Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Lansio Rhaglen 2022/23

Cyhoeddwyd Llu 11 Ebr 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Lansio Rhaglen 2022/23
Rydym yn hynod falch i lansio ail rifynein rhaglen datblygu proffesiynol i awduron sy’n cael eu tangynrychioli.  

Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn gam pwysig yn ein taith i weddnewid diwylliant llenyddol y wlad, ac wedi ei datblygu er mwyn gwella cynrychiolaeth yn y sector. Ein nod yw helpu i greu diwylliant sy’n cynrychioli holl gymunedau amrywiol Cymru, a sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn unigolion talentog fydd yn cael eu cydnabod ledled ein gwlad a thu hwnt am eu crefft. 

Mae cynrychiolaeth a chydraddoldeb yn nodau allweddol ar gyfer Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r rhaglen yn cyfrannu’n uniongyrchol tuag at gyflwyno newid pwrpasol a gwirioneddol o fewn y sector. Mae’r rhaglen yn elfen allweddol o’n  gweithgaredd Datblygu Awduron, a bydd yn datblygu ymhellach yn dilyn  llwyddiant blwyddyn gyntaf y rhaglen.  

Meddai Emily Burnett, aelod o garfan 2021/22:

“Mae’r gefnogaeth a’r haelioni rwyf wedi ei dderbyn gan Llenyddiaeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel. Erbyn hyn mae gen i Asiant Llenyddol, ac mae fy hyder yn fy ngwaith wedi cynyddu gymaint, yn ogystal â fy nymuniad i archwilio genres newydd. Mae fy mherthynas gyda fy Mentor wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi llywio fy ngyrfa mewn cyfeiriad mor bositif. Fedrai ddim diolch yn ddigonol i Llenyddiaeth Cymru am y cyfle hwn.”  

Rhaglen 12 mis yw hon, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn rhoi cyfleoedd datblygu i 14 awdur o gefndiroedd incwm isel sy’n awyddus i ysgrifennu’n broffesiynol. Cafodd yr 14 awdur eu dewis gan Banel Asesu annibynnol, a chafodd y rhaglen ei chynllunio drwy ymgynghori â chymunedau, awduron ac ymgynghorwyr sy’n rhan o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru. 

Bydd Llenyddiaeth Cymru gyfrifol am weinyddu’r rhaglen a byddwn yn cefnogi’r criw i ddatblygu eu gwaith a meithrin eu talent drwy gynnig gwobr ariannol hyd at £3,500 i bob awdur llwyddiannus a thrwy hwyluso sesiynau mentora. Elfen allweddol o’r rhaglen fydd gwneud yr agweddau galwedigaethol o ysgrifennu creadigol, yn ogystal â’r broses gyhoeddi, yn fwy hygyrch. I’r perwyl hwn, byddwn yn trefnu 10 gweithdy a darparu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ar ffurf cyfleoedd i rwydweithio a mynychu gwyliau a digwyddiadau llenyddol. Bydd dosbarthiadau meistr yng ngofal awduron a thiwtoriaid profiadol, gyda dau ohonynt yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, hefyd yn elfennau hanfodol o’r cynllun.   

Yn ystod y flwyddyn, bydd y garfan yn cwrdd ag awduron megis Cathy Rentzenbrink, Pascale Petit, Eloise Williams, a Kit de Waal, yn ogystal â chyhoeddwyr o Gymru, a sefydliadau arbenigol tebyg i The Society of Authors a The Good Literary Agency. Byddant hefyd yn derbyn hyfforddiant ar sut i fynd ati i greu brand awdur, creu gyrfa fel artist llawrydd, a chynnal gweithdai creadigol cymunedol.  

Bydd y gweithdy cyntaf yn sesiwn arbennig i holl ymgeiswyr Cynrychioli Cymru, a bydd detholiad o weithdai yn ystod y flwyddyn yn agored i’r cyhoedd er mwyn cynnig hyfforddiant a chyngor rhad ac am ddim i ystod eang o egin awduron ledled Cymru. Bydd aelodau o garfan cyntaf Cynrychioli Cymru hefyd yn cael eu gwahodd i ambell sesiwn, fel cyfranogwyr ac fel siaradwyr gwadd, er mwyn sicrhau bod cysylltiadau rhwng y ddau grŵp yn cael eu ffurfio ac er mwyn cynnig cefnogaeth a chyfleoedd parhaus i’n hawduron.  

Carfan 2022/23 

A hwythau yn byw ledled Cymru ac yn arbenigo mewn gwahanol ffurfiau a genres, mae’r garfan newydd o awduron yn byrlymu gyda straeon a syniadau. Mae nifer o’r awduron yn mynd i’r afael â themâu megis  natur, grymuso eraill a chyfiawnder cymdeithasol yn eu gwaith, gyda phob un ohonynt yn cynnig persbectif a dull unigryw.  

Tra bydd rhai yn canolbwyntio ar nofelau a barddoniaeth, bydd eraill yn datblygu prosiectau ffeithiol greadigol a llenyddiaeth i blant. Bydd yr awduron yn dysgu gan ei gilydd yn ystod y flwyddyn wrth iddynt gael eu hannog i arbrofi a rhannu eu gwaith a’u hadborth yn rheolaidd.  

Mae’r rhaglen wedi ei chreu ar sail anghenion a diddordebau y garfan ac mi fydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i groesawu adborth ac ystyried syniadau y cyfranogwyr. Yn dilyn y rhaglen 12 mis, bydd cefnogaeth parhaus yn cael ei ddarparu i’r garfan i sicrhau bod ganddynt fynediad i gyngor ac adnoddau hanfodol i gyflawni eu nodau.   

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen, a bywgraffiad yr holl awduron, ar gael ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru. 

Uncategorized @cy