awduron Cynrychioli Cymru 2022-23 yma.  

Dywedodd Peter Scallpelo, un arall o Fentorwyr y rhaglen: 

“Rwy’n hynod falch i fod yn cefnogi’r awdur hwn ac mae ei gymhelliad yn ei waith yn heintus.” 

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn dilyn hynt a datblygiad yr awduron a’r Mentoriaid ac yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd gyda’r awduron a’r Mentoriaid yn ystod y flwyddyn.  

Am ragor o wybodaeth am y Mentoriaid, ewch i’w bywgraffiadau ar dudalen Cynrychioli Cymru yma.  

Cynrychioli Cymru