Dewislen
English
Cysylltwch

Firefly Press yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer awduron plant o Gymru

Cyhoeddwyd Gwe 11 Maw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Firefly Press yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer awduron plant o Gymru
Mae Firefly Press wedi lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i’r straeon newydd gorau ar gyfer plant a phobl ifanc gan awduron o Gymru yn y Saesneg. Yn ogystal â sesiwn un-i-un gyda golygydd o Firefly, bydd y prif enillydd yn cael cyfle i hogi ei sgiliau ar gwrs ysgrifennu preswyl yn Tŷ Newydd.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i awduron sydd yn byw yng Nghymru neu sydd wedi eu geni neu eu magu yma. Does dim tâl cystadlu, ac mae’n agored i awduron cyhoeddedig neu sydd heb eu cyhoeddi. Rhaid i’r darn a gyflwynwyd fod yn stori wreiddiol yn Saesneg ar gyfer plant neu bobl ifanc. Mae tri chategori ar gyfer oedrannau 7-9, 9-12, a 12-18.  

Bydd enillydd yn cael ei ddewis ym mhob categori gan yr awduron plant Catherine Fisher, Catherine Johnson, a Malachy Doyle, ynghyd â’r Cyhoeddwr Penny Thomas o Firefly. Bydd pob un o’r tri enillydd yn cael sesiwn olygyddol un-i-un gyda golygydd o Firefly tra bydd y prif enillydd hefyd yn derbyn lle ar gwrs ysgrifennu Tŷ Newydd o’i dewis yn 2023.  

Dywedodd Penny Thomas:  

‘Mae Firefly yn awyddus i ddarganfod y genhedlaeth nesaf o awduron plant o Gymru, yn enwedig o gymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Os ydych chi’n ysgrifennu, neu eisiau ysgrifennu straeon gwych ar gyfer pobl ifanc, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi, felly byddwch yn ddewr ac ewch ati i anfon eich cais.’  

Cynhaliwyd cystadleuaeth ysgrifennu gyntaf Firefly yn 2013 a rhoddodd hwb i yrfa lenyddol llwyddiannus yr enillydd, Sarah Todd Taylor.  

Dywedodd Sarah Todd Taylor:  

‘Roedd ennill gwobr Firefly yn ddechrau antur gyffrous i mi ym myd cyhoeddi i blant. Rhoddodd hyder i mi  ysgrifennu, a’r cyfle i gyhoeddi Arthur and Me gyda thîm anhygoel a oedd â gwir diddordeb yn y stori ac a oedd yn hynod garedig a chefnogol i mi fel awdur newydd. Ces hefyd gyfle i ddatblygu cyfeillgarwch gydag awduron eraill o Firefly hefyd – mae’n wasg arbennig iawn. Does dim byd tebyg i’r wefr o weld llyfr mewn siop gyda’ch enw ar y cefn. Nawr rwy’n golygu fy chweched llyfr, a dechreuodd y cyfan trwy anfon fy nghais at gystadleuaeth Firefly. Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau ysgrifennu i blant i gymryd rhan yn y gystadleuaeth wych hon.’  

Agorwyd y gystadleuaeth ar Ddydd Gwŷl Dewi a’r dyddiad cau yw 24 Ebrill 2022. Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref 2022.  

Gellir cael mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth a sut i wneud cais ar wefan Firefly Press.

Cyfleoedd