Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Grŵp Awduron Cwrs Stori i Bawb

Cyhoeddwyd Iau 28 Ebr 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Grŵp Awduron Cwrs Stori i Bawb

Naw awdur plant newydd yn mynychu cwrs arbennig yn Nhŷ Newydd.

Yn ôl ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru a Cyngor Llyfrau Cymru alwad agored i awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am gyfle i gymryd rhan mewn cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Dan arweiniad yr awdur a’r hwylusydd celfyddydol Elgan Rhys, a llu o awduron gwadd eraill, byddai’r cwrs yn cynnig wythnos o weithdai, sgyrsiau a thrafodaethau er mwyn datblygu crefft ysgrifennu creadigol ar gyfer plant hŷn 8-12 oed a phobl ifanc 12+ oed.

Cyhoeddwyd cwrs tebyg drwy’r Saesneg, a gallwch ddarllen mwy am Books for All – cwrs i awduron o liw o Gymru ar ein gwefan.

Mae llyfrau yn llesol, yn enwedig i blant a phobl ifanc wrth iddynt geisio deall a dysgu am y byd o’u cwmpas. Yn ôl adroddiad diweddar gan y National Literacy Trust, nododd 3 o bob 5 plentyn fod darllen yn gwneud iddynt deimlo yn hapusach, gyda hanner y plant yn nodi fod darllen yn eu galluogi i freuddwydio am y dyfodol. Ond beth all ddigwydd os nad yw plentyn yn adnabod eu hunain a’u teuluoedd yn y llyfrau sydd ar gael?

Bydd y cwrs hwn yn gam ymarferol er mwyn sicrhau fod llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yn berthnasol i bob plentyn yng Nghymru. Drwy gynnig hyfforddiant i awduron â phrofiadau byw perthnasol, y gobaith yw cyhoeddi mwy o lyfrau fydd yn cynnwys straeon ysbrydoledig am gymeriadau o amryw o gefndiroedd ethnig, cymeriadau sydd yn byw ag anableddau, a phortreadau o deuluoedd sydd yn cynnwys aelodau LHDTC+. Bydd llyfrau amrywiol hefyd yn sicrhau fod plant Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno i’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau a chefndiroedd teuluoedd sydd yn bodoli, gan anelu i greu cenedlaethau mwy caredig ac eangfrydig i’r dyfodol.

Erbyn hyn, mae’r grŵp o awduron a ddewiswyd bellach ar ganol eu hwythnos breswyl yn Nhŷ Newydd, rhwng 25 – 29 Ebrill. Yn ystod y cwrs, cawsant weithdai niferus a sesiynau un-i-un gyda’r tiwtor, Elgan Rhys, yn ogystal â gweithdai gwadd yng nghwmni’r awdur arobryn Manon Steffan Ros. Cafwyd hefyd sesiynau rhithiol yng nghwmni tri o gyd-awduron Y Pump sef Tomos Jones, Mahum Umer a Leo Drayton; Nia Morais a Megan Hunter; sesiwn yng nghwmni’r awdur Patience Agbabi a phrynhawn diwydiant yng nghwmni cynrychiolwyr o rai o weisg Cymru.

 

Y naw awdur yw:

Headshot of Amy WarringtonMae Amy Louise Warrington yn 21 oed, ac mae’n byw ym Mhenygroes, ger Caernarfon. Mae wrth ei bodd yn darllen ac yn creu straeon ei hun. Mae’n freuddwyd ganddi i ddod yn awdur i brofi nad yw anabledd yn diffinio’r hyn na fedrwch ei gyflawni mewn bywyd. Mae Amy yn fyddar yn y ddwy glust, ac yn gwisgo mewnblaniad yn y cochlea yn y glust chwith. Mae hi yn darllen gwefusau, ac mae ganddi lefel 3 mewn BSL. Ar hyn o bryd mae hi yng Ngholeg Menai yn astudio ysgrifennu creadigol.

 

 

Headshot of Anita MyfanwyCyn athrawes Hanes yw Anita Myfanwy a fu hefyd yn gweithio fel Cydlynydd Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn ac yna fel Swyddog Datblygu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru. Bu yn ymgyrchu llawer dros blant a phobl ifanc a oedd yn dioddef trais a thlodi, a phlant oedd wedi ymddieithrio. Bu’n gwirfoddoli ac yn arwain nosweithiau i Gyfeillion Cae’r Gors. Bu yn mynychu cyrsiau ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd yn gyson ers blynyddoedd, ac mae hi’n edrych ymlaen yn arw at yr un yma hefyd!

