Dewislen
English
Cysylltwch

Geiriau ar Gynfas: gweithdai am ddim ar gyfer awduron ac artistiaid anabl

Cyhoeddwyd Maw 10 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Geiriau ar Gynfas: gweithdai am ddim ar gyfer awduron ac artistiaid anabl
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gydweithio gyda Celfyddydau Anabledd Cymru i gyflawni prosiect cyfranogi llenyddol gyda phobl B/byddaru neu anabl yng Nghymru.

Mae cyfranogi, a chymryd rhan mewn gweithgareddau llenyddol yn benodol, yn un o dri prif feysydd gwaith Llenyddiaeth Cymru. Ein nod yw cynyddu mynediad at ac effaith ysgrifennu creadigol ar gyfranogwyr yng Nghymru er mwyn ysbrydoli rhai o’n hunigolion a’n cymunedau mwyaf ymylol drwy eu galluogi i gymryd rhan mewn gweithgaredd llenyddol.

Ar sail ein dealltwriaeth fod gan lenyddiaeth y grym i wella a gweddnewid bywydau, a’r angen i gynnal gweithgareddau lle y byddant yn cael yr effaith mwyaf, rydym wedi nodi Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb fel un o’n tair Blaenoriaeth Dactegol. Nid math o weithgaredd yw hyn, ond yn hytrach thema a gaiff ei gynnwys ym mhopeth yr ydym yn ei gyflawni, gan gynnwys ein gwaith-ar-y-cyd a’n gwaith hwyluso. Trwy sicrhau cynrychiolaeth deg ar draws ein gweithgareddau ân strwythurau mewnol, rydym yn darparu llwyfannau ac anogaeth i leisiau sy’n cael eu tangynrychioli, a thrwy hynny’n meithrin diwylliant llenyddol sy’n adlewyrchu’r Gymru gyfoes.

Yn dilyn galwad agored ym mis Awst, mae Llenyddiaeth Cymru a Celfyddydau Anabledd Cymru yn falch o gyhoeddi enwau’r Ymarferydd Creadigol a’r Ymarferydd Cysgodol ar gyfer y prosiect. Kittie Belltree yw’r Ymarferydd Creadigol, gydag Yasmin Begum yn cysgodi.

Mae cyfrol gyntaf o farddoniaeth Kittie Belltree, Sliced Tongue and Pearl Cufflinks (Parthian, 2019) yn archwilio cysylltiadau chwâl yr hunan, teulu a chartref. Mae ei cherddi a’i hadolygiadau mewn ystod o gyfnodolion ac mae ei ffuglen fer wedi’i gyhoeddi mewn blodeugerdd gan Honno, Cut on the Bias (2010). Enillodd Kittie Wobr Gair Creadigol DAC 2020 ac mae wedi derbyn Bwrsariaeth Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal â chyrraedd rhestr fer Gwobr Menter a chanmoliaeth uchel yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Cymru, Cystadleuaeth Gŵyl Farddoniaeth Penfro, Cystadleuaeth Barddoniaeth Camden a Lumen, a Gwobr Darllenwyr Orbis. Mae hi’n gweithio fel Tiwtor Arbenigol i fyfyrwyr niwro-ysbeidiol ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae hi hefyd yn dysgu ar y rhaglen Ysgrifennu Greadigol israddedig ac wrthi’n ddiwyd yn gorffen ei thraethawd ymchwil sy’n archwilio barddoniaeth a thrawma.

Mae Yasmin Begum yn awdur, ymarferydd creadigol, ymchwilydd, rhaglennydd ac actifydd ac yn byw yn ei thref enedigol, Caerdydd. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Theatr y Sherman ac fel Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Theatr The Other Room. Mae Yasmin wedi derbyn ysgoloriaeth awdur wedi eu tangynrychioli gan Llenyddiaeth Cymru ac yn ddiweddar mae wedi gorffen preswyliad lleol yn gweithio gyda National Theatre Wales. Mae hi’n angerddol am gynrychiolaeth grwpiau amrywiol a mynd i’r afael â gwahaniaeth hil a dosbarth yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Yn 2019, creodd brosiect treftadaeth ddigidol sydd bellach wedi’i archifo yn Archif Genedlaethol Cymru yn archwilio hanesion cudd ac etifeddiaethau grwpiau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Fel siaradwr Cymraeg, mae Yasmin hefyd wedi gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Hansh, S4C. Mae hi wedi ysgrifennu a chyfrannu cynnwys i Gal-Dem, Media Diversified, BBC Cymru Fyw ac eraill.

Wrth i Geiriau ar Gynfas symud tuag at gyfnod nesaf y prosiect, rydym yn gwahodd awduron ac artistiaid anabl i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol am ddim, dan arweiniad Kittie Belltree a Yasmin Begum.

Cynhelir y cynnig cychwynnol o ddau weithdy blasu / ymgynghori rhwng 3.00 – 5.00 pm ar ddydd Mawrth 1 ac 8 Rhagfyr 2020. Bydd y gweithdai hyn yn cynnwys gweithgareddau ac ymarferion yn ymwneud â geiriau o bob math ac yn gosod sail i ddyluniad cwrs hirach.

Bydd y gyfres hirach o 4-6 sesiwn (dyddiadau i’w cadarnhau) yn creu, cydlynu a dyfeisio geiriau a syniadau i gynhyrchu cynnyrch terfynol, naill ai blodeugerdd neu ffilm, y gellir ei rhannu’n ddigidol.

Meddai Kittie Belltree, Ymarferydd Creadigol: “Mae ysgrifennu yn offeryn rhagorol i archwilio, grymuso a bywiogi ein bywydau. Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymchwilio eu dychymyg, chwarae gyda geiriau a chyd-greu darn terfynol er mwyn arddangos ein hunain yn greadigol.”

Meddai Yasmin Begum, Ymarferydd Creadigol Cysgodol: “Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda Kittie Belltree. Mae gan bron i 1/5 o bobl yn y DU anabledd, ac mae’r prosiect arloesol hwn yn hyrwyddo ymgysylltiad â phobl anabl trwy gyfres o weithdai i greu prosiect cydweithredol i’w rannu gyda’r byd.”

Mae lleoedd ar gyfer y gyfres hon o weithdai yn gyfyngedig ac yn dilyn trefn cyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth, neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org