Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Gwahodd Ceisiadau ar gyfer Rhaglen 2024-2025

Cyhoeddwyd Gwe 4 Awst 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Gwahodd Ceisiadau ar gyfer Rhaglen 2024-2025
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00pm, 28 Medi 2023
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen datblygiad proffesiynol 12 mis o hyd, Cynrychioli Cymru, unwaith eto ar agor i geisiadau. Yn ei phedwaredd blwyddyn, bydd y rhaglen yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol ac sydd â diddordeb mewn ysgrifennu a chreu gwaith ar gyfer oedolion.

Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:

  • Nawdd ariannol o £3,000
  • Nawdd ariannol ychwanegol ar gyfer teithio a thocynnau
  • 6 gweithdy rhithiol hyd at ddwy awr yr un a fydd yn canolbwyntio ar y diwydiant cyhoeddi
  • 4 Dosbarth Meistr ysgrifennu creadigol, dau ohonynt yn benwythnosau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • 4 Sesiwn Mentora un-wrth-un yn para 1-2 awr yr un
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol ar ôl mis Mawrth 2024

 

“Mae Cynrychioli Cymru wedi llwyr trawsnewid fy mywyd.”Amy Kitcher, Aelod Carfan 2022-2023

Bydd yr awduron llwyddiannus yn cael eu dewis gan banel annibynnol dwyieithog trwy broses asesu gofalus a manwl lle bydd ceisiadau a gwaith creadigol yn cael eu beirniadu ar sail ansawdd, potensial ac addasrwydd. Bydd y bedwaredd rownd yn cychwyn yn swyddogol ym mis Ebrill 2024 a bydd yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025.

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i awduron sydd ond newydd ddechrau ysgrifennu yn y Gymraeg, yn ogystal ag awduron sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol. Darperir gweithdai yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe gynigir cyfieithu ar y pryd lle bo angen. Gallwch ddysgu mwy am fformat dwyieithog y rhaglen yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin.

Meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru:

“Mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi newid Llenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth yng Nghymru yn aruthrol ers 2019. Mae’r cynllun wedi cyfrannu at amrywiaeth o lwyddiannau, megis Hanan Issa yn dod yn Fardd Cenedlaethol Cymru, penodiad diweddar Nia Morais fel Bardd Plant Cymru 2023-25 , a phenodiad Alex Wharton yn Children’s Laureate Wales 2023-25, ymhlith amrywiaeth o gweithiau wedi’i cyhoeddi gyda llawer mwy i ddod.

Yn 2022 fe wnaethom ehangu’r cymhwystra i bawb sy’n nodi eu bod yn cael eu tangynrychioli yn y sector gan ganolbwyntio mwy ar yr amrywiaeth o brofiadau a hunaniaethau sy’n cydfodoli yng Nghymru, ac rwy’n falch y gallwn barhau â hyn ar gyfer y bedwaredd rownd. Gyda phob blwyddyn mae’r rhaglen yn cryfhau, ac edrychwn ymlaen at gyfoethogi a chefnogi cynrychiolaeth y Gymraeg ymhellach, gan ddarparu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg weithio a rhannu eu gwybodaeth gydag awduron eraill yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar o gefnogaeth barhaus Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n galluogi’r rhaglen hon i barhau, ac yn bersonol, ni allaf aros i weld mwy o yrfaoedd awduron yn ffynnu a chreu sîn lenyddol sy’n cynrychioli Cymru yn wirioneddol dros y blynyddoedd nesaf.”

I ddarganfod mwy am waith Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb Llenyddiaeth Cymru, cyfeiriwch at Gynllun Strategol Llenyddiaeth Cymru 2022-2025.

Wrth adlewyrchu ei phrofiad fel awdur ar raglen bresennol Cynrychioli Cymru, dywedodd Rhiannon Oliver:

“Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn wych ac eisoes yn newid sut rydw i’n gweld fy hun fel awdur. Mae bod yn ddysgwr Cymraeg a bod yn rhan o’r rhaglen yn help mawr i mi fagu hyder yn fy marddoniaeth a’r syniad y gallaf ddatblygu gyrfa fel awdur dwyieithog.”

Cefnogaeth i Ymgeiswyr

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i awduron gyflwyno sampl o’u gwaith ffuglen neu ffeithiol creadigol, detholiad o’u barddoniaeth, neu sampl o’u nofel graffeg. Lle bo’n berthnasol, anogir cyflwyniadau fideo o waith creadigol hefyd. I gael gwybod mwy am genres cymwys, cyfeiriwch at ein Cwestiynau Cyffredin.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i greu proses ymgeisio hygyrch a chroesawgar. Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru at post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd). Neu gallwch gysylltu â ni dros ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 – 7.00 pm Ddydd Iau 24 Awst a Dydd Mercher 20 Medi 2023. Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn cael eich tocyn am ddim drwy Eventbrite. 

 

Rowndiau Blaenorol o Raglen Cynrychioli Cymru

Yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf, bydd Llenyddiaeth Cymru wedi cefnogi 40 o awduron o Gymru i gyflawni eu nodau proffesiynol a chreadigol. Mae pob rownd yn adeiladu ar lwyddiannau blynyddoedd blaenorol ac adborth a dderbynnir. Yn ogystal â hyn, cynhelir gwaith ymgynghori trylwyr gydag unigolion a sefydliadau o fewn y sector.

Yn dilyn y rhaglen, mae llawer o’r awduron wedi mynd ymlaen i ddod o hyd i asiant llenyddol, cyhoeddi a pherfformio eu gwaith, a dod yn eiriolwyr llenyddol ac yn hwyluswyr creadigol yn eu cymunedau.

Cewch glywed mwy am brofiadau awduron y llynedd drwy wylio’r fideo isod:

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am effaith rhaglen Cynrychioli Cymru drwy fynd i’r adran Gair o Brofiad ar dudalen y prosiect.

 

Ymgeisiwch Nawr

Gwahoddir unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i noddwyr na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru o’r blaen.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, Cwestiynau Cyffredin a sut i wneud cais cliciwch yma, neu cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00 pm, dydd Iau 28 Medi 2023.

 

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.