 

Artist yw Catrin Menai sy’n gweithio rhwng Cymru a Glasgow. Mae’n defnyddio geiriau, ffilm a gwrthrychau y mae wedi eu canfod fel modd o drafod cadwyni o gysylltiadau, dulliau cyfathrebu, a gwahanol fathau o gwmnïaeth. Yn fwy diweddar mae’r dulliau yma yn cael eu defnyddio gan Catrin i gyfieithu testunau a syniadau i blant, gan symud trwy iaith mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfnewidiol, yn gul ac yn eang ar yr un pryd, wrth ystyried y rhannau sy’n symud ac yn anadlu tu mewn a thu allan i stori, rhywbeth y mae’n ei ystyried fel ‘pensaernïaeth anweledig’.

 

Daw Gwenno Llwyd Till yn wreiddiol o Nant Gwynant, ond mae bellach yn byw yng Nghricieth a Gogledd Llundain. Mae hi yn ei ail flwyddyn ym mhrifysgol gelf Llundain (UAL) yn astudio ffilm a theledu. Mae Gwenno yn wneuthurwr ffilm ac yn ffotograffydd, ac yn gobeithio ehangu ei gwaith ysgrifenedig i greu sgriptiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 

 

Daw Kayley Sydenham o Gasnewydd, ac mae yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Un o’i hoff bleserau yw crwydro, yn enwedig yng nghefn gwlad, ar lan y môr, ac ymysg y mynyddoedd – diddordeb sydd hefyd yn ysbrydoliaeth i’w gwaith celf, a’i gwaith ysgrifennu creadigol. Kayley oedd Prifardd Eisteddfod T yn 2021, ac mae ganddi ddiddordeb mewn dysgu’r gynghanedd.

 

 

 

Hanesydd o Geredigion yw Mair Jones (hi/honna) sydd ag MA yn Hanes Cymru. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, storïau ac yn rhannu hanesion grwpiau lleiafrifol Cymru ar-lein. Ysgrifennodd flogiau i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru yn ogystal â barddoniaeth i lyfrynnau lleol. Ar ôl bod yn rhan o grŵp ysgrifennu yn Aberystwyth, bu Mair yn arwain gweithdai ysgrifennu ffuglen hanesyddol ac ar hanes Cymru. Ysgrifennu sgript ffilm fer i brosiect Iris in the Community, a drama fer a gafodd ei pherfformio gan gwmni theatr Dirty Protest yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

 

Mae Martha Ifan yn dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol. Bu’n astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth cyn symud i Gaerdydd lle mae bellach yn gweithio fel cyfieithydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth i blant a bu eisoes yn ysgrifennu straeon byrion i blant ar gyfer cyfres Stori Tic Toc ar BBC Radio Cymru. Mae wrth ei bodd yn rhedeg ac er ei bod allan ohoni am y tro yn dilyn llawdriniaeth ar ei phen-glin, mae’n edrych ymlaen at ail-ddechrau cyn bo hir!

 

 

Mae Rufus Mufasa yn artist cyfranogol, bardd, rapiwr, gwneuthurwr theatr, cerddor, cyfansoddwr, ymgyrchydd llenyddol ac yn fam. Bu yn Gymrawd i’r Barbican, a hi oedd Bardd Preswyl cyntaf i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae wedi teithio gyda’i llenyddiaeth dros y byd – i Sweden, Indonesia, Zimbabwe…ond mae bob amser yn dychwelyd i Lanelli at elusen People Speak Up i hybu hip-hop, barddoniaeth a phrosiectau rhyng-genedlaethol i wella iechyd a llesiant drwy’r celfyddydau. Cyhoeddwyd casgliad cyntaf o farddoniaeth Rufus, Flashbacks and Flowers (Indigo Dreams) yn 2021.

 

Bardd, llenor, ac artist yw Sara Louise Wheeler. Mae hi’n ysgrifennu’r golofn O’r Gororau i gylchgrawn Barddas, lle mae hi’n synfyfyrio ar bob math o brofiadau ffiniol. Ar hyn o bryd, mae Sara yn gweithio ar sawl prosiect creadigol, gan gynnwys Y Dywysoges Arian, opera-bale tair-ieithog am ei phrofiadau o fyw hefo Syndrom Waardenburg Math 1 gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Creativity is Mistakes sef prosiect peilot i artistiaid gweledol Cymraeg gyda Celfyddydau Anabledd Cymru a dwy gyfrol ddwyieithog o farddoniaeth y mae hi’n gobeithio eu cyhoeddi yn ystod 2022, sef Confylsiwn/ Convulsion, a Cwilt Clytwaith Goareig/ A Goan-Welsh Patchwork Quilt.