Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored: O Hyn Ymlaen

Cyhoeddwyd Llu 22 Maw 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored: O Hyn Ymlaen

Yn galw ar storïwyr o bob cwr o Gymru! Rydym yn eich gwahodd i rannu’r straeon a’r syniadau sydd wedi’u hennyn gan Artes Mundi 9 a gyflwynwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chanolfan Chapter.

Mae Artes Mundi a Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio gyda Where I’ m Coming From er mwyn casglu a chyflwyno straeon o bob cwr o Gymru. Gall unrhyw un gyflwyno darn, boed yn atgof yr ydych wedi ailgysylltu ag ef neu weledigaeth newydd sydd wedi’i thanio, byddem wrth ein bodd pe baech yn eu rhannu gyda ni.

Bydd cyfanswm o chwe stori yn cael eu dewis, a bydd yr awduron yn derbyn cymorth gan Where I’m Coming From a Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu eu syniadau a’u gwaith ymhellach. Caiff y straeon hyn eu cyhoeddi gan Artes Mundi yn eu cyfnodolyn ar-lein.

Gallwch anfon straeon neu syniadau fel darnau ysgrifenedig neu rai wedi’u recordio fel ffeiliau sain neu ffilmiau byr. I deuluoedd neu grwpiau o ffrindiau sy’n dod i Artes Mundi 9 gyda’i gilydd, efallai y gallech chwarae gêm gylch lle mae pob un ohonoch yn cynnig brawddeg neu air yn ei dro i greu stori gyda’ch gilydd.

Rhannwch eich syniadau gyda ni drwy eu hanfon at: info@artesmundi.org. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 5.00 pm Dydd Gwener 11 Mehefin 2021. Sicrhewch nad yw’r gwaith ysgrifenedig yn fwy na 1,000 o eiriau o hyd, neu dair cerdd, os gwelwch yn dda. Os fyddai’n well gennych chi anfon fideo neu glip sain, dylai hwn fod hyd at ddwy funud.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gefnogi’r prosiect cyffrous hwn, sydd yn cyfuno dwy ffurf wahanol o gelfyddyd fynegiannol. Mae’r fenter hon yn cyfrannu at ein gwaith datblygu awduron ehangach yn ogystal ag ysbrydoli cynulleidfaoedd creadigol ar draws Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at weld y darnau terfynol yn dod at ei gilydd yn ystod yr haf.”

Ar Gyfer Awduron